Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/489

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am eu bod heb gymhwysder i'r weinidogaeth, er dyfod iddi yn rheolaidd;y lleill am ymwthio iddi yn afreolaidd er meddu cymhwysderau. Y mae yn cydnabod fod lliaws mawr iawn yn yr eglwys wladol o'r rhai cyntaf;—dynion wedi eu hordeinio yn rheolaidd, ac yn ol trefn y Testament Newydd, ond heb un math o gymhwysder i'r weinidogaeth; ac y mae yn cydnabod hefyd, fod ymhlith y Methodistiaid lawer o ddynion cymhwys eu hysbryd a'u dawn i fod yn weinidogion i Grist, ond nad ydynt mewn un modd wedi dyfod i'r swydd yn gyfreithlawn, a thrwy y drws, y thai ni ellir edrych arnynt yn ddim amgen na lladron ac ysbeilwyr.[1] Gwelwn, ynte, nad yw yr urddiad rheolaidd ddim yn sicrhau bod neb a urddir felly, yn gymhwys i'r weinidogaeth; a pharod ydym i ofyn, ai nid mwy dewisol ydyw dynion cymhwys, heb yr urddiad rheolaidd, na'r rhai urddedig anghymwys?

Dyledswydd y Methodistiaid, yn ol barn Mr. Jones, a fuasai aros mewn undeb ag eglwys Loegr, gan nad pa mor lygredig ydoedd, i "sicrhau y pethau oedd yn ol y rhai oeddynt barod i farw ynddi" yn hytrach nag ymneillduo oddiwrthi,—i fod fel lampau dysglaer, ac fel surdoes puredigaethol, yn yr eglwysi meirwon a llygredig hyn, a cheisio adfywio y cyfan oll. "Ar y cynllun ysgrythyrol hwn," meddai, " y gweithredai pobl Dduw yn Nghymru dros gryn amser; nid oedd gan y Methodistiaid cyntaf un syniad am ymadael; ond arswydent rhag y meddwl am hyny. Yn ddiweddar, pa fodd bynag, y maent wedi tyfu yn ddoethach na'u cyn-dadau. Pan y byddo eglwys wedi colli ei rhagoroldeb, ac nad oes ond ychydig o enwau yn ngweddill ynddi, yn meddu bywyd a phurdeb duwioldeb, ac i'r rhai hyn arfer pob moddion priodol i adferu yr athrawon a'r bobl at wirionedd a grym santeiddrwydd, hwy ysgogent ar hyd ffordd apwyntiedig Duw, ac efe a'u bendithiai hwynt. Ond ymadael yn hollol, sydd anysgrythyrol hollol."[2]

Pâr wên, yn ddiau, ar wyneb y darllenydd, wrth graffu ar y modd y mae y gŵr da yn ceisio cyfiawnhau eglwys Loegr am ymadael ag eglwys Rhufain. "Digon (meddai) o ateb i hyn ydyw dywedyd;—ni ymadawsom a hi fel eglwys, ond ymadawsom yn unig a'i ffieidd-dra. Daliasom afael yn yr hyn a gawsom, ïe, yn Rhufain, yn hanfodol i eglwys apostolaidd, (a'r hyn oedd yn llawer hŷn na phabyddiaeth,) tra y gwrthodasom ei chyfeiliornadau, ei hofergoeledd, a'i heilunaddoliaeth."

Ni ymadawsom a hi fel eglwys! Pa beth a all fod ystyr yr ymadrodd hwn? Ai gwir y dywediad, na ymadawodd eglwys Loegr ag eglwys Rhufain fel eglwys? Fel pa beth ynte? Ai nid fel eglwys yr oedd hòno yn ffiaidd a llygredig? Ac onid ymadael â hi fel y cyfryw yr oedd yn rhaid, os ymadael hefyd? Drachefn ychwanega:—

"Llifai yr eglwys Gristionogol i waered fel afon loyw o ddyddiau yr apostolion hyd at ddechreuad pabyddiaeth; y pryd hyny, hi redai drwy gors fudr; ond yn y diwygiad, glanhawyd, purwyd, a bywiocawyd hi eilwaith. Ni wnaethom ni ond puro yr eglwys a draddodasid ini; ond chwi (y Methodistiaid) a wnaethoch un newydd; mae hyn yn gwneyd peth gwahaniaeth."

  1. Tu dal. 20.
  2. Tu dal. 12.