Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dadau" hyn i wlad y gorllewin, trwy drais Iago I, y ddau Charles, a lago II. Anmhosibl ydyw mynegu pa faint a ddyoddefodd yr anghydffurfwyr. Dywedir fod Jeremy White wedi casglu enwau triugain mil o ddynion wedi dyoddef am anghydffurfiaeth, rhwng yr amser yr adferwyd Charles II i'r orsedd, a'r chwyldroad; ac i bum mil o honynt farw yn y carchar. Mewn ysbaid tair blynedd, ysbeiliwyd hwy o werth dwy filiwn o bunnau o'u meddiannau. Ond os collwyd cynifer o fywydau mewn amser mor fyr ag wyth mlynedd ar hugain, sef yr ysbaid rhwng yr adferiad a'r chwyldroad, pa faint a raid fod swm dyoddefiadau dynion cydwybodol, o ddechreuad Puritaniaeth hyd yr oruchafiaeth a gafodd rhyddid crefyddol dan deyrnasiad William?

PENNOD III.

GOLWG AR ANSAWDD CYMRU AR DDECHREAD Y DIWYGIAD METHODISTAIDD.

CYNWYSIAD:

CYMRU MEWN CYDMHARIAETH I LOEGR—ANSAWDD Y WLAD O RAN CREFYDDEFFAITH YR YMYRAETH GWLADOL—Y CLERIGWYR—YMNEILLDUAETH—CHWAREUON—OFERGOELION AC ANWYBODAETH—CREULONDERAU, &c.

Ni ellir cael golwg deg ar Gymru yn y blynyddoedd yn mlaen y diwygiad Methodistaidd, heb ystyried y gwahaniaeth rhyngddi â Lloegr. Rhaid cymeryd sylw neillduol ar hyn, i allu iawn farnu am ansawdd y dywysogaeth. Yr oedd y rhan yma o'r deyrnas y pryd hyny, fel yn awr, ac yn fwy nag yn awr, yn wahanol ei hiaith, a thrwy hyny yn ymyraeth llai yn helyntion y deyrnas. Yr oedd pellder Cymru o Lundain, y brif-ddinas, a'r wlad yn fynyddig ac anhygyrch mewn cydmhariaeth, yn peri mwy o neillduaeth a dyeithrwch; a chan nad oedd, yn yr oesoedd hyny, yr un cerbyd yn rhedeg trwy y wlad, na newyddiadur yn chwalu hysbysiadau, nid oedd helyntion y brif-ddinas prin yn adnabyddus i breswylwyr difraw Cymru. Ar y llaw arall, yr oedd Lloegr, ac yn enwedig Llundain a'r trefydd mwyaf, yn llawn cyffro a berw. Er dyddiau Harri VIII, yr oedd helyntion crefydd yn peri cyffro mawr yn mysg y Saeson. Codai dadleuon poethlyd rhwng Pabyddion a Phrotestaniaid, a thrachefn rhwng cydffurfwyr ac anghydffurfwyr. Yr oedd y pulpudau yn adsain gan eu twrf, a'r argraffwasg yn rhoddi cylchrediad prysur i'w syniadau. Ond nid oedd hyn oll ond o'r braidd yn cyrhaedd Cymru. Yr oedd ein hynafiaid, i fesur mawr, yn preswylio eu hunain. Nid oedd eu masuach ond bychan, a'u hysgolion ond anaml. Nid oedd ond ychydig o lyfrau yn yr iaith, nac un argraffwasg, o bosibl, yn y tir. Yr oedd ymdaith o'r naill gwr i'r wlad i gwr arall o honi, yn afrwydd iawn, os nad yn beryglus; ac ychydig iawn, gan hyny, oedd y cyniwair rhwng gwahanol barthau y wlad â'u gilydd. Nid oedd ansawdd Lloegr, dan yr amgylchiadau hyn, yn effeithio ond ychydig ar Gymru; ac os cyrhaeddai helyntion y llywodraeth a'r brif-ddinas hyd at Gymru, graddol iawn a fyddai hyny, ac wedi treigliad cryn amser. Pan fyddai y cyffro mwyaf yn Llundain, calon y