Y cyhuddiad mawr yn erbyn Luther ydoedd, nad oedd yn ymgadw o fewn terfynau, nac yn ufyddhau i'w uwchafiaid eglwysig. A phe gwnaethai hyny, am ddim ar a wyddom ni, buasai y diwygiad protestanaidd heb gymeryd lle hyd heddyw. Allan o drefn eglwysig, nid allan o drefn cydwybod a gwirionedd, y llafuriai Whitfield a Wesley, a rhai o'r tadau Methodistaidd yn Nghymru, y rhai oeddynt, ar y pryd, yn aelodau, neu yn weinidogion, yn yr eglwys sefydledig; ac oblegid yr annhrefn hwn, ni ellid eu goddef! Rhaid oedd naill ai eu diarddel neu eu hattal. Eu bwrw allan a wnaed, a hyny am wneyd yr hyn a gydnabyddid yn dda, ond yn unig ei fod allan o drefn. Onid gweddeiddiach a fuasai newid y drefn, yn hytrach na chau allan yr hyn oedd dda?
Achwynwyd ar Williams o Bant-y-celyn, fel y soniasom o'r blaen, yn fuan iawn ar ol iddo dderbyn urddau diacon, a chan yr afreolaeth y cyhuddid ef o hono, sef yn benaf, myned i bregethu i'r prif-ffyrdd a'r caeau, pallodd yr esgob a rhoddi iddo ei gyflawn urddau. Trowyd y Parch. Howel Davies allan o eglwys Llys-y-frân, nid gymaint am afreolaeth, ond am na allai y gynulleidfa oddef yr hyn a lefarid ganddo. Ni chyfarfu y gŵr parchedig hwn a gwrthwynebiad cryfach oddiwrth neb, nag a gafodd oddiar law ei frodyr eglwysig yr offeiriaid. Ac er nad oedd eto yn pregethu yn un man ond yn yr eglwysi a fyddent yn agored i'w dderbyn, eto cafodd yr eglwysi hyn yn fuan yn gauedig yn ei erbyn, fel yr oedd yn rhaid iddo, os pregethai hefyd, bregethu mewn lleoedd anghysegredig. Yr un modd hefyd y bu gyda'r Parch. P. Williams. Trowyd ef allan o eglwys Cymun gan y periglor, am ei halltrwydd yn pregethu yn erbyn anfoes y trigolion; ac heb fod yn foddlawn ar hyny, gosododd achwyniad yn ei erbyn wrth yr esgob hefyd, sef ei fod yn pregethu mewn plwyfydd eraill. Ceryddwyd ef yn llym gan yr esgob; gwaharddwyd iddo bregethu am dair blynedd, a'i yru allan o wydd ei arglwyddiaeth, gydag ychydig neu ddim hynawsedd.
Cafodd Daniel Rowlands arosiad hwy na'r brodyr uchod o fewn muriau yr eglwys sefydledig; ond myned allan a fu raid iddo yntau. Llafuriodd ynddi am 28 mlynedd, fel curad yn gyntaf i'w frawd, y Parch. J. Rowlands, yr hwn a fu farw yn anamserol mewn modd galarus yn y fl. 1760, trwy iddo foddi wrth ymdrochi yn Aberystwyth; a thrachefn i'w fab hynaf, yr hwn a gafodd y plwyf ar ol ei ewythr. Yr achos o droad Rowlands allan, fel y rhai a grybwyllwyd eisoes, oedd ei fod yn pregethu mewn lleoedd na chysegrasid, a'i fod yn myned oddiamgylch ar hyd y wlad i bregethu.
Gwnaeth iddo elynion trwy ddywedyd y gwir. Cenfigenai yr offeiriaid dilafur a diles wrth ei lwyddiant a'i boblogrwydd; teimlent yn dramgwyddedig oblegid yr athrawiaeth a bregethai, ac oblegid yr eiddigedd a ddangosai yn erbyn drygfoesau gwreng a boneddig. Ymddengys ddarfod ei alw o flaen yr esgob amryw weithiau, mewn canlyniad i'r achwynion a wnaethid yn ei erbyn. Dywedir i'r esgob ymresymu ag ef amryw weithiau yn nghylch yr hyn a dybid yn afreolaeth, gan ei gymhell i roi heibio yr arfer o wibio yma ac acw i bregethu. Dywedai Rowlands mewn ffordd o esgusawd,