Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/494

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr hon oedd yn Philipi. Yn Lloegr, y mae un esgob yn arolygu cannoedd o eglwysi, ond yn Philipi yr oedd gan un eglwys amryw esgobion. Yn mha le, ynte, у mae y rheol a'r ffurf ysgrythyrol y sonir cymaint am dani? Dangosed ein gwrthwynebwyr, dan eu ffurf eglwysig hwy, yn rhyw wlad, neu yn rhyw oes, a than ryw amgylchiad, amryw esgobion yn perthyn i ryw un eglwys, os gallant. Os na allant, ninau a benderfynwn fod gwahaniaeth yn bod, trwy ryw anffawd neu gilydd rhwng eglwys Philipi ac eglwys Loegr.

Barnu yr wyf fi, fod Mr. Charles a'r gwŷr da eraill a enwyd uchod, mor deilwng o'r enw esgob a'r un esgob taleithiol sydd yn eistedd yn nhŷ yr arglwyddi. Hwyrach y pâr y fath honiad wên ar wyneb ambell un o herwydd fy ngwiriondeb. Eto, addefaf yn rhwydd, fod y cyfryw wiriondeb yn perthyn i mi. Buaswn yn dywedyd wrth Mr. Jones, o Creaton, ei hun, pe buasai o fewn cyrhaedd, fy mod yn ei ystyried ef, fel gweinidog cymhwys y Testament Newydd, mor wirioneddol ac ysgrythyrol esgob a neb pwy bynag a wisgai y meitr yn eglwys Loegr. Felly hefyd, yr wyf yn golygu pob gwir weinidog yr efengyl o ba enwad bynag: a chan hyny, yr wyf yn ystyried yr urddiad a fu ar neb o'n pregethwyr gan wŷr cyffelyb i Mr. Charles a'i gydlafurwyr, yn llawn mor ysgrythyrol, os nad llawer mwy, na'r ordeiniad a wneir o bryd i bryd gan esgobion taleithiol ein teyrnas ni. Hi fydd yn ddigon buan i ni amheu llawer ar ffurf ein hordeiniad, pan y dangoso ein gwrthwynebwyr, mai nid esgob yn yr ystyr ysgrythyrol o'r gair ydyw gwir weinidog yr efengyl; a hawdd y gallwn oddef ein galw yr "lladron ac yn yspeilwyr," os na fydd dim i'n profi felly, ond y ffaith na fu llaw yr un o breladiaid y deyrnas ar ein penau.

Hawdd a fuasai chwyddo y sylwadau hyn i helaethrwydd mawr, a theimlwyf radd o demtasiwn, gan haerllugrwydd eofn y traethodyn dan sylw, i ymhelaethu ar y syniadau sydd ynddo, ond gweddeiddiach, o bosibl, ar hyn o bryd, ydyw peidio ychwanegu; ac oni buasai fod syniadau cyffelyb i'r rhai y beïir arnynt, yn cael eu haeru a'u lledaenu gyda diwydrwydd a sel, ar hyd ac ar led Cymru y dyddiau hyn, gan y rhai a'u galwant eu hunain yn "OLYNWYR YR APOSTOLION," ni buaswn yn tybied yn angenrheidiol i mi aros cyhyd gyda thraethodyn a gyhoeddwyd ddeugain mlynedd yn ol; yr hwn, erbyn hyn, sydd wedi syrthio agos i lwyr ebargofiant. Teg hefyd, wrth ddybenu fy sylwadau, ydyw dywedyd fod genyf barch diffuant i goffadwriaeth awdwr y traethodyn, nid oblegyd y traethodyn ei hun, ond oblegyd y profion a roes drwy ymddygiadau teilwng, a llafur efengylaidd, ei fod yn "ŵr Duw," gan nad pa faint a allai ei gamsyniad ef fod yn yr achos dan sylw. Gwyn fyd na fyddai miloedd mwy o'i gyffelyb yn llenwi pulpudau yr eglwys wladol, o ran purdeb ei athrawiaeth a gweddusrwydd ei rodiad; a gresyn fod cynifer yn debyg iddo yn ei syniadau chwith yn nghylch olyniad yr offeiriadaeth, a'r urddiad esgobawl. Efelycher ef yn yr hyn oedd dda, ond gocheler yr hyn oedd wael.