Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a thrachefn, gan y brenin Iago, i eglwys Llanedi. Yr oedd, ar y pryd, yn dra annuwiol, ie, yn dra aufucheddol. Cafodd droedigaeth, meddir, trwy ymagweddiad bwch gafr.[1] Dyma'r pregethwr poblogaidd cyntaf, tebygid, yn Nghymru; o leiaf, y cyntaf y mae genym hanes am dano. Gwŷr Gwynedd oedd wedi blaenori, hyd yn hyn, yn eu defnyddioldeb gydag achos mawr yr efengyl; ond yn awr, y mae aml seren ddysglaer yn ymddangos tua'r Deau. Un o'r rhai cyntaf a dysgleiriaf o honynt oedd Ficer Pritchard. Tua yr un amser, yr oedd Mr. Wroth, o Sir Fynwy, a Mr. Robert Powel, o Sir Forganwg, yn llafurio yn ddiwyd a defnyddiol, gan wasanaethu Duw yn efengyl ei Fab ef. Yr oedd Ficer Pritchard yn pregethu yr efengyl yn oleu, iachus, ac effro iawn. Ennillodd barch mawr oddiwrth bob gradd, a seiniodd ei glod fel gŵr duwiol, a gweinidog ffyddlon ac effro, dros holl Gymru. Hynod, er hyny, fel y cwynai oherwydd ei aflwyddiant, fel y gallwn ni gasglu oddiwrth y llinellau hyn:—

"Cenais iti'r Udgorn aethlyd
O farn Duw, a'i lid anhyfryd,
I'th ddihuno o drymgwsg pechod;
Chwyrnu, er hyn, yr wyt ti'n wastad.
Ceisiais trwy deg a thrwy hagar;
Ni chawn genyt ond y gwatwar."

Ennillai, pa fodd bynag, gynulleidfaoedd lluosog, yn enwedig yn Llanedi, i'w wrando mwy, yn fynych, nag a gynwysai y llan. Nid ymddangosodd o'i ysgrifeniadau allan o'r wasg, ond y llyfr clodwiw a buddiol hwnw a elwir, "Canwyll y Cymry." Ysgrifenwyd hwn ar fesur cerdd, mewn dull rhwydd a dirodres iawn, ond tra chymhwys at ddeall ac agwedd preswylwyr y wlad ar y pryd.

Am Mr. Wroth, Sir Fynwy, ficer Llanfaches ydoedd, lle y bu yn gweini am lawer o flynyddoedd mewn modd cwbl annheilwng i'w swydd bwysig. Dywedai ei fod tua 50 oed cyn i ddim deffroad am ei gyflwr ysbrydol gymeryd lle ar ei feddwl. Byddai yn arfer chwareu ar ryw offeryn cerdd, ar brydnawn Sabbothau, i ddifyru ei blwyfolion; a hyn a wnai dros lawer o flynyddoedd. Gan mor gelfydd ydoedd mewn cerddoriaeth, a chan gymaint y difyrwch a fwynheid gan ei blwyfolion trwy ei fedrusrwydd, prynwyd telyn newydd iddo gan ei lety wr, yr hwn oedd gâr iddo—pan oedd y câr hwn yn Llundain ar ryw achos neillduol; ond yn lle mwynhau ffrwyth ei garedigrwydd, bu farw y gŵr ar y ffordd adref. Trowyd eu llawenydd yn alar; eto, bendithiwyd yr amgylchiad difrifol a disymwth hwn i Mr. Wroth. O hyny allan, disgynodd ei feddwl ar freuoldeb bywyd, ac ar gyflwr ei enaid. Canfu pa mor annheilwng ydoedd, o ran ei ysbryd a'i ymarferiad, i un ag oedd, o ran swydd, yn gwylio dros eneidiau. Y canlyniad a fu, i argyhoeddiad trwyadl orlenwi ei gydwybod, a chyfnewidiad nodedig yn ei fryd a'i fuchedd.

  1. Dywedir i'r bwch ei ganlyn i'r dafarn, ac iddo yntau roi diod iddo, a'i feddwi, ond iddo fethu byth wedi'n cael gan y bwch yfed i ormodedd; a hònir fod yr amgylchiad hwn wedi bod yn foddion i'w sobri yntau.