erbyn Mr. Harris, er na wnaethai efe un cais i ddenu neb ato, ac na ddefnyddiodd ddim moddion i feddiannu eu heiddo; yn unig derbyniai yn ddiolchgar yr hyn a gyfrenid yn wirfoddol tuag at gynaliaeth y teulu. Yr oedd rhai o'i ddylynwyr, mae'n wir, yn myned ar hyd y wlad i wahodd a chymhell rhai i fyned i Drefeca; ond fe wneid hyn heb yn wybod iddo ef, ac yn ddiamheuol yn groes i'w ewyllys: eto, gan y derbynid y bobl a âi i ffordd ganddo, rhoddid yr holl fai wrth ei ddrws ef. Addefai na allai eu gwrthod pan y deuent ato, gan daer erfyn am gael aros gydag ef, i fwynhau ei weinidogaeth a'i gynghorion.
Tra yr oedd plaid Harris yn y modd yma yn lleihau ac yn gwanychu, yr oedd plaid Rowlands yn cryfhau ac yn chwanegu. Deuai ambell un o'r gwŷr dawnus ag oedd gydag ef, yn awr ac eilwaith trwy y wlad, a bendithid eu gweinidogaeth nes peri adfywiad ar yr achos crefyddol yn y lle hwnw. Yr oedd yr anhawsder i gael pregethu yn cynyddu yn feunyddiol i'r rhai a barhaent yn wrthwynebol i Rowlands, ond yn lleihau i'r lleill. Yr oedd y pregethwyr tanbaid a gwlithog a fu unwaith yn teithio trwy y gwledydd, ac a wnaethpwyd yn dra bendithiol yn ystod eu teithiau, yn dyhëu am ymweled eilwaith â'u hen gyfeillion, ac am gael cyfleusdra drachefn i rybuddio dynion cysglyd. O'r ochr arall, yr oedd nifer mawr, bellach, o'r proffeswyr ieuainc, a'r cynulleidfaoedd amddifaid, yn dechreu ymollwng yn eu rhagfarn, ac yn hiraethu am gael clywed gair y bywyd o enau eu hen frodyr. Fel yr oedd ymneillduaeth cyfyng Trefeca yn cynyddu, yr oedd cyhoeddusrwydd ac eangrwydd Llangeitho yn chwanegu. Fel yr oedd y llafurwyr perthynol i'r naill yn lleihau, yr oeddynt yn cynyddu yn y llall. Yr oedd cyfundrefn Trefeca yn eu cwtogi, a'r eiddo Llangeitho yn eu hestyn. Pan ai gŵr i Langeithio, yn enwedig ar Sul pen mis, neu Sabboth cymundeb, cyfarfyddai â lluaws o bregethwyr ac offeiriaid helaeth eu dawn, a bendithiol eu gweinidogaeth, y rhai oeddynt yn ewyllysgar hyd y gallent i wrando ar ei ddeisyfiad i ymweled â'i wlad; ac yn ychwanegol at y fantais hon, câi wledd hyfryd ac adfywiol iddo ei hun. Ond yn Nhrefeca nid oedd felly. Yr oedd attyniad cryf yn y naill, a gwrthdafliad yn y llall. Yn y modd yma, disgynodd yr afiechyd graddol ei gamrau, ond sicr ei waith; y darfodedigaeth ar un, ac adnewyddid y llall megys wedi ei adferu o lycheden boeth, gan chwanegu ei nerth a'i iachusrwydd i raddau mwy nag a berthynai iddo gynt.
Wrth edrych yn ol ar yr amgylchiad gofidus hwn, nis gallwn lai na meddwl mai gwell i'r achos Methodistaidd oedd iddo ddygwydd pan y gwnaeth, na phe y cymerasai le mewn amser diweddarach. Mae yn rhaid addef fod Mr. Harris yn ŵr o dymher anhyblyg iawn. Nid oedd ystwythder ac ymollyngiad yn ei gyfansoddiad. Codasid ef i fyny gan ragluniaeth ddoeth y nef i wneuthur gorchwyl arbenig, i'r hwn yr oedd wedi derbyn cymhwysderau arbenig. Rhoddwyd iddo ef fod yn rhag-flaenor neu yn rhag-redegwr y diwygiad. Arloesi yr anial gwyllt oedd ei waith neillduol ef; ac i hyn yr oedd cymhwysder neillduol ynddo. Yr oedd awdurdod yn ei wedd, a nerth yn ei lais. Yr oedd cryfder cyfartal yn ei gorff, a gwroldeb yn ei feddwl.