Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oriau adnabyddus i wrando arno, y tu allan i'r muriau, wrth y ffenestri. Ond wedi bod rhyw gymaint yn y carchar, ac heb un golwg ar ei ryddhad, anfonwyd at gyfreithiwr gonest a deallus yn Llundain i chwilio i'r achos, a chafwyd allan fod ei garchariad yn gwbl anghyfreithlawn, a bod ei orthrymwyr yn agored i gosb cyfraith y tir. Ar ei ollyngiad yn rhydd, yr hyn a wnaed ar ol y chwarter sessiwn, annogwyd Mr. J. Owen i gosbi yr ustus am ei gamgarcharu; ond hyn ni wnai, gan ddiolch am ei gyfrif yn deilwng i ddyoddef mewn achos mor anrhydeddus.

Cymerodd yr Ustus achlysur oddiwrth ei hynawsedd i ddirwyo y gwrandawyr, a Mr. Owen; ac anfonwyd ceisbwliaid i godi y ddirwy o'u meddiannau felly ysbeiliwyd llawer o honynt o'r hyn oedd ganddynt, i dalu y ddirwy a'r draul, trwy drais a chreulondeb yr ynad haerllug hwn.

Wedi i Mr. Owen briodi gwraig o Groesoswallt, efe a ymsymudodd o Swiney, i lafurio o hyn allan yn y dref hóno. Bu yn llafurio yno am 20 mlynedd heb nemawr lwyddiant, ond dan warth a rhagfarn fwy na mwy. Bu yn foddion, pa fodd bynag, i blanu eglwysi bychain yn Llanfyllin, Dinbych, Rhuthin, a manau eraill ar dueddau Cymru. Yn y fl. 1700, symudodd i'r Amwythig i gymeryd gofal athrofa, yn yr hon y dygid gwŷr ieuainc i fyny, y rhai a ymroddent i waith y weinidogaeth; ond nid hir y cafodd fyw ar ol rhoddi y cam hwn, oblegid terfynodd ei oes yn y fl. 1706, mewn perffaith dangnefedd, gan ymddiried ei achos i ddwylaw yr archoffeiriad trugarog a ffyddlawn.

"Amserau blinion" a brofwyd yn mhob ystyr er pan gychwynodd y diwygiad trwy Mr. Wroth, Llanfaches, hyd y chwyldroad yn y fl. 1688. Yn ei ddyddiau ef yr oedd Cymru yn mwynhau tawelwch; ond tawelwch rhy debyg i dawelwch cysgod angau. Nid oedd nemawr un yn aflonyddu ar y trigolion difraw. Yr oedd y bobl yn foddlawn i'w hoffeiriaid, a'r offeiriaid yn foddlawn i'r bobl, a'r naill a'r llall o honynt yn eistedd mewn tywyllwch, ac yn mro a chysgod angau :—pawb yn rhedeg yr un ffordd, heb neb yn gwrthwynebu; ond pan ddechreuodd Wroth ac eraill rybuddio eu cydwladwyr yn ddeffrous a ffyddlawn, cafodd Cymru deimlo oddiwrth orthrwm a gormes oddiwrth y llywodraethwyr, a phenaethiaid yr eglwys, fel y cawsai Lloegr o'r blaen. Pan y bwriwyd dwy fil o'r gwŷr enwocaf am eu dysg a'u defnyddioldeb allan o'r eglwys, ar ddydd Bartholemeus, am na ymostyngent i Ddeddf yr Unffurfiaeth dan Charles II, disgynodd ychydig o ddyferion o'r gawod hon ar ein gwlad ninau. Yn brin iawn, mae yn wir, y teimlwyd gormes erlidigaeth yn Nghymru y pryd hyny; ond yr achos o hyny oedd prinder y ffyddloniaid; nid oedd ond ychydig i'w cael yn werth eu herlid. Yn Lloegr, pa fodd bynag, yr oedd miloedd yn teimlo yn arswydus oddiwrth orthrymder a thrais y rhai a feddiannent yr awdurdod. Bu gorfod i lawer o honynt ymadael â'u gwlad, er mwyn cael rhyddid i addoli Duw yn ol syniad eu cydwybodau. Trais yr awdurdodau a yrodd Mr. Brewster a'i gynulleidfa, sef chwech ugain o eneidiau, i chwilio am wlad estronol; a dyma sylfaenwyr "UNOL DALEITHIAU AMERICA." Aeth lluaws mawr ar ol y "Pererin