Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y byd am danynt, y mae hysbysiad, o leiaf, am un gŵr enwog yn ei ddydd, a defnyddiol yn ei oes, a gafodd droedigaeth dan ei weinidogaeth, ac a fu yn foddion i gryfhau, a gosod parhad yn y gwaith da a ddechreuwyd gan Mr. Wroth, sef yr enwog Walter Cradoc.

Yr oedd hefyd un William Erbury, ficer St. Mari, yn Nghaerdydd, yn cydlafurio gyda Mr. Wroth. Fe fu y gŵr da hwn yn gweinidogaethu yn Nghaerdydd dros lawer o flynyddoedd. Cafodd yntau ei ddifuddio o'i ficeriaeth, fel Mr. Wroth, am na ufyddhâai efe i ddynion yn fwy nag i Dduw— am na chymerai ei lywodraethu yn achos yr efengyl gan syniadau diras Charles I, ac archesgob Laud. Mor alarus yw meddwl, nid fod y gwŷr uchod yn meiddio gwrthwynebu gorchymyn annuwiol y brenin, ond fod can lleied nifer yn mysg offeiriaid Cymru yn meiddio gwneyd hyny. Y mae yn rhaid nad oedd o fewn muriau llanau y plwyf nemawr o grefydd ysbrydol, nac yn mysg olynwyr yr apostolion(?) nemawr un yn meddu eu hysbryd.

Wedi troi Mr. Erbury allan o'r eglwys, efe a aeth oddiamgylch i bregethu yn mhob man y rhoddid derbyniad iddo. Iddo ef y cyfrifir sefydliad cyntaf ymneillduwyr yn Nghaerdydd. Trowyd ei gurad allan o'r eglwys am yr un trosedd; a'r curad hwnw oedd yr anfarwol Walter Cradoc. Yr oedd y gwŷr da hyn, sef Mr. Wroth, Mr. Erbury, Mr. W. Cradoc, yn nghyda Mr. Vavasor Powel, oll yn llewyrchu cyn yr amser y machludodd Rhys Pritchard. oeddynt oll hefyd yn wŷr o'r Deheubarth.

Nid yw amser genedigaeth Walter Cradoc ddim yn hysbys. Tybir iddo gael ei eni tua'r fl. 1600. Yr oedd o deulu cyfrifol, o blwyf Llangwm, yn agos i Lanfaches, Sir Fynwy. Bu yntau yn y brif-ysgol, Rhydychain. Trwy weinidogaeth Mr. Wroth, yr hwn a elwid gan Cradoc yn "Apostol Deheubarth Cymru," y cafodd ef ei ddychwelyd, fel y dywedasom eisoes. Wedi bod yn gurad dros ryw enyd i Mr. Erbury yn Nghaerdydd, cafodd wŷs i ymddangos o flaen yr archesgob Laud, tua'r fl. 1631, am nacâu darllen yr hen Lyfr y Chwareuon fyth. Ceryddwyd Mr. Erbury, ond dyosgwyd Cradoc o'i swydd. Wedi ei droi allan o'i swydd, teithiodd drwy siroedd Brycheiniog, Maesyfed, a Threfaldwyn, gan bregethu yr efengyl yn mhob man y derbynid ef. Arosodd ei gydlafurwyr enwog, Mri. Wroth ac Erbury, dros eu hoes yn nhir y Deau; ond Cradoc a arweiniwyd i'r Gogledd. Pregethai, gan amlaf, mewa tai anedd, ac weithiau ar fynyddoedd ac mewn coedwigoedd; a phan y rhoddid caniatad iddo, pregethai yn y llanau plwyfol, er ei fod wedi colli ei drwydded esgobawl.

Oddeutu y fl. 1632, fe ddaeth i Wrecsam, Sir Ddinbych, a derbyniwyd ef yn gurad yno. Dechreuodd bregethu gyda nerth anarferol. Heidiai y bobl i'r eglwys eang, nes ei gorlenwi. Syrthiodd difrifwch ar y trigolion, o'r fath na welsid erioed o'r blaen. Troisant eu cefnau ar y tafarndai, fel effaith naturiol difrifwch meddwl. Pan y mae tafarndai yn weigion, y mae yr addoldai yn llawnion. Ni chafodd y gwr hwn hir seibiant heb fod argoelion yn ymddangos o gyffro yn mhyrth uffern. Cododd y tafarnwyr yn ei erbyn am ddrygu eu bywioliaeth. Yr oedd gobaith eu helw hwynt yn