dwylaw yr esgob, oedd y trosedd annyoddefol! Fe edrycha ar yr ordeiniad hwn yn wawd ac yn ffoleb ar ordinhadau y nefoedd, ac mewn gwirionedd yn rhyfyg annuwiol! Y mae yn beth hynod fod dynion da yn gallu arfer y fath ymadroddion; a chyffry ynom deimlad trist pan y darllenwn frawddeg o'r fath a ganlyn: "Ymddengys y bu ganddynt yn ddiweddar rywbeth a alwant wrth yr enw hwn (ordeiniad), ac os cywir fy hysbysiad, un o'r fath yma ydoedd. Nid oedd cymaint ag un yn bresenol a dderbyniasai ei hun yr un ordeiniad erioed mewn un ffurf." Gresyn, cyn ysgrifenu hyn a'i gyhoeddi i'r byd, na ymofynasid yn gyntaf a oedd yr hysbysiad yn gywir o leiaf; gresyn y prysurdeb a ddangosir i geisio gwarthruddo Cristionogion, a addefid yn iach yn eu hathrawiaeth, ac wedi bod yn llafurus a llwyddiannus i daenu gwybodaeth ysgrythyrol, i raddau anarferol, yn mhlith trigolion amddifaid y mynyddoedd! Nid yw y rhai goreu o ddynion ond dynion ar y goreu! Hawdd a fuasai i'r ysgrifenydd gael allan ond ymofyn fod yno wŷr, rai o leiaf, a gawsent ordeiniad rheolaidd ac apostolaidd, yn oi ei farn ef ei hun, yn blaenori yn y ffug-ordeiniad hwn! I'r fath eithafon gorwyllt y cipir dynion, pan y rhoddir ffrwyn i ragfarn a nwyd!
Hòna yr awdwr, fod Crist wedi rhoddi yr awdurdod i'w apostolion i ordeinio rhai eraill, ac felly o'r naill i'r llall yn rheolaidd i barhau. Dywedir mai yr esgobion yn unig fyddai yn ordeinio; a'r henuriaid yn cynorthwyo yn arddodiad y dwylaw. Wrth gwrs, fe fynai yr awdwr i ni ddeall mai wrth esgob y mae i ni ddeall un cyffelyb i esgob yn eglwys Loegr, a'i fod i'w wahaniaethu yn ei swydd oddiwrth weinidogion neu bregethwr yr efengyl. Ond ar ba sail? Yn mha le y mae yr ysgrythyr sydd yn profi fod yr awdurdod i ordeinio wedi ei gysylltu ag un pregethwr, heb ei fod gan bregethwr arall? Pwy a ddyfeisiodd esgobion taleithiol, gan roddi iddynt y fath awdurdod a derchafiad, uwchlaw eu brodyr eraill yn y weinidogaeth? Ie, pwy? Onid yw yr awdurdod tra mawr, a'r rhi, a'r rhwysg bydol, yn sawrio yn drwm o ddyfais anghristaidd, ac yn dâynesiad llawer rhy agos at y butain o Babilon?
Mae yr awdwr yn awgrymu fod yr ordeiniad Methodistaidd yn cael ei wneuthur mewn modd isel a dibarch iawn, gan ryw swp o ddynionach diddysg, a gwrageddos ffol; darluniad, y mae yn afreidiol i mi ddywedyd, sydd gwbl anghywir. Afreidiol hefyd ydyw i mi ddywedyd fy mod yn amheu yr hyn a ddywedir am y Parch. Daniel Rowlands, darfod iddo, fel y dywed yr awdwr hwn, "arfer ei awdurdod yn yr achos gyda phrysurdeb a phenderfyniad; iddo osod ei sawdl ar ben y sarff, a dinystrio y newydd-beth hwn," pan y gwnaed cais at ordeiniad yn ei ddydd ef. Mae un ffaith yn werth mil o haeriadau, neu o chwedlau disail, a'r ffaith hòno yr ydym eisoes wedi ei chrybwyll. Ofnwn fod amryw o'r amryfuseddau hyn am Mr. Rowlands, wedi cyfodi oddiar gymeryd y tad yn lle y mab—Daniel yn lle Nathaniel. Yr oedd Nathaniel yn erwin yn erbyn yr ysgogiad, ond ni allwn gredu dim o'r fath am ei dad, o leiaf o ran egwyddor, gan iddo gynghori eglwys y New Inn, yn sir Fynwy, i wneyd fel y gwnaeth.
Yn y "Welsh Looking Glass" hefyd, fe ymddengys llawer iawn o ysbryd