Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/439

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn effaith addysg. Pa mor fawr bynag ydyw, fe'i dygwyd o amgylch heb un trais na gorthrymder. Ni roddwyd un dirgymhelliad ar dueddiad neb. Yr unig foddion a arferwyd oedd addysgiad. Trwy addysg grefyddol y goleuwyd y meddwl, ac y deffrowyd y gydwybod. Cafodd goleuni ddyfodfa at y meddwl. A phan y torodd gradd o ddydd, ciliodd y pethau diffaith allan o'r golwg: diflanodd yr arferion llygredig fel pethau rhy gywilyddus i'w harddel a'u harfer. Ac mewn pethau moesol a chrefyddol, nid oes dim a fydd yn effeithiol er galw dynion oddiwrth rai pethau at bethau eraill, ond arddangosiad dirodres o'r gwirionedd. Pan yr argyhoedder y gydwybod, ac yr enniller cymeradwyaeth y farn, y mae y cyfnewidiad yn naturiol a gwirfodddol.

Yn Nghymru, cynyrchodd y diwygiad Methodistaidd effaith arall, sef chwyddo rhestrau ymneillduaeth. Nid oes un rhan o'r deyrnas gyfunol mor llwyr ymneillduol ag ydyw tywysogaeth Cymru, nac un wlad wedi amcanu at hyny yn llai. Nid anniddigrwydd at grefydd wladol, fel y cyfryw, a barodd yr ysgogiad diwygiadol cyntaf, ond eiddigedd dros ogoniant Duw, ac achubiaeth eneidiau dynion. Gan mor angherddol yr awyddfryd am ddwyn pechaduriaid at Grist, ni chafodd y pwnc o lywodraeth neu drefn eglwysig o un math, prin le yn yr ymofyniad. Yr oedd y rhagfarn a'r gogwyddiad, ar yr un pryd, yn gryf yn erbyn ymneillduaeth, ac o blaid y grefydd wladol. Eto, er lleied oedd bwriad y tadau i sylfaenu ymneillduaeth yn Nghymru, eto hyny a fu ffrwyth eu llafur; acercymaint a allai rhagfarn y Methodistiaid fod o blaid yr eglwys sefydledig, eto ei gadael hi a fu raid. Nid oes genym sicrwydd nad oedd eu cryfder o blaid y naill, neu yn erbyn y llall, yn hytrach yn effaith cynefindra a dygiad i fyny, nag yn ffrwyth ymchwiliad dwys, a barn diduedd. Ond pa fodd bynag am hyny, gosodasant eu holynwyr ar lithrigfa, nad oedd modd iddynt beidio bod yn ymneillduwyr, oddieithr iddynt fod yn anffyddlawn i'r ymddiried a roddasid iddynt gan eu tadau. Pa fath bynag ydoedd egwyddorion y tadau, neu yr eiddom ni ein hunain, yn hyn o beth, y mae y ffaith yr un, sef nad oes un parth o'r deyrnas gyfunol yn fwy llwyr a hollol ymneillduol, mewn barn ac ymarferiad, na Chymru; na thrigolion un wlad wedi amcanu at fod felly yn llai. Nid yw ymneillduaeth Cymru, o leiaf nid yw ymneillduaeth Methodistiaid Cymru, yn effaith amcanedig ganddynt hwy, ond yn ganlyniad naturiol ac angenrheidiol i amrywiol amgylchiadau y gosodwyd hwy ynddynt. Os oes diolch, ynte, yn gweddu i neb am eu hymneillduaeth hwy, rhaid ei briodoli naill ai i ddamwain ddall, neu i ragluniaeth ddoeth. Am danynt hwy eu hunain, aeth deng mlynedd a thriugain dros eu penau, heb fod un gair yn cael ei ddweyd yn eu pulpudau, nac yn eu cymanfaoedd, am briodoldeb neu anmhriodoldeb sefydliad gwladol o grefydd, neu ymneillduad oddiwrth y fath sefydliad. Nid oedd y naill na'r llall yn bwne hanfodol yn eu credo, ond cymerent eu harwain gan amgylchiadau am y peth hwn, gan benderfynu na chai fod yn foddion i'w hattal i fyned rhagddynt yn y gwaith y rhoddasent eu dwylaw wrtho.