barn; a chyfraith a fedrai dynu y diwygiad hwnw i lawr. O'u hanfodd yr ymostyngasai y clerigwyr i ddeddfau Edward, ac yn y fan y cawsant ryddid, dangosent eu hochr. Mewn llai na thair blynedd, aberthwyd 288 o Brotestaniaid ar allor merthyrdod, ac ennillodd y frenines, yn dra theilwng, y nodweddiad gwrthun Mari Waedlyd. Gwelodd yr Arglwydd yn dda gwtogi ei hoes; ac wedi pum mlynedd o deyrnasiad creulawn, hi a fu farw ar Tach. 17, 1558, er mawr lawenydd i'r rhai oll a garent y gwirionedd, ac er mawr ymwared i eglwys Dduw, a gofid dirfawr i eglwys Rhufain.
Dylynwyd hi ar yr orsedd gan Elizabeth. Ar ddyfodiad y frenines hon i'r goron, dychwelodd llawer o'r ffoaduriaid a aethent i wledydd tramor rhag creulondeb Mari,—daeth lluaws mawr o gyfeillion y diwygiad yn awr i'r golwg, y rhai oeddynt wedi bod yn llechu yn ystod yr ystorm. Dychwelwyd eilwaith y wedd ddiwygiadol ag oedd ar bethau yn amser y brenin Edward VI, a galwyd ar yr holl glerigwyr, o fawr i fân, i gydffurfio â'r gosodiadau newyddion hyn. Gallwn feddwl fod hyny yn groes iawn i duedd lluaws mawr o honynt, y rhai oeddynt, naw o bob deg o leiaf, yn Babyddion mewn barn (pe barn a fuasai ganddynt) a thuedd; eto, cydffurfio a wnaeth mwy na naw mil o honynt, y rhai a ddalient bersonaethau. Yr oedd y naw mil hyny yn bedwar-ar-bymtheg allan o bob ugain o honynt. Rhaid fod gan y gwŷr hyn gydwybodau ystwyth iawn. Eu crefydd hwy, tebygid, oedd cydredeg gyda'r llu, yn enwedig pan fyddai hyny yn cyd-daro â'u hesmwythder ac â'u helw hwy eu hunain. Yn nwylaw y dynionach hyn, yr oedd y gwirionedd, ac eneidiau dynion yn cael dirfawr gam. Ychydig a wyddent am wir grefydd, a llai na hyny oedd eu gofal am dani. Nid oedd ond ychydig o honynt a fedrai bregethu. Yr oedd newyn mawr am air yr Arglwydd trwy yr holl wlad. Hefyd, trwy fod y cyfreithiau dros unffurfiaeth yn gaethion iawn, codai drwg arall; parent i ddynion anrasol a difarn ragrithio, ac archollent gydwybodau dynion eraill: dynion y buasai da cael eu gwasanaeth a droid heibio, a dynion diwerth, heb gydwybod yn y byd i'r gwirionedd, a gedwid i mewn, yn unig am eu bod yn gallu cydffurfio â'r defodau gosodedig. Oherwydd y pethau hyn, fe fu y wlad yn hir mewn tywyllwch. Ychydig iawn o arwyddion bywyd a geid ond mewn nifer bychan o fanau. Priodolid y marweidd-dra hwn gan y Pabyddion i'r diwygiad Protestanaidd; ond y gwir ydyw, fod hyny yn perthyn i anwybodaeth ac anfedrusrwydd dynion a gymerent arnynt ddysgu yr hyn nid oeddynt yn ei gredu, ac ymwisgo â swydd yr oeddynt yn gwbl annigonol i'w chyflawni.
Wele ni, bellach, wedi gweled dymchweliad Pabyddiaeth yn y wlad hon, a Phrotestaniaeth yn grefydd sefydledig y wladwriaeth. Wele y llanau ymron oll yn meddiant offeiriaid a broffesent Brotestaniaeth, ond a garent Babyddiaeth. Yr un oedd y llanau, yr un oedd y clerigwyr, a'r un oedd llawer o'r defodau. Yr oedd iachusrwydd mwy yn yr erthyglau, ac yn y gweddiau: yr oedd nifer yr ofergoelion, a'r defodau gweigion yn llai: eto, yr oedd bywyd, yn y lle y dylasai fod yn anad unlle, yn y gweinidog, y swyddog eglwysig, yn ddiffygiol; ac am hyny, yr oedd gwir grefydd heb nemawr o swcr. Yr