Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/490

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pa beth, mewn difrif, y mae y gŵr duwiol yn ei feddwl wrth eglwys? Eglwys Loegr yn puro eglwys Rhufain, a'r Methodistiaid yn gwneuthur eglwys newydd? Pa beth newydd, atolwg, a geir yn mhlith y Methodistiaid? Ni addefant neb yn ben ond Crist—nid oes ganddynt yn sail i'w ffydd ond yr hen Feibl,—nid ydynt yn pregethu dim ond yr hen wirionedd a glywsom o'r dechreuad, ac nid oes neb yn cael eu haddef yn aelodau ond a broffesant eu ffydd yn Nghrist, na dim ordinhadau yn cael eu gweinyddu ond a sefydlwyd gan Grist ei hun. Pa beth sydd yn newydd yn hyn oll? Pan y dywed ef fod y Methodistiaid wedi gwneyd eglwys newydd, ac na ymadawodd eglwys Loegr ag eglwys Rhufain fel eglwys, yr ydym yn addef, na allwn wybod gydag un math o sicrwydd pa beth y mae'r awdwr yn ei feddwl wrth eglwys.

Anhawdd iawn hefyd ydyw gwybod pa ddrychfeddwl sydd gan yr awdwr am sism.[1] Y mae hwn yn air a arferir yn fynych iawn gan ysgrifenwyr y naill enwad crefyddol am y llall;—gair a arferir gan y naill sect i warthruddo y sect arall;—gair hefyd sydd yn argoeli, yn y defnydd cyffredin a wneir o hono gan ddadleuwyr sectaidd, fod mwy o ysbryd sismatic yn yr ysgrifenydd, nag yn yr hwn neu y rhai y cymhwysir ef atynt. Hawdd ydyw i eglwys Rhufain warth-nodi eglwys Loegr trwy haeru ei bod yn euog o sism, neu i eglwys Loegr warth-nodi ymneillduwyr yr un modd, ond pa le y mae y prawf? Rhaid i ddynion meddylgar gael rhyw sail gryfach i bwyso arni na haeriad eofn creadur ffaeledig fel hwy eu hunain.

"Dichon sism fod," medd Mathew Henry, "lle nad oes ymadawiad cyhoeddus; a dichon ymadawiad cyhoeddus fod lle nad oes sism". "Nid yr hyn," medd Dr. Campbell, "a wna wahaniad neu ymadawiad cyhoeddus ydyw sism, er hefyd, y gellir dynodi hyny wrth yr enw, mewn ystyr îs; ond yn hytrach, yr hyn a bar ymddieithriad calon ydyw yr hyn a gyfansodda sism yn ystyr yr apostol, oblegyd y mae hyn yn milwrio yn uniongyrchol yn erbyn hanfodion Cristionogaeth."[2] Yr oedd ymbleidio neu sismau yn eglwys Corinth pryd nad oedd ymadawiad yn eu mysg, 1 Cor. i. 10. Dichon ynte, fod sismau yn eglwys Loegr yn awr, pryd nad oes ymraniad ynddi, ac fe allai fod y rhai sydd yn ymadael â'i chymundeb y dyddiau hyn, ac yn myned trosodd at eglwys Rhufain, yn llai euog o sism nag ydyw y rhai sydd yn aros ynddi, ac yn achosi y fath ymrysonau o'i mewn.

Ond y mae ein hawdwr yn addef, na ddywedasai efe un gair am sism y Methodistiaid Calfinaidd, oni bai, meddai, "rhywbeth a ddygwydi mewn yn ddiweddar, a elwir ORDEINIAD." Ymddengys nad ydoedd Mr. Jones, o Creaton, ddim yn anfoddlawn i'r Methodistiaid i alw dynion i bregethu, crynhoi cymdeithasau crefyddol, codi capelau, a chynllunio trefniadau, a hyny heb ymgynghori ag un esgob, na phroffesu ufydd-dod i un reol eglwysaidd, ond i'r Beibl yn unig, pe nas dygasid yr ordeinio i mewn;—neillduo dynion a gydnabyddid yn dduwiol ac yn ddoniol, yn amgen na thrwy arddodiad

  1. Ystyr y gair ydyw, rhwyg, ymraniad, ymadawiad.
  2. Dr. Geo, Campbell's Notes on the New Testament.