Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/413

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymgynghoriad, i rai amryfuseddau; eto fe fu hyny yn foddion i osod ysgogiad ar gychwyn yn Nghymru, y cyrhaedd ei effeithiau y wlad oll hyd oesoedd maith. Ymddengys fod ynddo nodau gwir weision yr Arglwydd yn amlwg iawn, sef gwasgfa meddwl am iachawdwriaeth dynion a gogoniant Duw; a medrusrwydd yn ngweinyddiad y swydd i gyrhaedd yr amcan hwnw. Yr oedd materion, ymadroddion, a dull Howel Harris, yn addas at wybodaeth ac arferion ei wrandawyr, a llwyddai yn anad neb ymron i ddeffro eu cydwybodau. Nid ceisio dangos ei hun fel pen-athraw a dysgawdwr doeth yn ngolwg dynion yr oedd; ond o wir wasgfa meddwl, ymdrechai i lefaru dros Dduw wrth ddynion, i achub eu heneidiau, i ddangos eu perygl yn ddeffrous, ac i'w rhybuddio i ffoi rhag y llid a fydd.

"De'wch, gwrandewch ef yn pregethu
Calon ddrwg lygredig dyn,
Ac yn olrhain troion anial,
A dichellion sy' yno y'nglŷn;
Dod i'r golau á dirgelion
I'r rhai duwiol oedd y'nghudd,
Agor hen 'stafelloedd tywyll
Angau glâs i oleu'r dydd.

"De'wch, gwrandewch ef yn agoryd,
Dyfnder iachawdwriaeth gras!
Gosod allan y Messia
Yn y lliw hyfryta' maes;
Ac yn dodi'r cystuddiedig
Ag sy'n ofni ei ras a'i rym,
Fel i chwerthin o orfoledd,
Ac i 'mado heb ofni dim."


Yr oedd agwedd Cymru yn isel a digalon iawn ar y pryd yr ymosododd Harris ar ei orchwyl; ac efe oedd y cyntaf o bawb a ddefnyddiwyd i wynebu yr anialwch gwyllt. Arno ef y disgynodd blaen y gawod erlidus; efe a alwyd i arloesi y ffordd o flaen ei frodyr; ac fel Ioan Fedyddiwr gynt, gwnaeth hyny gydag egni a ffyddlondeb, a chiliodd yn fuan i dir neillduaeth. Pryd y cododd Harris, yr oedd caddug o anwybodaeth yn gorchuddio Cymru yn gyffredinol, ymarferiadau crefyddol yn anaml, a phob oferedd ac anfoes yn fawr eu rhwysg, ac yn uchel eu penau. Yr oedd creulondeb y preswylwyr tuag at Harris yn mhob man ymron, yn arwydd o'u dallineb mawr, ac o'r ysbryd cythreulig oedd yn eu llywodraethu. Y pryd hwnw, fel y dangoswyd o'r blaen, nid oedd un dyn mewn llawer o blwyfydd yn medru darllen, nac yn ymgyrhaedd at hyny; a chyn amser y Parch. Griffith Jones, nid oedd yr ymdrechiadau a wneid at oleuo y wlad ond ychydig, a'r rhai hyny yn wanaidd ac aneffeithiol. Gan nad oedd gwybodaeth o Dduw yn y wlad, yr oedd drwg foesau, ofergoeledd, twyll, ac amryfusedd, effeithiau naturiol anwybodaeth, yn ffynu yn y tir, ac yn llygru yn arswydus bob parth o'r wlad. Medd bardd Pant-y-celyn,—