unig, ac a'm cynorthwyodd i lefaru gwirioneddau eglur; felly ar y pryd hwn, angenrheidrwydd a osodwyd arnaf i bregethu y gwirionedd mawr hwnw, a ddadguddiodd efe i'm henaid fy hun, sef rhyfeddol ymddarostyngiad Duw, yn cymeryd arno ein natur ni, yn cymodi y byd ag ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau: -Ei fod ef yn Dduw yn nghroth Mair, pan gymerodd ein natur arno, gan osod ynddo ei hun sylfaen ein hiachawdwriaeth a'n gwaredigaeth ni; -a'i fod ef yn Dduw goruchel yn ei enedigaeth wael, a'i gadachau, yn y preseb! ac yn ei holl ddyoddefiadau, mai efe ydoedd yr YDWYF mawr, yr ALPHA, a'r OMEGA! ac nid oes Duw arall ond Efe. Y mae tri pherson, ond un Duw. A'r rhai a addolant Dduw arall heblaw efe, sy'n addoli eilun, oblegid "ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn gorfforol," Col. ii. 2. A phan ddaeth yr amser i wneuthur cymod dros ein pechodau ni, pan ddyrchafwyd ef, yr Aberth mawr, ar allor y groes, yr oedd holl naturiaeth, a daear ac uffern, mewn cyffro, neu derfysg; yr haul a dywyllodd, y ddaear a grynodd, y meirw a ddeffroisant, ac a gyfodwyd, &c., fel yr ymofynai pawb, Pa beth ydyw achos ac ystyr hyn oll ? "Y CREAWDWR GALLUOG SY'N MARW." — Dr. Watts.
"Mi aethum yn mlaen fel hyn dros rai blynyddau trwy Gymru, gan ddwyn tystiolaeth i'r gwirioneddau hyn yn ngwyneb proffeswyr cnawdol, Ariaid, a Sociniaid, y rhai a'm difenwent, ac a godent oll yn fy erbyn. Er i hyn droi allan yn achos llawer o rwgnach, ymryson, ac ymraniad; etto yr wyf mewn bywiol obaith y bendithia yr Arglwydd ei wirioneddau ei hun, yn ei amser cyfaddas, hwyrach wedi i mi 'fyned, ac na byddwyf mwy."
Ymddengys oddiwrth y dyfyniad uchod, fod Mr. Harris yn barnu iddo gael rhyw olygiadau ar berson Crist, gwahanol i, neu yn rhagori ar, eiddo ei frodyr; ond yn mha beth yr oedd y gwahaniaeth, nid yw yn ymddangos. Fe ddywed fod proffeswyr cnawdol, yn nghydag Ariaid a Sociniaid, yn ei ddifenwi, ac yn codi yn ei erbyn; ond pa un ai yn mysg ei gyd-lafurwyr yr oedd ef yn tybied fod y cyfryw, ai yn mysg ei wrthwynebwyr cyhoeddus, nid yw yn dywedyd. Temtir fi i ddychymygu fod y gŵr da hwn, gan deimladau angherddol, oddiar y golygiadau a gawsai ar y gwirioneddau y cyfeirir atynt, yn arfer ymadroddion cryfion iawn; a chan na allai gael ei gyd-lafurwyr i gydweled ag ef yn gwbl am gywirdeb neu briodoldeb rhai o'r ymadroddion, ei fod wedi ymosod arnynt, fe allai yn anfrawdol, a bod eiddigedd tanbaid ei ysbryd dros yr hyn a farnai oedd wedi ei ddadguddio iddo, wedi ei demtio, o bosibl, i ddynodi ei frodyr yn ddynion cnawdol, ïe, gwyrog eu syniadau. Hwythau, o'r ochr arall, a dybient, ond odid, fod Mr. Harris yn cario ei olygiadau yn rhy bell, a'i fod yn defnyddio ymadroddion anmhriodol, ac oddiar y dyb hon gwrthwynebent ef, a hyny, fe allai, mewn ysbryd a dull ag a dueddai i'w archolli, ac nid i'w argyhoeddi. Yr oedd gwrthwynebiad oddiwrth ei frodyr yn beth dyeithr hollol i Mr. Harris; hyd yn hyn perchid ef, a gwrandewid arno fel tad; a thad ydoedd mewn gwirionedd i'r rhan fwyaf o broffeswyr y dyddiau hyny. Yr oedd Mr. Harris wedi ei ddewis yn olygwr dros holl Gymru, pryd yr oedd yr holl frodyr eraill wedi eu gosod