rhan, neu yn gwbl, gyda'r diwygiad Methodistaidd yn y Deheubarth; ac fe ddichon fod eraill llai amlwg heb eu henwi; pryd na fu un amser yn y Gogledd, nac hyd heddyw, ond y tri y rhai y mae eu henwau mor adnabyddus, sef y Peirch. T. Charles, a S. Lloyd, o'r Bala, a William Lloyd, Caernarfon.
Mae yn naturiol i gasglu, y byddai llywodraethiad yr achos yn disgyn yn naturiol i ddwylaw yr offeiriaid, nid yn unig o ran eu nifer, ond hefyd o ran eu lle, eu dysg, eu dawn, a'u defnyddioldeb. Hwynthwy oeddynt y gwŷr blaenaf yn ei gychwyniad; a chan eu bod yn rhagori llawer mewn cymhwysder i flaenori ar y lleŷgwyr cyntefig, yr oedd yn dra naturiol ac esmwyth iddynt gael y llywyddiaeth, ymron yn llwyr, yn eu dwylaw eu hunain. Yn y Gogledd, yr oedd gwedd pur wahanol. Yr oedd yr holl drafodaeth o angenrheidrwydd yn nwylaw y lleŷgwyr, o leiaf cyn dyddiau Mr. Charles; ac ar ol hyny ni chyrhaeddai ei ddylanwad ddim pellach nag yr oedd ei gymeriad a'i ddefnyddioldeb yn teilyngu, ac nid ar gyfrif ei fod yn offeiriad. Gyda golwg ar neillduo rhai o'r pregethwyr lleygaidd i weini y sacramentau, yr oedd yr angenrheidrwydd am hyny yn y Gogledd yn fwy, a'r gwrthwynebiad i hyny yn llai. Yr oedd yma bawb ymron o'r un ochr. Nid oedd prin un yn y gymdeithasfa yn sefyll dros barhad yr hen drefn, oddieithr Mr. Charles; a barnu yr ydym fod ei hwyrfrydigrwydd ef yn cyfodi, nid oddiar dybied fod y cyfnewidiad yn annheilwng, ond ei fod yn anhawdd, anhawdd ei gael o amgylch heb i ganlyniadau niweidiol gymeryd lle. Rhaid i ni edrych i'r Deau, gan hyny, os mynwn ganfod faint yr ymdrech a fu i gael hyn o amgylch.
Ysgrifena un gŵr ataf ar y pen hwn, o ran sylwedd fel hyn:—" Nid oedd dim cyfranu sacrament swper yr Arglwydd yn mhlith y Methodistiaid yn holl sir Aberteifi, ond yn Llangeitho, holl ddyddiau Mr. Rowlands; nac wedi hyny dros ysbaid pedair neu bum' mlynedd. Tua'r fl. 1794, neu 1795, fe farnodd y brodyr yn y wlad hon fod eisieu helaethu cylch y gweinyddiad, ac mewn canlyniad fe benderfynwyd ar fod Aberystwyth a'r Twrgwyn i gael eu chwanegu at Langeitho, i weinyddu y sacramentau, fel y'u gelwir, ynddynt. Parhaodd hyn am amryw flynyddoedd, heb fod nemawr gais neillduol am newidiad pellach. Ond fel yr oedd yr eglwysi yn amlhau, a'r dychweledigion yn lluosogi, yr oedd yr anesmwythder yn cynyddu. Yr oedd llawer o'r aelodau yn profi yr anghyfleusdra yn fawr i ddyfod i'r lleoedd crybwylledig, rhai gan bellder ffordd, ac amgylchiadau teuluaidd, ac eraill gan wendid, afiechyd, neu henaint, fel ag i genedlu ynddynt awyddfryd cryf am newidiad chwanegol."
"Bellach, yr oedd rhai o'r brodyr yr oedd llwyddiant yr achos yn ddwys ar eu meddyliau yn ymdeimlo yn bryderus a gofidus â'r amgylchiadau annedwydd hyn, ac yn ymofyn yn bwyllog, ai nid oedd modd cael diwygiad. Yr oeddid yn canfod nad oedd yr un offeiriad, yn meddu ar ysbryd y diwygwyr cyntaf, yn ymuno o'r newydd â'r cyfundeb, pryd yr oedd Methodistiaeth yn myned rhagddo yn rymus iawn ar led y gwledydd, ac arweinid y brodyr