Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/392

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac er pob gofal a fu i gadw ei gorff rhag ei anmharchu ganddi, ac er iddo yntau cyn ei farw orchymyn cludo ei weddillion i Lanidloes, ei le genedigol, eto, methwyd ag attal y fenyw ystyfnig hon i fwrw ei llid ar ei gorff marw cyn ei gladdu, ac ar ei fedd, er pelled ydoedd, ar ol ei osod ynddo.

Rhoddid nodded i'r pregethwyr a'r crefyddwyr yn fynych rhag dialeddau yr erlidwyr, mewn dull a thrwy foddion tra annysgwyliadwy. Ymddangosai weithiau fel pe buasai Satan yn bwrw allan Satan, neu fod Satan wedi ymranu yn ei erbyn ei hun. Disgynai dychryn weithiau ar yr erildwyr, fel na byddai mwyach nerth yn eu breichiau. Codai yr Arglwydd ambell waith ryw noddwr galluog iddynt, yr hwn, er nad oedd yn un o honynt, a'r hwn, efallai hefyd, nid oedd yn meddu grym duwioldeb, ac ofn Duw, eto yn caru gwneuthur yr hyn oedd deg a chyfiawn.

Yr oedd yn nghymydogaeth Rhyd-y-clafdy, ger Pwllheli, ŵr lled ieuanc yn byw mewn tŷ ar lain o dir cyffredin yn y gymydogaeth. Yr oedd y dyn yma yn peri ei arswyd yn nhir y rhai byw. Paffiwr cethin ydoedd, ac yn cael ei ystyried yn brif ymgecrwr y gymydogaeth. Deallwyd fod pregethwr i'w ddysgwyl i'r pentref ar brydnawn Sabboth, dros gan' mlynedd yn ol; ond nid oes enw wedi ei gael arno, nac adnabyddiaeth o ba le y daethai. Erbyn ei ddyfod i'r lle, ni chaniateid iddo dŷ neb i sefyll wrtho. Yr oedd trigolion y pentref, gan mwyaf, yn denantiaid i foneddwr ag oedd yn byw yn y Wern-fawr y pryd hwnw, yr hwn ei hun oedd yn erlidiwr creulawn ar y crefyddwyr. Anfonodd hwn ei was, yr hwn a elwid Harri deneu, i'r lle, o ddyben i aflonyddu ac erlid. Pan welodd y paffiwr fod pawb yn ymosod ar y pregethwr druan, a chanfod, ond odid, le cyfleus iddo ddangos ei wroldeb a'i ddylanwad, fe waeddodd allan, "Fe gaiff bregethu yn ymyl y ddas dowyrch wrth fy nhŷ i, er gwaethaf pawb; ac mi edrycha' i am chwareu teg iddo hefydd." Hon oedd y bregeth gyntaf gan y Methodistiaid yn y gymydogaeth hòno. Gwisgai y pregethwr, medd yr hanes, napcyn neu gadach glâs ar ei ben, gan ei bod yn bwrw gwlith-wlaw yn ddwys ar y pryd. Swper y pregethwr dyeithr y noson hòno, yn nhŷ yr ymladdwr, oedd frechdan o fara ceirch, a thatws oerion, a'i foreufwyd dranoeth oedd sican gwyn a bara ceirch. Daeth i'r pregethwr ymwared o le nad ellid ddysgwyl, ac oddiwrth greadur tra annhebyg; yr hyn a brofai fod calonau dynion yn llaw Duw, ac y dichon efe ddefnyddio offerynau lled chwythig yr olwg i ddwyn o amgylch ei amcanion ei hun. Dywedir hefyd mai yn nhŷ yr ymgecrwr mawr uchod y bu y cyfarfod eglwysig yn cael ei gadw hyd nes y codwyd y capel. Dywedir hefyd fod mwy na chan' mlynedd er pan godwyd y capel cyntaf yn yr ardal hon. Adroddwyd yr hanes uchod gan ŵr 75 mlwydd oed, yr hwn a glywsai y chwedl lawer o weithiau gan ei daid.

Dygwyddodd tro lled gyffelyb i John Davies, Nantglyn; yn Ninbych, yn fuan ar ol iddo ddechreu pregethu. Am y tro hwn, dywedai John Davies ei hun, wedi heneiddio o hono, wrth gyfaill iddo: "Aethum i Ddinbych ryw Sabboth, i edrych a gawn i lonyddwch i bregethu yno. Can gynted ag yr aethum i'r dref, aeth yn gyffro ac yn ferw mawr trwyddi. Y crach