ysbryd; bryd arall, fe fydd yr oruchwyliaeth yn ymwisgo mewn ffurf llai naturiol, a mwy dyeithr a disymwth, eto, yn mhob ffurf yn farn ar y dyoddefwyr cyndyn, ac yn rhybuddion i edrychwyr diofal. Mae edrychwyr yn naturiol yn edrych ar oruchwyliaeth hynod a gyferfydd â dyn, yn ei chysylltiad â rhywbeth hynod yn yr hwn a fydd dani. Os cyferfydd goruchwyliaeth hynod â dyn hynod mewn annuwioldeb, naturiol ydyw edrych ar yr oruchwyliaeth hòno yn farn arno ef, ac yn rhybudd i eraill. Ond os cyferfydd goruchwyliaeth hynod â gŵr enwog ei ras, da ei gymeriad, a defnyddiol ei fywyd, y mae mor naturiol edrych ar y gyfryw oruchwyliaeth yn brawf arno ef, ac yn esiampl i eraill.
Dichon fod y sylwadau uchod yn angenrheidiol i ddangos i'r darllenydd yn mha ystyr yr ydym yn edrych ar ryw oruchwyliaethau a ddeuant yn awr ac eilwaith dan ein sylw yn ystod y gwaith hwn. Nid ydym yn gweled fod dim gwyrthiol ynddo ei hun yn ninystriad melin wynt y canghellwr; ond os ei eiddo ef yn unig a ddinystriwyd, a hyny mewn dull hynod a dyeithr, a hyn hefyd mewn cysylltiad â chreulondeb hynod ynddo yntau tuag at ddynion diniweid, y mae yn yr oruchwyliaeth duedd naturiol i beri i ni feddwl fod dyben neillduol gan Dduw yn y tro. Yn achos y llong, yr hon ni ellid ei chael i'r môr mewn un modd tra y bu ef byw, a'i chael ar ol hyny yn ddirwystr, y mae gwedd fwy gwyrthiol ar yr amgylchiad. Nid oes genyf yn ngwyneb hyn, fel llawer o droion hynod o'r cyffelyb, ond dweyd mai gormod a fyddai genyf wadu na ddichon y Goruchaf, ie, dan oruchwyliaeth y Testament Newydd, gyfryngu dan ryw amgylchiadau neillduol, ac i ryw ddybenion neillduol, mewn dull mor hynod ag a baro galondid nodedig i'w bobl, a dychryn arswydus ar ei elynion. Ac am ddim a wn i yn amgen, na allai fod y tro hwn yn gyfryngiad o'r fath. Diau genyf na anturiasai awdwr "Drych yr Amseroedd" i ysgrifenu y peth heb ei fod ef, o leiaf, yn credu ei fod yn ffaith anwadadwy.
Dygwyddodd i'r canghellwr anffawd arall. Trwy ryw amgylchiad, cododd ymrafael rhyngddo à rhyw hen ferch gythreulig ei naws ag oedd yn byw yn mhlwyf Llanor, o'r enw Dorothy Ellis, neu Dorti Ddu, fel y difenwid hi yn gyffredin. Hon ni adawai lonydd i'r canghellwr mewn un man, yn mysg na boneddig na gwreng, ond rhegai a melldithiai ef yn ddiarbed, gan haeru ei fod yn ceisio ei threisio. Safai ar ei gyfer yn yr eglwys pan y byddai yn pregethu, gan ei felldithio â'i holl egni. A thrwy orchest fawr y gellid ei chael allan. Rhwymid hi weithiau wrth bost y fynwent, rhag aflonyddu yr addoliad ganddi; ond yn y fan y gollyngid hi, rhuthrai i gyfarfod y canghellwr, gan syrthio ar ei gliniau noethion i'w regu, ac ni ellid mewn modd yn y byd ei dofi. Cyhoeddwyd ysgymundod yr eglwys arni. Gosodwyd cadair bwrpasol iddi yn yr eglwys i ddwyn ei phenyd, a chyfaddef ei bai; hithau, yn lle adrodd y geiriau ar ol y person, a ddywedai yn y gwrthwyneb, ac yr oedd bellach yn fwy cythreulig, os oedd yn bosibl, nag o'r blaen. O'r diwedd, gwaelodd iechyd y canghellwr, o herwydd ei bod yn ei boeni yn ddidor, a dybenodd ei daith yn anghysurus yn nghanol ei ddyddiau.