gan esgob; gan eu bod yn gwibio allan o'u plwyfau eu hunain, gan eu bod yn rhybuddio y bobl ddiofal, yn dynoethi drwg-arferion y wlad mor ddiarbed, ac yn condemnio y bugeiliaid anffyddlawn.
Oblegid hyn, rhaid oedd pregethu yn eu herbyn, ac arfer pob moddion, têg neu hagr, i'w rhwystro a'u llethu. Darllenwn yn "Nrych yr Amseroedd," fod canghellwr Owens, periglor Llanor, gerllaw Pwllheli, mewn cysylltiad â'i frodyr parchedig, wedi llunio cyfarfod i fod bob bore Mercher yn Dyneio, yn agos i Bwllheli, o flaen y farchnad, i bregethu yn erbyn y cyfeiliornadau dinystriol, yn eu tyb hwy, oedd yn ymdaenu ar hyd y wlad. Yr oedd y rhan fwyaf o eglwyswyr yr ardaloedd i ddyfod yno, a phob un yn ei dro i bregethu, gan ymdrechu yn egniol i wrthsefyll yr heresiau dinystriol ag oedd yn codi yn eu mysg. Eu testynau fyddai y rhai hyn a'u cyffelyb, "Ymogelwch rhag gau-broffwydi," "A chanddynt rith duwioldeb, eithr wedi gwadu ei grym hi,"—" Y rhai hyn yw y rhai sydd yn ymlusgo i deiau, gan ddwyn yn gaeth wrageddos llwythog o bechodau," &c. Ac nid digon oedd pregethu yn eu herbyn, a lledaenu chwedlau celwyddog am danynt, ac am eu cyfarfodydd; ond rhoddid yr argraffwasg hefyd ar waith, yn Saesonaeg a Chymraeg,[1] i'w dynoethi. Ni fuasai yr ysgrifenydd prin yn gallu credu y buasai gan neb wyneb i argraffu y fath haeriadau disail, nac i gyfansoddi y fath sothach bustlaidd, oni bae iddo weled yr ysgrifion a'i lygaid. Baich y cyhuddiad wedi y cwbl ydyw, fod dynionach diddysg yn ymwisgo â'r offeiriadaeth, heb fod o'r olyniad apostolaidd. Yr un cyhuddiad a roddir yn erbyn y Methodistiaid, ag a roddir gan y pabyddion yn eu herbyn hwythau, sef y diffyg mawr a sylfaenol sydd yn eu hurddiad, am nad yw yn dêg yn yr olyniaeth. Cymerir hwy i Corah a'i gynulleidfa am sefyll yn erbyn yr offeiriadaeth, a dygid ar gof i'r bobl mai nid Corah ei hun yn unig a gospwyd am y traha hwnw, ond i'w holl gynulleidfa ddisgyn yn fyw i uffern; "ac am hyny (meddir), chwi a welwch y perygl o wrando ar y crwydriaid rhyfygus hyn, ac o fod yn gyfranogion o'u pechodau." Sonid llawer iawn am y pechod o sism; a gelwid y diwygwyr yn sismaticiaid, sef ymranwyr, am eu bod yn peri anghydfod neu sism yn y corff. Dynoethid y pechod o sism mewn modd cethin iawn, gan ei osod, wrth gwrs, wrth ddrws y Methodistiaid; ac yna cyhoeddir uwch eu penau yr holl felldithion ag sydd ysgrifenedig yn y llyfr. Haerir mai ymadael a ffurfiau sefydledig crefydd, ac anmharchu ei gweinidogion, a fu yr achos o'r holl ddifrod, ysbeiliad, gorthrymder, a gwaed, a flinodd Ewrop am lawer o flynyddoedd; hyny yw, yn ol a fedraf fi ddeall yr ymadrodd, gwrthwynebu pabyddiaeth a fu yr achos o bob cyflafan yn Ewrop! Gresyn na fuasai y Parch. T. E. Owen, periglor Llandyfrydog, Môn, yn babydd; buasai cysondeb felly rhwng ei ysgrif a'i broffes.
" Y cyfryw yn ein dyddiau ni," medd yr awdwr hwnw, "ydyw y dosbarth rhyfygus hwnw o ddynion ag sydd yn peri cyffro ac afreolaeth dan rith lled-
- ↑ "Hints to Heads of families," a "Chynghor difrifol Periglor i'w Blwyfolion," a "Methodism Unmasked."