ond barnu yr ydym iddynt gael eu camarwain trwy fod tystiolaethau unochrog yn cael eu hanfon iddynt, a'r rhai o'r ochr arall yn cael eu hattal oddiwrthynt; ac nid oedd ganddynt hwy ond barnu ac ysgrifenu wrth y dystiolaeth a ddygid o'u blaen. Yr ydym wedi cael ysgrifion eraill i law, o'r fath nad oes fodd i'w hamheu, yn tueddu i liniaru effaith y tystiolaethau blaenorol hyny ar feddwl y dyn craff ac ymchwilgar.
Yr oedd Howel Harris wedi bod yn foddion i gychwyn achos Methodistaidd yn sir Fynwy, mewn man o'r enw y New Inn, ynghyd a manau eraill. Yr oedd yno un gŵr arbenig, o'r enw Morgan John Lewis, yr hwn a alwesid trwy weinidogaeth Harris, yn pregethu gyda llawer o barch a llwyddiant, yn y rhan hyny o'r wlad. Ond yr oedd y canghenau bychain o eglwysi yn y rhan yma o'r wlad yn dra amddifaid, fel y gellid meddwl, o'r sacramentau, gan na weinyddid hwy ond gan offeiriaid, na chanddynt hwythau ychwaith ond yn y llanau plwyfol. Ar ddechreu y diwygiad, fel y crybwyllasom o'r blaen, nid oedd un man nês na Llangeitho lle y gallai yr aelodau hyn fwynhau swper yr Arglwydd yn y wedd ag a fuasai ddymunol ganddynt hwy. Ond yr oedd Llangeitho yn mhell iawn o'r New Inn yn Mynwy. Pa beth, ynte, a wneid? Yn mhen tua phedair blynedd wedi sefydlu yr achos yn y New Inn, parodd y llwyddiant i'r brodyr yno ymdeimlo yn bryderus am weinyddiad ordinhadau pendant yr eglwys. Wedi dwys ystyriaeth ac ymgynghoriad, penderfynwyd anfon dau genad dros yr eglwys i Langeithio, i ymgynghori â'r Parch. D. Rowlands ar yr achos. Wedi gosod y mater yn deg o flaen Mr. Rowlands, hwy a gyfarwyddwyd ganddo i alw yr eglwys yn nghyd, ac os ceid ei bod yn unllais yn cydsynio, i roddi galwad i Morgan John Lewis, yr hwn a lafuriai yn eu plith, ac a fawr berchid ganddynt; ac iddynt, ar ol ymroddi i ympryd a gweddi, ei ordeinio felly i gyflawn waith y weinidogaeth: "fe wna gweddi'r ffydd," eb efe, "lawer mwy nag a all un esgob ei wneyd byth." Ac nid yn unig, fe roes y cyfarwyddiadau hyn i'r cenadon, ond hefyd efe a anfonodd lythyr yn eu llaw at Morgan John Lewis, i ddeisyf arno gydsynio â'u cais; —aç felly y bu.[1]
Fe gaiff y darllenydd weled hefyd yn hanes Llangeitho, yn mlaen yn y gwaith hwn, fod Rowlands yn achlesu y cynghorwyr a gyfodent yn yr eglwys hòno; -mai efe a'u cynghorodd i drefnu yr ysgubor oedd ar ei dir yn dŷ cwrdd; y byddai ef ei hun yn myned yno, ond yn ddirgelaidd, rhag ofn yr uchel-eglwyswyr;—a'i fod ef hefyd, gan ddyfalu mai ei droi o'r Llan a wneid, wedi rhag ddarparu cynllun capel Gwynfil cyn ei droi allan o'r eglwys. Pan y cymerom yr amgylchiadau hyn i sylw, ac y cofiem ei eiriau nodedig, pan y trowyd ef allan, sef y geiriau a ddywedai wrth y gwŷr a anfonasai yr esgob ato, —" O," ebe efe, "gallasai ei arglwyddiaeth gymeryd llai o boen arno, na'ch danfon chwi yma; o'm rhan i, nid af byth o fewn ei muriau hi mwy; os mynwch chwi, hi gaiff fod yn llety dylluanod. Mae y bobl yn barod i ddyfod gyda fi;"—pan y cofiom, meddaf, hyn oll, yr ydym yn gorfod
- ↑ Gwel yn helaethach ar hyn yn hanes sir Fynwy.