Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/395

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhai o honynt eu cosbi am y fath ymddygiad gwarthus Camgymeryd y diwrnod a fu yr achos iddynt ymosod ar y gŵr boneddig. Dranoeth, yr oedd addewid i'r pregethwr fod yn y dref; ac o herwydd y bra a gafodd pobl y dref yn achos y gŵr boneddig, ni feiddiodd neb ei erlid, ond cafodd fyned a dyfod yn heddychol, heb neb yn aflonyddu arno."

Gwir a ddywed yr hen ddiareb, "Drwg y ceidw y diawl ei was." Cafodd y gwŷr uchod brawf o galedi y gwasanaeth yn y tro hwn; eto, goruwchlywodraethwyd ef i ganiatâu l'onyddwch i'r diniwed dranoeth, ac i beri, ond odid, radd o ddiflasder i'w wrthwynebwyr ar y gwaith o erlid.

"Bu tro lled debyg yn Nghorwen," medd yr un awdwr. "Yr oedd dau ddyn a fyddent yn arfer prynu moch, yn myned trwy'r dref ar fore oer iawn, a chanddynt gadachau am eu penau. Dechreuodd pobl y dref ymosod arnynt yn egniol, gan dybied mai pregethwyr oeddynt. Ond beth a wnaeth y rhei'ny ond troi arnynt yn wrol, heb brisio beth a gaent gyntaf i'w dwylaw i'w taflu atynt, nes y ffôdd pawb i'w pebyll, megys y gwnaeth yr ysbryd drwg gynt â meibion Scefa."

Defnyddid pob math o ddyfais ymron, i flino a niweidio y crefyddwyr. Ymddygai dynion fel pe buasai ganddynt hawl i'w hafionyddu hwy, a chymerent ryddid i'w drygu, y fath na feiddient ei gymeryd, er dim, gyda neb arall. Cymerid yn ganiataol mai creaduriaid i'w herlid oeddynt, fel yr ysgyfarnog gan y ci. Clywais fod chwedl wedi myned ar led, fod y draenog yn arfer sugno y gwartheg; coeliwyd y chwedl, a phenderfynwyd ei ddyfetha. Creadur llariaidd ac amyneddgar ydyw mewn gwirionedd, ond aeth yn arfer gyffredin ei faeddu, ac yn syniad mai hyny a ddylid. Yr un modd yma; ymledaenasai y dyb mai gwŷr oedd y pregethwyr a'r crefyddwyr Methodistaidd cyntefig i'w dal ac i'w dyfetha. Nid oedd y gwŷr mawr yn rhy foneddig i'w herlid hwy, a thybiai y werinos y gallent hwythau wneyd yn hyf arnynt. Gan amlaf, digon a fyddai gan yr erlidwyr eu haflonyddu, a'u dirmygu; dyrysu eu hamcanion crefyddol, a bwrw sarhad ar eu cymeriad fel dynion; gan eu gosod allan fel rhai a fyddai yn cynllwyn yn ddirgelaidd yn erbyn heddwch y wlad a'i sefydliadau. Eto ar ryw achlysuron, ni phetrusent fyned yn llawer pellach, gan ddefnyddio moddion tra niweidiol a pheryglus.

"Yr oedd cyfarfod rywbryd," medd awdwr Drych yr Amseroedd, "wedi ei gyhoeddi yn Rhos-y-Tryfan (nid yn mhell o dref Caernarfon), ar brydnawn Sabboth, a daeth lluaws ynghyd i wrando. Yr oedd gan ŵr yn y gymydogaeth darw a fyddai yn arfer rhuthro yn erchyll, fel yr oedd yn berygl bywyd myned yn agos ato. Trödd y gŵr yr anifel yn union at y gynulleidfa; ac yr oedd yn dyfod yn mlaen dan ruo a lleisio yn ddychrynllyd, tuag at y bobl. Ond cyn ei ddyfod atynt, canfu fuwch enyd oddiwrtho; gadawodd bawb yn llonydd, a rhedodd ar ol hòno. Addawodd Duw wneuthur ammod dros ei bobl ag anifeiliaid y maes, &c. Ond yn mhen tro o amser, rhuthrodd y creadur afreolus ar y gŵr ei hun, gan ei gornio yn ddychrynllyd; ac o'r braidd y cafodd ddianc gyda'i einioes." Rhaid fod naws