Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/451

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

edrychom yn mlaen, a chanfod nad oedd ond llai o obaith cael parhad gwasanaeth eglwyswyr, ac felly y chwanegai tlodi y cyfundeb, fe ymddengys i ni yn awr, wedi i 40 mlynedd fyned heibio, mai tramgwyddo wrth y gwelltyn yr oedd yr hen bobl dda, wrth eu bod yn petruso gydag achos mor eglur a diamheuol. Eto y mae yn rhaid edrych ar yr amgylchiad yn ei holl berthynasau, cyn y gellir cael golwg deg arno.

Y mae yn ddigon adnabyddus fod llaw arbenig gan wŷr eglwysig yn nghychwyniad y cyfundeb. Yr oedd Howel Harris, fel y gwelsom, yn aelod ynddi, a Rowlands, Howel Davies, a'r ddau Williams, yn weinidogion urddedig ynddi. Yr oeddynt, fel y gellid dysgwyl, yn teimlo gradd o ymlyniad wrthi, fel nad oeddynt yn bwriadu ymadael â'i chymundeb yn ddiachos. Gobeithient, mi feddyliwn, ond nid yw yn ymddangos ar ba sail, y gallent gael rhyddid i gario y diwygiad yn mlaen, yn ol yr arweinid hwy gan amgylchiadau, heb dynu arnynt wg yr awdurdodau eglwysig; ac os rhoddid hyny iddynt, mai boddlawn fyddent i aros o fewn muriau yr eglwys sefydledig; ïe, penderfynent aros yn ei chymundeb, oddieithr eu gorfodi i'w gadael, neu adael y gwaith y dechreuasent arno. Yr oedd y corff hefyd wedi cael ei lywodraethu, gan mwyaf, gan y gwŷr eglwysig o'i fewn o'r dechreuad. Yr oeddynt yn cael ufydd-dod ewyllysgar gan y cynghorwyr a'r henuriaid, fel dynion a anrhydeddid yn fawr gan Dduw, ac fel rhai cymhwys, o ran dysg a doniau, i gymeryd y blaen yn mhob achos o bwys.

Aethai deng mlynedd a thriugain heibio yn y modd yma. Llwyddasai yr Arglwydd ei waith yn eu mysg yn rhyfeddol, dan yr amgylchiadau hyn. Edrychent ar y llwyddiant a roddasid yn fath o sel cymeradwyaeth ar y ffurf y dygasid y gwaith yn mlaen. A thra yr edrychent arno yn y modd yma, hawdd ydyw canfod yr anhawsdra a deimlai y cyfryw i wneuthur un cyfnewidiad. "Ni a wyddom lefaru o Dduw wrth Moses," ebe'r Iuddewon gynt, ac ni fynent, er dim, beidio a bod yn ddysgyblion iddo: "dysgyblion Moses ydym ni," meddent. Felly y dywedai rhai yn mysg y Methodistiaid y pryd hyny, "Ni a wyddom i Dduw wenu arnom yn y ffurf a'r wedd a fu arnom hyd yn hyn, ac ni fynwn er dim wneuthur un newidiad."

Yn mysg yr offeiriaid a safent yn erbyn, yr oedd rhai gwŷr nodedig am eu gras a'u defnyddioldeb, megys Mr. Jones o Langân, Mr. Charles o'r Bala, Mr. Griffiths o Nefern, —gwŷr na raid ond eu henwi, i ddangos mor anhawdd oedd ysgogi yn groes i'w teimladau. Nid ydym yn gallu llefaru yn groyw am y tir y safai y gwŷr da hyn arno; neu oddiar ba egwyddorion y gwrthwynebent y symudiad. Fe allai mai nid yr un syniadau a'u llywodraethent oll. Un peth arbenig a barai i Mr. Charles betruso (a phetrusder ydoedd ynddo ef, yn fwy na gwrthwynebiad), oedd yr anhawsdra cysylltiedig a'r symudiad. Teimlai yn anmharod, o bosibl, i ordeinio pawb o'r pregethwyr, hen ac ieuainc, o bob gradd a dawn, gwybodaeth, a defnyddioldeb; ac os na urddid pawb, yr anhawsdra oedd gwneuthur y detholiad. Ac er amcanu yn ddiduedd, a gwneuthur detholiad doeth a theg, nid oedd sicrwydd na arweiniai hyny i anesmwythder ac anniddigrwydd, mwy nag oedd eisoes yn mysg y