Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/495

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y PEDWERYDD DOSBARTH;

SEF,

HANESIAETH Y SIROEDD.

Y PRIF LINELLAU YN HANES METHODISTIAETH

SIR FEIRIONYDD.

PENNOD I.

Y CYFNOD CYNTAF, O DDYFODIAD JOHN EVANS I'R BALA HYD ENCILIAD HOWEL HARRIS.

CYNWYSIAD:—

YMSEFYDLIAD JOHN EVANS YN Y BALA—EI HANES A'I GYMERIAD-Y CREFYDDWYR CYNTAF YNO—DAVID WILLIAMS A JOHN BELCHER YN CAEL EU HANFON YNO—BENJAMIN THOMAS, YN NGWYNEDD—DEHEUWYR ERAILL—DANIEL ROWLANDS YN LLANUWCHLLYN—EVAN A SION MOSES—JOHN EVANS YN MYNED I GYMDEITHASFA TRECASTELL—HOWEL HARRIS YN LLANGWM—SION MOSES YN LLANFAIR, DYFFRYN CLWYD—BONEDDWYR YN ERLID YN ARDALOEDD Y BALA—PREGETHWR YN LLANGWM.

WEDI olrhain gradd ar gychwyniad Methodistiaeth, a rhoddi byr-hanes o'i ysgogiadau dechreuol mewn Gogledd a Dehau; — wedi cyfeirio hefyd at y prif foddion a ddefnyddiwyd i'w ddwyn yn mlaen, ei attalfeydd a'i effeithiau; y mae yn angenrheidiol bellach i ni olrhain prif linellau ei gynydd a'i lwyddiant yn ngwahanol siroedd y dywysogaeth, a rhai o drefydd Lloegr, i'r graddau y cyrhaedd y defnyddiau sydd genym. Ac wrth wneuthur hyn, fe ddaw dan ein sylw offerynau, lleoedd, ac amgylchiadau; ac fe ddaw y rhai'n oll i sylw, dan bedwar cyfnod arbenig o amser; sef,

I. O'R DECHREUAD HYD YR YMRANIAD; YSBAID 15 MLYNEDD.

II. O'R YMRANIAD HYD GYFODIAD YR YSGOL SABBOTHOL; YSBAID 35 MLYNEDD.

III. O SEFYDLIAD YR YSGOL SABBOTHOL HYD YR YMNEILLDUAD; YSBAID 25 MLYNEDD.

IV. O'R YMNEILLDUAD YN 1811 HYD YN AWR.

Crybwyllasom o'r blaen, am y modd y cychwynodd Methodistiaeth yn sır Feirionydd, trwy ddyfodiad Howel Harris i Lanuwchllyn a'r Bala, yn y flwyddyn 1739, a thrachefn, meddir, yn yr un flwyddyn. Yn y flwyddyn 1741, fe ddaeth y drydedd waith, pryd y maeddwyd ef mor fileinig, yn fwy felly nag y gwnaed erioed o'r blaen, na byth wedi hyny; a buy wlad hon, am rai blynyddau ar ol y gurfa hon, yn amddifad o bregethu gan neb o'r Methodistiaid. Yr oedd yma, er hyny, wyth neu ddeg o rifedi wedi eu deffro yn eu heneidiau, trwy bregethau Mr. Harris, a Jenkin Morgan, yr ysgolfeistr. Arferai y rhai hyn ymgynull yn nhŷ un Edward William, y gwehydd; gŵr duwiol a berthynai i'r gymdeithas fechan o ymneillduwyr, ag oedd o leiaf wedi bod yn y