Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/412

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni fu Howel Harris fyw yn hir ar ol hyn. Bu farw ei wraig yn mhen dwy flynedd ar ol y cyfarfod crybwylledig, ac yntau ei hun yn mhen llai na phump, sef yr 2lain o Orphenhaf, 1773, yn y 60ain flwyddyn o'i oed. Claddwyd ef yn agos i fwrdd yr allor, yn eglwys Talgarth, yn y fan lle yr argyhoeddasid ef o bechod, ac y cawsai yr amlygiad cyntaf o Grist i'w enaid. Gadawodd un ferch ar ei ol.

Er prawf chwanegol fod hen archollion yr ymrafael gynt wedi eu hiachau, a bod yr hen dadau Methodistaidd ac yntau yn llochi teimladau tyner tuag at eu gilydd, hysbyswyd i mi amgylchiad arall, yr hwn a ddygwyddodd pan oedd Harris yn gadben yn y Militia. Cyhoeddwyd y cynelid cymdeithasfa y Methodistiaid yn Llanymddyfri ar ryw adeg benodol, a daeth rhyw nifer o bregethwyr yno i'w chadw, gan fwriadu pregethu allan yn heol y dref, oddiar gareg fawr a ddefnyddid y pryd hyny, ac yn mhell ar ol hyny, yn gareg farch. Penderfynodd gelynion crefydd rwystro y cyfarfod, ac ymbarotôdd nifer o ddynion i aflonyddu yr addoliad, ac i faeddu y pregethwyr, a'u hymlid allan o'r dref. A phan y gwnaed cais ar bregethu, ymosodasant yn ffyrnig ar y pregethwyr, a deallwyd yn bur fuan fod pob gobaith llonyddwch yn diflanu, ac ymroisanti gilio o'r dref, gan gyfeirio eu camrau gyda brys tua Phant-y-celyn, i lechu ac i orphwys. Ond ar y ffordd, cyfarfu a hwynt Cadben Howel Harris, mewn hugan fawr yn cuddio ei ddillad milwraidd. "Ho!" ebe efe ar ei waith yn adnabod y pregethwyr, ac yn deall eu ffoedigaeth, "pa beth yw hyn? Deuwch gyda fi yn ol." Gydag ef y dychwelasant, a gwnaed ail gais ar bregethu. Deallodd yr erlidwyr hyn hefyd; ac yn fwy ffyrnig nag o'r blaen ymosodasant ar y penau cryniaid. Safodd Harris i fyny, gan geisio eu darbwyllo i wrando arno, ac i fod yn llonydd. Ond ni fynent roi clust iddo mewn un modd, nac mewn gradd yn y byd; ond dechreuent chwyrn-daflu y cerig ato gyda ffyrnigrwydd cythreulig. Ar hyn galwodd Harries am osteg yn enw Brenin y nefoedd ; ond nid oedd neb yn gwrando. Yna diosgodd yr hugan, a datguddiodd ei wisg filwraidd, gan waeddi yn awdurdodol, fel y gwnai ar ei wŷr, "Llonyddwch! yn enw brenin Lloegr." Llwyddodd hyn i lonyddu y dorf gyffrous mewn mynyd; delid hwy oll â syndod disymwth, ac a braw mawr; a chafodd Harris fantais i edliw iddynt leied oedd eu parch i Frenin breninoedd, pryd na roddent osteg iddo ef am fynyd; ond yn llonyddu yn y fan ar ei waith yn defnyddio enw brenin daearol. Cafodd y pregethwyr eraill lonyddwch i gynal y gymdeithasfa yn ei gysgod.

Mae cymeriad Howel Harris, pa faint bynag a geblid arno gynt, a pha faint bynag o achlysur a roddasai yntau oddiar gamsyniad neu oddiar nwyd, yn sefyll yn uchel eto fel diwygiwr enwog, a Christion gloyw. Dechreuodd ar ei waith pan oedd eto ond bachgen ieuanc, bychan ei wybodaeth a'i gyrhaeddiadau yn mhob ystyriaeth; ond efe a aeth rhagddo oddiar uniondeb ei galon, gyda gwres a nerth anarferol, heb gymeryd ei ddychrynu gan fygythion, na'i hudo gan ddeniadau byd a chnawd. Ufyddhäai yn y fan i gynhyrfiadau ei galon at ryw ddaioni; ac er i hyny ei fradychu, o ddiffyg pwyll ac