mileinig ar ysbryd y dyn a allai droi anifail o'r fath i blith cynulleidfa o bobl. Ymddangosai hwn fel un yn gwir sychedu am waed; ac y mae i waed yn aml lef ag a fydd yn cyrhaedd clustiau Arglwydd y lluoedd, yr hwn a ddywedodd, "Myfi bia dial, myfi a dalaf, medd yr Arglwydd."
Fe ddichon y byddai dynion yn fwy hyf i erlid, am y tybient mai pobl lonydd oedd y crefyddwyr, ac y ceid gwneuthur a hwy fel y mynid; ac fe allai hefyd fod crefyddwyr yr oes dan ddylanwad y syniad mai ymaros a dyoddefgarwch a weddai i'r efengyl, a chan ystyried mai braint oedd iddynt gael dyoddef anmharch er mwyn enw Crist, wedi rhoddi achles iddynt dybio felly, llawn cymaint hwyrach, mewn rhyw amgylchiadau, ag oedd yn ddoeth iddynt ei wneyd.
Tua'r fl. 1769, cynaliwyd cymdeithasfa ar faes gerllaw pentref Llanllyfni, sir Gaernarfon. Yr oedd offeiriad y llan, fel yr oeddynt ymron oll, yn flin arno o herwydd y Methodistiaid, ac yn fawr ei benbleth a'i ffwdan yn ymofyn pa fodd y gallai rwystro i'r cyfarfod gael ei gynal. Gwnai fanwl ymofyniad, ai nid oedd neb ar gael a gymerai arno y gorchwyl o afionyddu yr odfaon, trwy guro padell, neu wneuthur rhyw drwst mawr trwy ryw offer neu gilydd. Yr oedd y gwasanaeth a ofynid gan y gŵr parchedig, pa fodd bynag, yn rhy isel gan amryw ei wneyd: nid yn rhy isel ganddo ef ei gynyg, eithr yn rhy isel gan ei blwyfolion ei wneuthur. Ond ar ol methu gydag amryw, fe lwyddodd gyda rhyw ddyn mwy ei ystryw a'i ddireidi na'i gilydd, o'r enw Evan Thomas, i gyflawni y gwasanaeth anrhydeddus (?) drosto, ar yr ammod ei fod i gael ei wala o fwyd a chwrw cyn dechreu. Gwahoddwyd Evan i'r tŷ, a chafodd fwyta ac yfed hyd y mynai. Yna aeth i'r cae â'r badell gydag ef, tua'r amser y tybid y gallai yr aflonyddwch fod yn fwyaf effeithiol; ond yn lle curo y badell, trödd Evan yn ei ol yn ddisymwth oddiwrth gwr y gynulleidfa; pryd y gofynai y person iddo,
"Paham y bu hyn, Evan?--paham na fuasit ti yn curo y badell ?" "Ofn a'm rhwystrodd, fy meistr," ebe Evan.
"Ofn yn wir! paham yr ofnit?"
"Pobl ffyrnig a chreulawn ydynt, syr, ac ofnwn mai fy nghuro yn ddidrugaredd a gawswn i ganddynt, pe buaswn yn anturio curo y badell."
"Nage, Evan," ebe y person, "pobl ydynt y cewch eu trin fel y mynoch." "Ie, meistr, rhai felly ydynt hwy; ond y mae yn eu mysg bobl ganol, nad ydynt na hwy na ninau. Dyma y rhai a ddeuant am ein penau, ac a'n lladdant. Gwell, yr wyf yn meddwl, ydyw eu gadael yn llonydd."
"Wel," meddai y person, "hwyrach mai eu gadael hwy yn llonydd ydyw y goreu."
Ymddengys yn yr amgylchiad hwn, mai amcan Evan oedd llenwi ei gylla ar fwrdd y person, ac erlid y crefyddwyr. Gwyddai cystal a'r person, mai pobl lonydd a diniwed oedd y crefyddwyr, a ffugiai ofn rhag eu haflonyddu. Ond ni oedd y gŵr urddasol mor dyner ei deimladau; eithr wedi methu yn ei amcan gydag Evan, llwyddodd gydag un arall, yr hyn a aeth i'r maes, ac a gurodd y badell mor effeithiol, nes gorfu i'r pregethwr roi