Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

deyrnas, mwynheid llonyddwch perffaith yn y parthau pellaf o'r deyrnas: ac nid oedd un rhan o honi yn llai darostyngedig i'r cyffroadau hyny nag oedd Cymru. Pan oedd erlidigaeth yn llosgi fel ffwrn yn Llundain, y gwreichion yn unig a gyrhaeddai Gymru. Prin y clywid rhwng mynyddau y dywysogaeth swn y taranau a siglai sylfeini y brif-ddinas. O'r ochr arall, nid oedd y goleuni a lewyrchai yn danbaid ar y ddinas fawr, ond o'r braidd yn ganfyddadwy i breswylwyr neillduedig y mynyddau.

Nid oedd o gymaint gwahaniaeth i Gymru ddigyffro, pwy fyddai ar yr orsedd, ai Harri y dinystrydd, ai ei fab Edward y diwygiwr;—pa un ai Mari waedlyd, ai Elizabeth wrol;—ychydig o wahaniaeth a deimlid, pa un ai Pabyddiaeth ai Protestaniaeth a fyddai uwchaf;—pa un ai eglwyswyr ai presbyteriaid a fyddai drechaf;—ychydig a wyddai preswylwyr cyffredin Cymru, ac ychydig a ofalent am y pethau hyn. Yr oedd yn fantais iddynt, ar ryw dymhorau, fod eu gwlad yn anghysbell ac anhygyrch; ond yn anfantais ar dymhorau eraill. Gwell oedd arnynt ar adegau o erlidigaeth grefyddol, neu o derfysgoedd gwladol, gan y diangent o leiaf rhag blaen y gawod; ond gwaeth oedd arnynt pan fyddai goleuni gwybodaeth yn cynyddu, a manteision crefyddol yn amlhau, gan mor ychydig oedd iddynt hwy o ran na chyfran ynddynt. Yr oeddynt fel pobl Lais gynt, yn "bobl lonydd a diofal," wedi eu neillduo gan eu hiaith, a gerwinder eu gwlad, oddiwrth y gweddill o'r deyrnas. Ac os mwynhaent, ar y cyfrifon hyn, fwy o heddwch, fel cwr bychan o'r deyrnas prin yn deilwng o sylw, dyoddefent oblegid hyny mewn ystyriaethau eraill. Mwy oedd eu heddwch, mae'n wir; ond mwy hefyd oedd eu hanwybodaeth. Nid oedd na llênyddiaeth na masnach y pryd hyny wedi cyffroi y Cymry o'u cwsg. Nid oedd ond ychydig iawn o lyfrau yn eu hiaith. Yr oedd medru darllen yn rîs mor uchel, nad oedd ond nifer fechan iawn wedi ei chyrhaedd. Cyn dyddiau Mr. Gouge a Stephen Hughes, yr oedd y Beiblau mor anaml a'r llanau, a'r rhai a'u darllenent ymron yn anamlach na hyny. Dan y fath amgylchiadau, nid rhyfedd ydoedd fod y genedl yn gyffredinol wedi disgyn i ddyfnderoedd ofergoeledd, a'i bod wedi ei gorchuddio â chaddug o anwybodaeth; ac nid rhyfedd chwaith, os ceir fod arferion y genedl yn cydweddu ag ansawdd dywyll yr oes.

Nid wyf yn credu, er hyn oll, fod cenedl y Cymry un amser wedi ei llyncu i fyny mor llwyr i ynfydrwydd anfad Pabyddiaeth a'u cymydogion y Saeson; eto, rhaid addef, er pob gwrthwynebiad a wnaed am faith amser i ymostwng i ormes yr iau estronol hon, fod y Cristionogion Prydeinaidd yn raddol wedi eu nawseiddio yn drwm â lefain eglwys Rhufain. Ar yr un pryd, fe ymddengys na fu y Cymry erioed yn rhyw fywiog ac effro o blaid Pabyddiaeth; ond yn hytrach, iddynt ymollwng yn oddefol a difater i'w thrais, a gadael rhyngddi hi a'i honiadau trahaus. Yr oedd llawn cymaint o anghrefydd yn eu mysg a dim arall. Ychydig a wyddent, neu a ofalent am grefydd yn y byd. Er dyddiau Harri VIII, yn yr 16eg canrif, yr oedd llawer o gyfnewidiadau wedi dygwydd ar wedd allanol, a sefydliadau gwladol crefydd. Ar ol Harri y pabydd a'r gorthrymwr, daeth Edward y protestant; a chyda dis-