orseddfainc y gras, fel pechadur colledig, ac fel y waith gyntaf erioed, i ymofyn trugaredd a maddeuant. Adferwyd hi yn ol i'w hiechyd a'i phwyll. Weithian, yr oedd y drwg a wnaethai trwy ledaenu ei hegwyddorion anfad, a'r cam a wnaethai i'w theulu a'i chydnabod trwy ei hymddygiad gwael, yn gorwedd fel plwm ar ei henaid trallodedig, ac ni wyddai pa foddion a allai ddefnyddio i attal a gwithweithio y niwaid a wnaethai. Wedi ei hadferu i'w hiechyd, a chael ei thraed yn rhydd oddiwrth y maglau, hi a wnaeth ei goreu i ddadwneyd yr hyn a wnaethai. Ysgrifenodd at y gweinidog i gyfaddef ei chamsynied, a datganai, bellach, fod yr egwyddorion a goleddasai, wedi dileu pob cydwybod o'i dyledswydd tuag at Duw, ac wedi ei hamddifadu hithau o bob mwynhad santaidd ac ysbrydol, yn ei mynwes ei hun.
Sonir hefyd fod rhyw nifer bychan o bobl, yn Arfon a Meirion, wedi cymeryd eu hudo i ddylyn rhyw dwyllwyr ystrywgar eraill, megys yr anweledigion a Mari y fantell wèn, fel y'u gelwid; ond gan na chafodd yr heresiau hyn erioed y lle lleiaf yn mhlith y cyfundeb, na'u llochi gan yr un o'i athrawon, nac ychwaith wedi effeithio dim ar heddwch y corff, na denu nemawr i'w cofleidio, nid ydym yn golygu y byddai adroddiad am danynt yn briodol i hanes Methodistiaeth Cymru, ac ni wnawn, gan hyny, ond cyfeirio y darllenydd a ewyllysio wybod yn helaethach yn eu cylch, at yr adroddiad a roddir o honynt yn "Nrych yr Amseroedd."
Ond y mae un amgylchiad arall na ddylem, o bosibl, ei ollwng heibio heb wneuthur crybwylliad am dano, er mai mwy dymunol i'r teimlad a fuasai hyny. Cyfeirio yr ydym at ymadawiad gofidus y Parch. Peter Williams â'r cyfundeb.
Am y gŵr parchedig hwn, yr ydym eisioes wedi son fwy nag unwaith na dwy, yn y rhanau blaenorol o'r gwaith hwn, a diau genym y daw dan ein sylw yn y rhanau dylynol. Fe ddaethai at y Methodistiaid yn fore, tua'r fl. 1748, ac a fu yn llafurio yn eu mysg yn ddiwyd, egniol, a llwyddiannus, am fwy na deugain mlynedd; ac nid gormod a fyddai dweyd iddo wynebu mwy o beryglon, dyoddef mwy o galedi, ac arloesi mwy ar Gymru, na neb o'i frodyr urddedig. Buasai yn dra dymunol gan yr ysgrifenydd allu chwanegu, ddarfod iddo hefyd orphen ei yrfa yn mynwes ei gyfeillion, heb roddi iddynt un achos gofid, na chael oddiwrthynt un archoll; ond fel y mae mwyaf y gresyni, ni ellir dweyd hyny. Ein dyben, pa fodd bynag, wrth alw sylw at yr amgylchiad, ydyw, nid i ddynoethi naci goffâu gwallau y rhai sydd wedi myned o'r maes, ond i addysgu a rhybuddio y rhai sydd yn awr yn aros, neu y rhai a ddelo ar ol hyn. Un o ddybenion da ysgrifenu hanes plant Duw, ydyw annog eu holynwyr i efelychu eu rhinweddau, a'u rhybuddio i ochel eu beiau.
Gyda llafurio llawer iawn yn egniol yn ngweinidogaeth y gair drwy y dywysogaeth, fe ymdrechodd y Parch. Peter Williams fwy na neb o'i gydoeswyr Methodistaidd i lesâu ei genedl trwy yr argraffwasg. Gorchwyl oedd hwn nad oedd ond ychydig eto wedi ymosod ato, ond gorchwyl, er hyny, yr oedd mawr anghen am dano. Yn ystod y 40 mlynedd a aethai