daenid am y crefyddwyr yn foddion dychweliad dynion; ac felly achosodd i fwyd ddod o'r bwytawr, ac o'r cryf felysder: daliodd y gelyn yn ei rwyd ei hun. Tybiodd rhyw ddyn ag oedd yn byw yn agos i Langoed, yn Môn, y mynai wybod pa gynlluniau drwg a ffurfid gan y penau cryniaid, yn eu cyfarfodydd neillduol, modd y gallai achwyn arnynt wrth ryw swyddog gwladol, a dwyn arnynt ryw echrys gosp, a gwobr fe allai iddo ei hun. Tybiodd mai y moddion sicraf iddo gael gwybod, oedd ymwrando ar eu hymddyddanion o'r tu ol i'r clawdd, pan yr aent i'r, neu y dychwelent o'r, cyfarfodydd hyny. Hyn, gan hyny, a wnaeth, a chlybu ryw dri neu bedwar o'r brodyr yn ymddyddan â'u gilydd wrth fyned o Langoed i'r Caenewydd, lle yn agos i'r fan y mae capel Pen-y-garnedd yn awr; a'r lle, y pryd hwnw, y cynelid y cyfarfod eglwysig. Wrth i'r dyn crybwylledig ymwrando, efe a glywai son mynych am enaid-mater enaid-myned o flaen Duw i'r farnwynebu tragwyddoldeb-iachawdwriaeth i'r colledig, a'r cyffelyb. Daliwyd ef yn y fan å syndod; methai gael y geiriau a glywsai allan o'i feddwl; yr oeddynt yn glynu wrtho fel saethau yn ei galon; daeth arno ystyriaeth a dwysder; llanwyd ef a braw, nes y bu nosweithiau heb gysgu: ond daeth i brofi y waredigaeth sydd yn Nghrist, a bu yn grefyddwr da dros weddill ei oes. Wele yma law Duw, a gras y Cyfryngwr. Cafwyd yr Arglwydd yn yr amgylchiad hwn gan un nad oedd yn ei geisio, a gwnaed ef yn eglur i un nad oedd yn ymofyn am dano. Efe a fwriadodd y peth er drwg, eithr Duw a'i goruwch-lywodraethodd er daioni. Ceisiai ef ddrwg i'w gymydogion; ond cafodd iachawdwriaeth i'w enaid ei hun. Yn y tro hwn, fel mewn llawer o rai cyffelyb, fe fu y moddion a luniwyd i attal crefydd yn ei blaen, yn foddion ei hyrwyddiad. "O'r Arglwydd y daeth hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni."
Mawr y cyffro a gymerodd le yn ngwersyll yr offeiriaid ar ymddangosiad y Methodistiaid yn y wlad. Pa mor ddiofal bynag y buont o'r blaen, teimlent ei bod yn awr yn bryd i ddeffroi o gwsg. Nid oedd ymladd ceiliogod, a chyfarfodydd dawnsio a chanu gyda'r tanau, troedio y bêl ar hyd y maesydd, a'i churo yn erbyn pared yr eglwys, ar ol gwasanaeth y Sabboth, yn peri dim aflonyddwch; ond yr oedd fod dynion cyffredin yn ymgasglu at eu gilydd i weddio, ac i ddarllen y Beibl, yn beth annyoddefol. Nid cyfarfodydd meddwi oedd yn eu blino, ond cyfarfodydd pregethu. Yr oedd fod gŵr cyffredin o amaethwr, neu grefftwr, yn cymeryd arno gynghori ei gydddynion yn ffordd bywyd tragwyddol, yn disgyn arnynt fel tân ar eu cnawd, ac ni allent ymattal. Yr oedd y pulpudau dystaw gynt, yn adsain yn awr gan dwrf y rhybuddion; y cynulleidfaoedd a gysgent gynt gan ddystawed y llais, yn cyffroi yn awr gan rym y floedd. Pa beth sydd? A bregethir rhyw heresi ddinystriol gan yr estroniaid gormesol? Na wneir; y mae eu hathrawiaeth yn gyson ag erthyglau eglwys Loegr. Pa beth ynte? Gwŷr heb urddau ydynt: gwŷr heb eu tynu trwy Rhydychain, ac heb eu hordeinio gan esgob. Ie, y mae y dygasedd yn cyrhaedd yn ddyfnach. Nid gwell croesaw y maent yn ei gael, er iddynt fod yn Rhydychain, ac er eu hordeinio