Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/492

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

plaid grefyddol. Cwyna yr awdwr lawer rhag diogi ac annhrefn yr offeiriaid, gan y bu hyny yn foddion, nid i ddinystrio eneidiau dynion, ond sylwer “i waghau yr eglwysi. Achwyna yn dost ar ymddygiad yr esgobion tuag at yr offeiriaid efengylaidd, nid am y bu hyny yn niweidiol i wir grefydd yn gyffredinol, ond am i hyny ymlid gwir grefydd o'r eglwys. Buasai y Methodistiaid yn cael canmoliaeth digymysg am y daioni mawr a wnaethant yn Nghymru, oni bai eu bod wedi ymwthio i'r offeiriadaeth, yr hyn ni pherthynai i neb, tybygid, ond i'r sawl a fu dan ddwylaw esgob. Gwnaethant ddaioni mawr, ond och fi! gwnaethant hefyd ddrwg anferth, trwy encilio oddiwrth y sefydliad gwladol. Yn hyn, meddır, yr oedd eu drwg, nid am iddynt gyhoeddi gwirionedd Duw pan oedd yr offeiriaid yn anffyddlawn, ond am iddynt benderfynu gosod eu hunain i fyny, a pheidio byth mwyach ag ymostwng i'r sawl a ordeiniwyd yn rheolaidd, pa mor dduwiol ac efengylaidd bynag."

Mae deugain mlynedd, bellach, er pan y cymerwyd y cam crybwylledig, yr ysgogiad y cwyna yr awdwr hwn gymaint arno; a'r deugain mlynedd hyny ydoedd adeg llwyddiant mwyaf y cyfundeb. Mae genym sail i gredu, a hyny heb fod yn euog o ryfyg, ddarfod i'r Arglwydd yn raslawn roddi ei bresenoldeb ar lafur y Methodistiaid yn y deugain mlynedd hyn, i raddau helaeth iawn. Nid yw y tymor a basiodd, o'r ordeiniad hyd yn awr, ddim wedi ei hynodi â gŵg y nef; ni fu un arwydd, hyd yma, fod culni wedi ei anfon i eneidiau y rhai a ordeiniwyd, er mor rhyfygus y dywedir fod yr urddiad;—gwenodd y nefoedd ar lafur y sismaticiaid hyn!—rhoes ei sel wrth eu gweinidogaeth, i raddau tra helaeth, fel nad yw yn ormod dywedyd, fod gweinidogaeth y gwŷr yr achwyna Mr. Jones gymaint arnynt, wedi ei bendithio gan Dduw i wneud mwy o ddaioni yn Nghymru, yn ystod y deugain mlynedd diweddaf, nag a wnaed gan y legally ordained priests,[1] er ys 200 o flynyddoedd cyn hyny.

Noda Mr. Jones, fel y dywedwyd, dau ddrwg, ac achwyna yn dost rhag eu heffeithiau dinystriol ar y wlad. Un drwg a nodir ganddo ydyw, fod dynion yn cymeryd arnynt y swydd offeiriadol, heb un cymhwysder iddi, a'r drwg arall ydyw, fod dynion o gymhwysderau i'r weinidogaeth yn myned iddi yn afreolaidd. Am lawer o offeiriaid eglwys Loegr, y mae yn barnu fod eu hordeiniad yn rheolaidd, ond eu bod yn amddifaid o gymhwysder i'r swydd. Am y sectariaid y dywed, fod llawer o honynt yn meddu y cymhwysderau, ond heb yr ordeiniad priodol. Fe ddywed, hefyd, nad oes neb à hawl ganddo i'r swydd heb y cymhwysder a'r gosodiad. Ac yn ol dim a ymddengys yn y traethodyn a ysgrifenodd nad oes un gosodiad yn rheolaidd, ac yn ddwyfol, ond yr un esgobawl. Felly, mae yn rhwym o edrych ar bob gweinidog yr efengyl, yn mysg presbyteriaid Scotland, Wesleyaid ac ymneillduwyr eraill yn Lloegr, yn gystal a Methodistiaid Cymru, yn euog o draws-feddiannu y swydd weinidogaethol, ac yn byw mewn sism. Peth rhyfedd, hefyd, os lladron ac ysbeilwyr ydynt, ac heb fod yn fugeiliaid wedi dyfod drwy y drws, fod Arglwydd

  1. Offeiriaid wedi eu hordeinio yn gyfreithiol. Tu dal. 16.