Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/485

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wedi cael y weithred, cymerwyd hi gan blaid y capel at un Mr. Morris, cyfreithiwr, ag oedd yn byw yn Rhosminiog; yntau a'i hadgyweiriodd goreu y gellid, cyn ei dangos i Mr. Lloyd, Mabws.

Ond tra yr oedd y blaid hon yn ymbarotoi, fe aeth y blaid arall at yr ynad o'u blaen, ac wrth ddychwelyd cyfarfuant â'r Methodistiaid yn myned at yr un gŵr y buasent hwy gydag ef; ac er i'r llanwyr dystio mai ofer fyddai eu cais gyda'r gŵr boneddig, trwy ei fod eisoes wedi rhoddi ei farn o'u hochr hwy, eto ymlaen yr aeth y capelwyr, a'r cyfreithiwr gyda hwy, i Mabws. Mynegodd Mr. Morris ei neges, a dangosodd y weithred, a gofynodd: "Ai gwir oedd ei fod wedi dweyd wrth y blaid arall mai eu heiddo hwy oedd y capel?"

"Ië," ebe y gŵr boneddig, "tystient wrthyf fi mai hwynthwy oedd y Methodistiaid."

"Pwy ynte oedd y llanwyr?" gofynai y cyfreithiwr.

"Ni ofynais hyny iddynt," atebai yr ynad.

"Da fuasai gwneyd hyny," ebe y cyfreithiwr, "oblegyd y bobl sydd gyda fi yn awr yw y Methodistiaid, a'r llanwyr oedd y lleill."

"Chwi wyddoch chwi, Mr. Morris, fwy am grefyddau nag a wn i," ebe yr ynad, "ond y Methodistiaid, pwy bynag ydynt, ydyw gwir berchenogion y capel."

Edrychid ar farn Mr. Lloyd mewn materion o'r fath, gan yr holl wlad, fel penderfyniad sicr; ond gan nad oedd y llanwyr yn y lle pan y bu yr ymddyddan uchod; a chan bwyso ar yr hyn a ddywedasid yn flaenorol wrthynt hwy, rhoddasant glo ar ddrws y capel. Y dyddiau canlynol yr oedd cyfarfod misol y sir yn cael ei gynal yn Mhen-y-morfa; i hwn fe anfonwyd dau genad i osod yr achos ger bron y brodyr cynulledig, ac i ofyn eu cyfarwyddyd. Dygwyddodd fod un Mr. Davies, cyfreithiwr, yn eu plith, yr hwn wedi clywed y cynghaws a ofynodd, "A oedd y capel wedi cael ei drwyddedu yn ol y gyfraith?" Atebwyd ei fod, ac mai yr achos iddo gael hyny oedd gwaith un John Jones (gŵr ag oedd yn byw tua Llanddewi-Aberarth, swyddog y gyllidfa), yn dyfod i aflonyddu eu cyfarfodydd, ac i wawdio y pregethwyr, yr hyn a wnaeth unwaith mor effeithiol nes llwyr ddystewi y pregethwr. "Gan fod y capel wedi ei drwyddedu fel addoldy ymneillduwyr," ebe Mr. Davies, "eiddo y Methodistiaid ydyw, ac nid eiddo y llanwyr, a chynghorwn chwi i beidio cyffwrdd â'r clo sydd arno, ond erlyn y sawl a'i clôdd ef â chyfraith y tir."

Yr oedd cyfarfod gweddio wedi ei gyhoeddi i fod yn y capel yr un noson ag y rhoddai Mr. Davies y cynghor hwn yn y cwrdd misol; a chan fod y ddau genad heb ddychwelyd, a rhyw nifer o bobl wedi ymgasglu yn nghyd wrth y capel, pallodd amynedd un o'r enw Dafydd Sión, a chymerodd drosol haiarn i symud ymaith y clo, ac i ollwng y bobl i mewn. Yn fuan ar ol hyn, yr oedd Mr. Richard, Tregaron, yn dyfod i Lanon i bregethu, a phwy a aeth i'w gyfarfod ond Dafydd Siôn. Gofynai Mr. Richard iddo, "Pa fodd yr aeth yn ddyn drwg i dori y clo; a thrwy hyny dori y gyfraith?" Amddiffynai yr