Gwelodd yr Arglwydd yn dda, fel y dywedasom, osod ei sel wrth lafur ei bobl, nes chwanegu dysgyblion lawer, a'r cynydd hwn-gwaedd y dysgyblion hyn, amgylchiadau yr eglwysi a blanesid fel hyn, ganddynt, ac nid amcan blaenorol y tadau, nac yn wir teilyngdod y pwnc ynddo ei hun-a barodd yr ysgogiad. Ac o gymaint a hyny, y mae priodoldeb y cam a gymerwyd yn fwy amlwg, gan mai llaw ddwyfol a osododd yr angenrheidrwydd am ei gymeryd yn fwy, nag un bwriad neu gyfundrefn ddynol.
Effaith arall a welir i gynydd Methodistiaeth ydyw darostyngiad rhagfarn y werin yn ei herbyn. Ar y dechreuad, yr oedd pob gradd yn codi eu gwrych yn erbyn y crefyddwyr newydd hyn. Yr oedd mawr a bach yn cytuno i'w herlid. Edrychid arnynt yn blanc yn peri terfysg; y rhai y buasai yn dda i'r byd gael ymwared oddiwrthynt. Nid mor syn, chwaith, ydoedd hyn, gan fod yr ysgogiad yn ddyeithr iawn yn y wlad, a'r trigolion anwybodus dar anfantais fawr i allu ffurfio barn gywir yn ebrwydd am ei deilyngdod. Hyn sydd sicr, mai pan oedd Methodistiaeth yn newydd, a'r bobl yn anadnabyddus o'i natur, yr oedd y rhagfarn gryfaf, a'r gwrthwynebiad ffyrnicaf. Fel y daeth y bobl i ddeall pa fath ydoedd amcan y diwygwyr, a pha fath ydoedd eu hegwyddorion, lliniarodd eu gwrthwynebiad. Argyhoeddwyd hwy nad oedd dim a wnelai y bobl hyn a Chromwel, er y gelwid hwy yn benau-cryniaid; mai chwedlau celwyddog a ddywedid am y weddi dywyll, ac am eu brad yn erbyn y llywodraeth; mewn gair, pan ddeallwyd nad oedd gan y tadau amcan yn y byd ond achubiaeth eu cydwladwyr, troes eu rhagfarn yn bleidgarwch, a'u gwrthwynebiad yn gynorthwy. Y dosbarth a safodd hwyaf yn wrthwynebol oedd y clerigwyr a'r boneddwyr. Ond wedi colli gwasanaethgarwch y werin, ni allent hwythau wneuthur ond ychydig mewn ffordd o erlid. Ac heblaw hyny daeth llawer o'r boneddwyr yn raddol i ddeall nad oedd y bobl y dywedid cymaint yn eu herbyn, yn amcanu at ddim drwg; daethant i ddeall, os nad oeddynt yn ddysgedig, eu bod yn llafurus a ffyddlon; os oeddynt yn dlodion, eu bod hwy yn onest ac ufydd; ac ar y cyfan yn well tyddynwyr a chymydogion na llawer a'u henllibient. Ac wedi deall hyn, troes llawer o honynt yn bleidwyr iddynt, ac i roddi gair da iddynt. Dewisent hwy yn anad eraill mewn llawer man i drin eu tiroedd ; a pharod fuonti roddi neu werthu darn o dir i'r dyben o adeiladu capel arno. Drachefn, parodd y diwygiad Methodistaidd ysgogiad anarferol yn Nghymru, er diwyllio meddwl y preswylwyr. Nid ydym yn hòni mai i'r cyfundeb hwn yn unig y mae y wlad yn ddyledus yn y ffordd yma, ond ei bod i raddau tra helaeth, yn Ngwynedd o leiaf, yn fwy dyledus iddo ef nag i neb arall. Mae y Methodistiaid wedi cael eu cyhuddo lawer gwaith o fod yn esgeulus o wybodaeth, os nad yn wrthwynebol iddo; ac yr ydym yn addef fod achlysur wedi ei roddi gan ryw ddosbarth neillduol i'r cyhuddiad hwn; ond y mae y cyhuddiad yn gwbl ddisail ar y cyfundeb yn gyffredinol, ac yn fwy disail byth o ran fod arddeliad yn cael ei wneuthur o'r cyfryw egwyddorion yn ei safon.
Pa beth bynag ydyw Cymru yn awr, mewn cymhariaeth i'r hyn ydoedd