Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/377

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn dadebru o'r llwfrdra a ddaethai drosto. "Nid wyf," ebe Harris yn hyf, "yn anfoddlawn i fyned i garchar, ac i angau, er mwyn eneidiau dynion; ac nid ydym, syr, yn y lle hwn yn codi terfysg na gwrthryfel yn erbyn gwlad nac eglwys. A fyddwch chwi, syr, yn darllen y Riot Act mewn cyfarfod ymladd ceiliogod, neu ryw gyfarfodydd cyffelyb?" Ond i hyn nid atebai; eithr bytheiriai fygythion yn erbyn Harris, ac yn erbyn y gynulleidfa.

"Mi a gymeraf sylw o hyn allan," eb efe, "o gynifer o honoch ag a allaf; ac oni ymwasgarwch oddiwrth eich gilydd, chwi gewch farw heb wasanaeth offeiriad na chlochydd."

Gan fod y dyrfa yn parhau i aros yn llonydd a digyffro, ebe Harris wrtho, "Ni a ymadawn, syr, a'n gilydd, ond i ni gael llonydd i weddio drosoch, na ddisgyno melldith y bobl hyn arnoch, ac na osoder hyn yn eich erbyn gan Dduw yn y farn, lle y bydd raid i chwi sefyll, nid fel ustus heddwch, eithr fel un rhwym i roddi cyfrif, pa fodd y darfu i chwi ddwyn cleddyf cyfiawnder, a gwneuthur barn union."

"Nid yw hyny yn blino dim ar fy meddwl i yn bresenol," ebe yntau. "Yna nyni a aethom (meddai Harris) i weddi, a thra yr oeddwn yn deisyf ar i Dduw gyfarfod ag ef, fel a Saul gynt, â'i gadwedigol ras, efe a aeth ymaith, a ninau ar ol dybenu a ymadawsom, a llawer o'r bobl yn wylo."

Yn y prydnawn, aeth Harris yn meddiant yr heddgeidwad at yr ustus, ac wedi peth ymddyddan, rhoes ddau feichiau dros ei ymddangosiad yn sessiwn Mynwy. Pan ddaeth yr amser, i'r sessiwn yr aeth, a daeth i'w gyfarfod yno, heb yn wybod iddo ef, lawer o gyfeillion crefyddol iddo, o Lundain, Caerloyw, a Chymru, i sefyll o'i du; ond ni roddwyd y cyfleusdra iddynt, oblegid ni thybiodd y pen-swyddogion, ar ol cydymgynghori o honynt yn nghylch y mater, yn addas sefyll yn ei erbyn; a gollyngwyd ef yn rhydd. Nid yw gyrfa Howel Harris, am rai blynyddau ar ol iddo ddechreu pregethu, ond cyfres ddifwlch o lafur caled o'i du ef, ac o erlid ffyrnig o du ei elynion.

Yn y fl. 1740, ni a'i cawn yn Nghastell-newydd-ar-wysg, lle y rhuthrodd y werin derfysglyd arno gydag eithaf cynddaredd. Torasant ddwy lawes ei gôt, un o honynt ymaith yn llwyr; cipiasant ei berwig oddiar ei ben, a gadawsant ef yn bennoeth yn y gwlaw. Ar waith Harris yn myned yn mlaen yn yr ystum oedd arno, dechreuasant floeddio a gwneuthur cynwrf drachefn, gan ei ergydio ag afalau, a lluchio tom a cherig ato, a tharawyd ef unwaith yn ei dalcen, nes oedd y gwaed yn ffrydio. Aeth oddiyma i Gaerlleon; ac ar ei waith yn dechreu pregethu yn y lle hwn hefyd, dechreuodd y lluaws derfysgu a rhuo yn ofnadwy, gan luchio tom a llaid, ŵyau gorllyd, a defnyddiau eraill, i'w wyneb. Cafodd un Mr. Seward, yr hwn oedd gydag ef ar y daith hon, ergyd tost ar ei lygad deau, yr hyn a barodd iddo boen dirfawr; a bu gorfod arno gael un i'w arwain dros rai dyddiau, gan i'r llygad arall glafychu; ac o'r diwedd, collodd un llygad yn hollol. Cyffelyb driniaeth a gafodd Mr. Harris yn nhref Mynwy, lle yr aeth ef a Mr. Seward o Gaerlleon. Yr oedd yno gyfarfod i redeg ceffylau ar y pryd. Cafodd Harris gyfleusdra