trwy weinidogaeth gŵr duwiol yn eglwys Loegr. Yr oedd y cyfnewidiad a ymddangosai ynddi yn amlwg i bawb a'i hadwaenai. Yr oedd ei gwylder a'i gostyngeiddrwydd yn ddiymwad. Llafuriai yn ddiwyd o blaid y cymdeithasau crefyddol, ymwelai â'r cleifion, a gwnai a allai o blaid yr ysgol Sabbothol. Yr oedd ei hamser, ei dawn, a'i harian, yn cael eu cysegru at achosion daionus. Yr oedd esboniadau Henry a Scott yn gymdeithion beunyddiol iddi, ac ennillodd air da gan bawb a'i hadwaenai. Ond hi a ddaeth i gyfeillach rhyw eglwyswyr yr oedd ganddi dyb fawr am eu gwybodaeth a'u gras, y rhai, bellach, oeddynt wedi rhedeg o un eithaf i'r llall; a chafodd y gyfeillach effaith arswydus a gwenwynig ar ei meddwl. Dysgodd, mewn gair, egwyddorion antinomiaeth oddiwrthynt; a daeth gwywdra a diflaniad galarus ar ei holl rinweddau. Sychodd ffynnonell ei gwaed crefyddol, a therfynodd ei llafur mewn diogi diymadferth, ac mewn mympwy penchwiban. Bellach, nid oedd llyfr na phregeth a dalai ddim, ond oedd yn sawrio yn drwm o egwyddorion antinomiaeth, ac o honiadau uchel y blaid benrhydd.
Tra yr ydoedd yn ngafael y syniadau hyn, galwodd yn nhŷ gweinidog yr efengyl, yr hwn y buasai ganddi, amser yn ol, barch mawr iddo. Ymofynai y gweinidog yn serchog am ei llwyddiant ysbrydol, ac am y lles a dderbyniasai oddiwrth yr egwyddorion a goleddasai yn ddiweddar. Hithau a'i hatebodd gydag eithaf hyfdra, a sicrwydd hunanol,
"Yr wyf mor ddiogel, o ran fy sefyllfa dragwyddol, ag yw y saint yn y nef."
"Ond a ydych chwi yn teimlo eich bod mor gysurus ac ysbrydol eich agwedd mewn ymarferiadau crefyddol ag a fuoch?"
"Yr wyf," ebe hithau, "wedi dysgu byw hebddynt."
"Ond yr ydych yn ymarfer â gweddio yn eich ystafell ?" ebe y gweinidog. "Atolwg," ebe y foneddiges, "am ba beth y gweddiaf?"
Gofynai y gweinidog yn ol gyda braw, "Oni fyddwch chwi yn gweddio am gael profiad o faddeuant pechod, ac am ras i ymdrechu yn ei erbyn ?"
"Ynfydrwydd perffaith, yn fy nhyb i, a fyddai y fath weddiau, oblegid," ebe hi, "cyfrifwyd fy mhechodau ar Grist, a maddeuwyd hwy er tragwyddoldeb: ac am weddio i fy nghadw rhag pechu, ni feddyliodd Duw erioed i mi wneyd hyny. Yr ydwyf wedi fy nghyflawni yn Nghrist, ac yno y gorphwysaf: gorphenwyd y cwbl."
Cyfarfyddai â phob ymresymiad o eiddo y gweinidog ag ymadroddion o'r un natur, gan ymgadarnhau yn ddibetrus yn ei thybiau ei hun. Aeth rhagddi yn y modd yma yn mhellach. Rhoes ffrwyn i'w thueddiadau, ac ymollyngodd gyda'r genllif o oferedd a gorwychder y byd presenol. Parhaodd yn yr agwedd yma dros rai blynyddau. Ond Duw yn ei ragluniaeth ddoeth a'i dygodd hi i wely cystudd; Efe a'i galwodd hi o'r neilldu i'r ystafell ddystaw; gosododd ei law yn drom ar ei chorff, trwy glefyd poeth, ac anfonodd saeth lem o argyhoeddiad i bigo ei chydwybod. Diflanodd ei hyder gau; methodd ei hegwyddorion hyderus a phen-uchel ei chynal; gwelodd gyda dychryn ei chamsyniad, a dychwelodd mewn ysbryd cystuddiedig at