Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/373

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

derbyn llawer mwy oddiwrth ei Fethodistiaeth, nag y dywedir ei fod oddiwrth ei guradaeth. Dywedir y cymunai rhai miloedd yn Llangeitho bob mis, cyn ac ar ol ei droad allan; ac arferol ydoedd i'r cymunwyr gyfranu rhyw gymaint o'u heiddo ar ddiwedd y cymundeb. Yr oedd llawer o honynt yn dlodion yn ddiau; ond yr oedd cryn nifer yn eu mysg yn alluog, ac yn ewyllysgar i gyfranu yn ehelaeth. Pa faint a allai y cyfanswm fod, sydd anmhosibl dyweyd, ac afreidiol ymofyn. Teilwng iawn i'r gweithiwr hwn ei gyflog, pa faint bynag ydoedd. Yr oedd arian y cymun, mewn amrywiol leoedd yr oedd cyfranu ynddynt, heblaw Llangeitho, yn cyrhaedd cryn swm.

Am y Parch. David Jones o Langan y bydd genyf air i'w ddweyd eto; ond tra y mae erlidiau eglwysaidd o'r fath a soniwn yn awr am danynt, dan sylw, cystal fydd i ni gyfeirio at amrywiol esiamplau eraill. Fel hyn y bu gyda Mr. Jones o Langan. Pan oedd yn gurad yn Nhrefethin, yn sir Fynwy, yr oedd yn dda rhyngddo a'r periglor, tra yr oedd Jones yn pregethu yn ddifywyd, ac yn byw yn ddiofal; ond yn y fan y deffrowyd ef am ei gyflwr fel pechadur, ac y dechreuodd bregethu gyda difrifwch ac egni, gwgodd ei feistr arno, a gorfu iddo ymadael. Yr un modd y bu arno eilwaith yn swydd Caerodor. Yr oedd ei weinidogaeth à gormod o wir ynddi i'w dyoddef, ac ymaith yr oedd yn rhaid i'r curad ffyddlawn fyned. Wedi iddo ymsefydlu yn Llangan, ni chafodd berffaith lonyddwch. Achwynwyd arno wrth yr esgob, ei fod yn gwibio allan o'i blwyf, ei fod yn pregethu yn ddifyfyr, neu o leiaf heb lyfr, ac mewn manau anghysegredig; a phan y galwodd yr esgob, Dr. Barrington, ef i gyfrif, eb efe, "Mr. Jones, dywedir wrthyf eich bod yn pregethu mewn lleoedd anghysegredig." "Naddo erioed, fy arglwydd (ebe yntau): pan y rhoddes Mab Mair ei droed ar y ddaear, darfu iddo gysegru pob modfedd o honi; oni buasai hyny, yr wyf yn ofni na wnai unrhyw gysegriad o eiddo eich arglwyddiaeth ddaioni yn y byd." Yr oedd yr esgob hwn yn ddigon call i adael llonydd iddo ar hyn. Rhoddwyd achwynion eilwaith yn ei erbyn i'r esgob Watson, yr hwn a ddaeth yn olynwr i'r llall; ac o'r braidd y cafodd Jones ddianc heb orfod myned ar ol y brodyr crybwylledig; eto goddefwyd iddo fyned rhagddo fel o'r blaen, ar yr ammod iddo ymgadw allan o ryw un neu ddau e blwyfydd neillduol.

Yn mlaen ar gynydd yr oedd Methodistiaeth yn myned er hyn oll. Cynyddu a wnaeth trwy nacâu urddau i Williams o Bant-y-celyn; cynyddu a wnaeth trwy erlid Peter Williams o bost i bentan-rhagddo yr aeth y diwygiad er bwrw Rowlands allan, a rhagddo yr aeth er cadw Jones, Llangan, i mewn. Yn mlaen yr âi, gwnaed a fynid. Nid oedd nacâu urdd i un, a bywioliaeth i arall, a bwrw y trydydd alian, a chadw y pedwerydd i mewn, ond yn cydweithio er daioni Methodistiaeth. Yr oedd llymder y naill esgob, a thynerwch esgob arall, yn cynyrchu yr un ffrwyth. Duw a roes orchymyn i Gymru gael efengyl, ac nid oedd bosibl i neb ei attal.

I'r dyben o lethu yr hyn a elwid yn Fethodistiaeth, trowyd Mr. Charles o'r Bala allan o dair eglwys, ac o'r diwedd canfyddai, os ewyllysiai gadw cydwybod i Dduw ac i'r gwirionedd, nad oedd dim amgen i wneyd, nag