"Berridge," ebe efe, "chwi wyddoch i mi fod yn gyfaill i chwi, a dymunwn barhau i fod felly. Yr wyf yn cael fy syfrdanu yn feunyddiol gan glerigwyr, ag achwynion yn eich erbyn. Rhoddwch i mi eich gair, yr ymgedwch o fewn eich plwyf eich hun; a chwi a gewch wneyd a fynoch yno. Nid oes genyf ond ychydig o amser i fyw; na ddygwch fy mhenwyni mewn gofid i'r bedd."
Gydag iddo ddywedyd hyn, dywedwyd fod yno ddau ŵr boneddig yn dymuno cael siarad â'r esgob.
"Berridge," ebe efe, "ewch i'r gwesty yn awr, a dychwelwch yma ymhen yr awr i giniawa gyda mi."
"Mi a aethum, ac wedi cyrhaedd fy ystafell, syrthiais ar fy ngliniau yn y fan. Gallwn oddef cael fy mygwth, ond ni wyddwn pa fodd i wrthsefyll deisyfiad, yn enwedig deisyfiad hen ŵr parchus.
"Dychwelais yn ol yn yr amser a nodasid. Ymddygwyd tuag ataf ar giniaw yn barchus iawn. Ciniawai y ddau foneddwr gyda ni. Deallais y rhoddasid gwybod iddynt pwy oeddwn, gan y gwelwn hwy weithiau yn bwrw golwg arnaf, fel pe buaswn yn rhyw anghenfil. Wedi ciniaw, cymerodd ei arglwyddiaeth fi i'r ardd."
"Wel, Berridge (ebe efe), a ddarfu i chwi ystyried fy nghais ?" "Do, fy arglwydd, ac mi fum ar fy ngliniau yn yr achos."
"Wel, a ydych chwi yn addaw na phregethwch mwyach allan o'ch plwyf?" "Rhoddai i mi wir foddhad (ebe finau) allu cydsynio â chais eich arglwyddiaeth, pe gallwn wneyd hyny gyda chydwybod bur."
"Cydwybod bur!" ebe'r esgob, "oni wyddoch chwi fod hyny yn groes i reolau'r eglwys?"
" Y mae un reol (canon), fy arglwydd, yn dweyd, 'Ewch a phregethwch yr efengyl і BOB CREADUR."
"Ond p'am y mynech chwi ymyraeth â dyledswyddau dynion eraill. Nid oes neb rhyw ddyn a all bregethu yr efengyl i bawb."
"Pe pregethent hwy yr efengyl eu hunain (ebe finau), afreidiol fyddai i mi bregethu i'w plwyfolion hwy; ond gan na wnant hyny, ni allaf finau beidio."
"Ymadawodd yr esgob yn ddigllawn. Dychwelais inau adref, heb wybod beth oedd yn fy aros; ond teimlwn yn ddiolchgar i Dduw am fod fy nghydwybod heb ei halogi. Ni chymerais ddim moddion tuag at hunan-ddiffyniad, ond dygodd rhagluniaeth fy nymuniad i ben mewn modd annysgwyliadwy. Pan oeddwn yn Clare-hall, yr oeddwn yn dra chyfeillgar ag un o fellows yr ysgol hòno, ac yr oeddym ill dau yn gyfeillgar â Mr. Pitt, sef y diweddar arglwydd Chatham, yr hwn hefyd oedd ar y pryd yn y brif-ysgol.
"Pan y dechreuais bregethu yr efengyl, troes y cyfaill hwn o Clare-hall yn wrthwynebwr i mi, a pharodd beth colled i mi mewn rhyw ragorfreintiau a fwynheid genyf gynt. Pan glywodd, pa fodd bynag, fy mod yn debyg o ddod i helbul, ac o gael fy nhroi allan o fy mhersonoliaeth, toddodd ei galon. Meddyliodd, tybygid, ynddo ei hun fel hyn, 'ni a ddygwn ddinystr rhyngom