yn nghanol y terfysg a'r twrf, i ddwyn tystiolaeth yn erbyn campau yr oes, difyrwch ffol ac isel y boneddigion, ac yn erbyn puteindra a meddwdod, yn nghlyw y gwreng a'r boneddig ag oeddynt yn gynulledig yno ar y pryd.
Nis gwyddom pa un a bar fwyaf o syndod, ai ymroad a gwroldeb ysbryd y cenadwr, ai dygasedd a chreulondeb y rhai y ceisiai eu llesâu. Nid gwroldeb bychan oedd yn angenrheidiol yn y dyddiau hyny, i sefyll i bregethu y gwirionedd, er cael pob hamdden ar y pryd; ond gwroldeb llawer mwy a ofynid, i fyned i ganol cynulliadau y lluaws, yn eu ffeiriau, gwylmabsantau, a'u chwareu-gampau, i ddynoethi eu harferion, ac i alw arnynt eu gadael. Eto, fe roddid i Harris, ac eraill o'r hen ddiwygwyr, wyneb fel y pres, gogyfer â gwyneb y bobl; cynysgaethid hwy ag ymroddiad diblygu, a chaent nerth yn cyfateb i'r amgylchiadau. Archwyd unwaith ar Harris fyned i wylmabsant yn sir Faesyfed, lle yr arferai lluaws mawr o bobl ymgasglu yn flynyddol, i ganu, dawnsio, a meddwi. "Byddwn arferol (meddai) o fynych gyrchu i'r cyfryw gyfarfodydd, er mwyn cael cyfleusdra i lefaru wrth y bobl; a Duw, trwy hyny, yn gweled yn dda fendithio y gair, er troedigaeth i rai, ac argyhoeddiad i eraill, y cyfryw na fynent wrando pregeth byth mewn un lle arall." I'r wyl, gan hyny, yr aeth y gwron dewrwych hwn, a dechreuodd lefaru wrth y bobl, gan osod allan wagedd, ffolineb, a pherygl y fath arferion diles, ac annog y bobl i ymadael â hwynt, a dyfod at Iachawdwr pechaduriaid. O'r diwedd, cymerwyd ef i fyny gan ddau ustus heddwch; ac wedi dyoddef llawer o waradwydd y dirmyg, gwnaethant ysgrif i'w roddi yn ngharchar; ond wedi deall nad oedd hyny nemawr beth ganddo, rhwymasant ef, dan feichnïon, i ymddangos yn y chwarter sessiwn. Ond ar ei ymddangosiad yno, taflasant ei brawf i chwarter arall. Ymddengys fod bwriad gan ryw ddyhirwyr i ddwyn ymaith ei einioes ar ei ymddangosiad yn y llys. Yr oedd y dadleudy, lle y cynelid y llys, yn oruwch-ystafell, a rhes o risiau uchel i fyned iddi. Cyfleodd y terfysgwyr eu hunain ar ben y grisiau, gyda bwriad i'w wthio i lawr; a hyn yn ddiau a wnaethid, oni bae i un o swyddogion y llys ddeall eu hamcan, a chipio Harris o'u cyrhaedd, a'i gymeryd gydag ef i'w letty. Ymddangosodd eilwaith yn y chwarter canlynol, pryd yr oedd gŵr boneddig o'i gydnabod wedi gosod dadleuwr i sefyll drosto, a gollyngwyd ef yn rhydd. Arafodd y prawf hwn lawer ar eraill, y rhai oeddynt barod gyda'u gwarantau i'w ddal, a chanfyddent mai ofer fyddai eu gwaith yn ei erbyn yn y modd yma. O hyn allan, ni chafodd Mr. Harris nemawr o aflonyddwch oddiwrth ymosodiadau cyfreithiol; ond cafodd ffordd fwy agored i lefaru yn nhrefydd mwyaf Dehendir Cymru.
Y boneddwyr a'r clerigwyr a gymerent y blaen yn y dull cyfreithiol hwn o erlid. Nid oedd y dull hwn yn nghyrhaedd y werin; nid oeddynt hwy yn gwybod y gyfraith; ac nid oedd ganddynt fedrusrwydd, na moddion, nac amynedd i'w defnyddio; cyfraith y pastwn oedd eu cyfraith hwy, ac o'r gyfraith hon y gwnaent ddefnydd helaeth. Ond er mai y werin anwybodus a nwydwyllt a aflonyddent y cyfarfodydd, ac a faeddent y pregethwyr, eto, y rhan amlaf, fe'u gosodid hwy ar waith gan wŷr uwch eu gradd, a mwy eu