dynol yn rhoddi un swcr iddi; ni appelia byth at draddodiad; ac am sacramentau a defodau pendant, hi a'u bwrw hwy i'r gwynt; nid oes gan hon chwaith, ddim hawl i ddadlu glendid ei gwisg, na thegwch ei gwedd. Y mae yn anfad ei chyffes, hagr ei phrŷd, a dinystriol ei heffeithiau.
Yr oedd y Parch. Rowland Hill yn fynych iawn yn ei bregethau a'i ysgrifeniadau yn dynoethi y ddau gyfeiliornad gwrthgyferbyniol, deddfoldeb a phenrhyddid; y naill yn rhoddi y fath ymddiried yn y ddeddf, fel ag i esgeuluso yr efengyl; y llall yn proffesu y fath barch i'r efengyl, fel ag i ddirmygu y ddeddf. Llawer dyrnod atgas a roes y gŵr duwiol ar ben y ddau; yr oedd yn enwedigol drahaus ei ymadroddion am antinomiaeth. Rhyw ddiwrnod, daeth un o'r teulu eofn yma ato i'w dŷ, i'w alw i gyfrif am ei bregeth, yr hon a dybid yn rhy ddeddfol a llym. Wedi dyfod i wydd Mr. Hill, ac adrodd ei neges, ebe Mr. Hill, " A ydych chwi yn dal fod y deg gorchymyn yn rheol bywyd i Gristionogion?"
"Nac ydwyf, ar un cyfrif," ebe yr ymwelydd.
Canodd Mr. Hill y gloch; a phan ddaeth y gwas i mewn i'r ystafell, dywedodd Mr. Hill yn dra digyffro wrtho, "John, arweiniwch y gŵr hwn i'r drws, ac na thynwch mo'ch liygad oddiarno nes y byddo yn ddigon pell tuhwnt i allu cymeryd dim o fy eiddo i."
Trwy y dull digrif a phenderfynol hwn, yn hytrach na thrwy ddadleuaeth faith, y mynai y gweinidog ddangos i'r antinomiad y syniad oedd ganddo am duedd atgas ei egwyddorion.
Wrth ystyried tuedd erchyll yr egwyddorion hyn, y mae yn syn genym ddeall yr afael gref sydd ganddynt ar feddyliau y sawl a'u coledda. Nid oes neb, meddant, yn mwynhau rhyddid yr efengyl ond hwynthwy; edrychant ar grefyddwyr gwyliadwrus eu camrau, ac ofnus eu teimladau, o angenrheidrwydd dan y ddeddf. Ni fynant, er dim, amheu diogelwch eu sefyllfa gyda Duw, gan nad mor esgeulus a fyddo eu rhodiad. Ni allant oddef y pregethu na'r ysgrifenu a fyddo yn galw at lafur ac ymdrech crefyddol, diwydrwydd, a chysonedd gyda moddion gras, a gwyliadwriaeth rhag pechu yn erbyn Duw. Yr enw goreu a allant roddi ar y syniadau hyn ydyw "llaeth i fabanod;" "dechreuad egwyddorion ymadroddion Duw;" syniadau, meddant, sydd yn amaethu "ysbryd caethiwed, ac yn peri ofn;" fod i'r ofn hwn boenedigaeth, a bod cariad Crist yn ei fwrw ef allan, a bod yr hwn sydd yn ofni heb ei berffeithio mewn cariad. Yr effaith y mae y syniadau uchel hyn yn ei gael ar y rhai a'u coleddant, y rhan amlaf, ydyw tyb uchel am eu gwybodaeth eu hunain yn anad neb arall; cyndynrwydd anmhlygedig yn eu syniadau; dibrisdod perffaith o bawb na chydwelantâ hwy; proffes pen-uchel o ddiogelwch diffael eu cyflwr, ac ymddyosgiad eofn oddiwrth bob rhwymau ufydd-dod.
Ni allaf derfynu y sylwadau hyn yn well na thrwy osod gerbron y darllenydd hanesyn o un a lefeiniwyd yn drwm â'r heresi hon, ond a ddygwyd, cyn ymadael â'r byd, i weled ei chamsyniad, ac i gydnabod y gwirionedd.
Boneddiges yn Lloegr ydoedd, o deulu anrhydeddus a ddygwyd at grefydd