Mr. Williams, y pregethwr; a pha beth oedd i'w wneyd? Ni ellid galw yn ol yr hyn a wnaethpwyd, ac ni ellid goddef terfysg ac anghydfod i barhau yn yr eglwys, a pha beth a ellid ei wneuthur?
Tra yr oedd y terfysg a'r benbleth yn parhau yn Llanon, daeth Mr. Ebenezer Morris yno, i geisio lliniaru y cyffro, a chafodd mai gormod gorchwyl oedd hyny heb chwalu y gymdeithas eglwysig yn llwyr, a derbyn eilwaith i gymundeb y sawl a ewyllysient ddychwelyd ar yr amod o'u bod yn penderfynu cyd-redeg â sefydliadau y corff. Ar yr achlysur hwn, fel y gellid dysgwyl, tramgwyddodd rhai yn ddirfawr, a chiliasant yn llwyr oddiwrth y Methodistiaid, gan ymlynu wrth y llan; derbyniwyd eraill yn ol, gan broffesu eu hymroddiad i gydymffurfio â'u brodyr, o hyny allan. Nid oedd Mr. N. Williams yn bresenol pan y bu hyn; yr oedd ar daith weinidogaethol ar y pryd, ond yr oedd ei wraig yn un o'r rhai a giliasai ymaith. Pan oedd Mr. Ebenezer Morris yn dychwelyd adref, cyfarfu â Mr. Williams, yr hwn hefyd oedd yn dychwelyd o'i daith, a mynegodd iddo pa fodd y bu, gan hysbysu hefyd fod ei wraig ef yn mysg yr encilwyr. "O'r goreu, Mr. Morris," ebe Mr. Williams, "os gwnaethoch felly â Jane, chwi gewch wneyd hyny â minau." Ac felly y bu; ymadawodd Mr. Williams a'r Methodistiaid, ac ni bu yn aelod gyda hwy mwyach.
Teimlodd y gymdeithas eglwysig golled am ei wasanaeth, ac o'r braidd nad oedd y blaenoriaid yn llwfrhau i fyned ymlaen hebddo; eto ymlaen hebddo yr aed, a chawsant brofi yn lled fuan, fod yn rhaid iddynt, nid yn unig ymwroli i fyned ymlaen heb gael dim cynorthwy oddiwrtho, ond ymarfogi i fyned rhagddynt er cael gwrthwynebiad cryf oddiwrtho. Oblegid fe wnaed cais egniol gan y blaid a giliasant at y llan, i gael y capel i'w meddiant, gan haeru yn ddiau, fod y Methodistiaid wedi fforffetio eu hawl iddo, trwy yr ymneillduad diweddar. Yr oedd llawer o rwym-weithredoedd (leases) y capelau, y pryd hyny, yn nwylaw yr offeiriaid Methodistaidd fel ymddiriedolwyr (trustees), a gwnaed defnydd o hyn i geisio eu meddiannu. Felly hefyd yr oedd mewn rhan yn Llanon. Parodd yr ymdrech i feddiannu y capel gyffro adnewyddol, a bu yn foddion, yn ddiau, i ddangos pwy oedd gyda, a phwy oedd yn erbyn y Methodistiaid, yn fwy eglur a diamheuol nag o'r blaen. Yn mysg yr ymddiriedolwyr yr oedd enw un Mr. Daniel Jenkins, Llangeitho, pregethwr gyda'r Methodistiaid y pryd hwnw; ond yr hwn ar y neillduad a giliasai at y llanwyr. Dywediri wraig y gŵr hwn gymeryd gyda hi lease rhyw gapel arall, cyffelyb o ran oed i gapel Llanon, gan benderfynu myned â'r achos mewn undeb ag amryw o'r llanwyr, at ŵr boneddig o ynad, o'r enw Mr. Lloyd, Mabws, a chael ei farn ef ar y mater mewn dadl. Penderfynodd y blaid arall wneuthur yr un modd. Yr oedd lease y capel, trwy ryw fusgrellni, wedi disgyn i law un o'r aelodau, o'r enw Siôn y taeliwr, fel y gelwid ef, yr hwn heb wybod mai y weithred am y capel ydoedd, a dorasai linyn mesur o'r croen, gan fwriadu yn ddiamheuol ei ddefnyddio oll i'r un dyben, o bryd i bryd; ond fel y mynai yr hap fod, nid aeth gwelleifyn (scissors) y taeliwr trwy yr un o hanfodion y weithred, megys y llaw-nodiad, y dyddiad, &c.