yn yr hanesyn a ganlyn am Mr. J. Owen:—Pan oedd Mr. Owen yn myned unwaith i bregethu i le a elwir Treuddyn, lle rhwng Caergwrley a'r Wyddgrug, yn sir Fflint, collodd y ffordd, a throes i west-dŷ i ofyn cyfarwyddyd. Drwg-dybiwyd ef fel un o'r penau cryniaid, gan un o'r gwŷr mawr a ddygwyddai fod yn yfed ac yn gwledda yn y gwest-dŷ ar y pryd. Hwn, gan hyny, dan rith moesgarwch, a ofynai iddo pa beth a geisiai; ac wedi cael allan i ba le yr oedd yn amcanu myned, a'i cyfarwyddodd yn y ffordd; ac ar ymadawiad y gŵr dyeithr, efe a fynegodd i'w gymdeithion ei fod wedi cael allan fod cyfarfod anghyfreithlawn i fod dranoeth yn y gymydogaeth. Lluniasant, gan hyny, i gyfarfod â'u gilydd, dan rith hela, ar fynydd gerllaw, modd y gallent weled, drwy ymgynulliad y bobl, pa le yr ymgyfarfyddent; a chanfuant yn lled fuan mai tŷ gŵr o'r enw Thomas Fenner, yn mhlwyf Estyn (Hope), oedd lle yr ymgynulliad. Yno yr aethant yn llawn o ffyrnigrwydd; gosodasant wylwyr o amgylch y tŷ; a thyngasant y saethent yn farw yn y fan y neb a gynygiai ddianc. Aethant i mewn trwy drais, ymaflasant yn Mr. Owen, a chawsant ei Feibl, a "Mynegair Ysgrythyrol" yn rhwym gydag ef. Yr oedd gan Mr. Owen nodiadau ei bregeth wedi eu hysgrifenu yn Lladin yn ei Feibl. O herwydd hyn, hwy a hónent mai Jesuitiaid bradwrus oeddynt, ac mai llyfr anghyfreithlawn oedd y Beibl oedd ganddynt. Yn ysbaid yr amser y buont yn dysgwyl am swyddog i'r lle, ceisient yn ddyfal, trwy fygythion a phob ystrywiau dichellgar, i gael rhyw achos i gyhuddo y trueiniaid gwirion a thlodion o'i herwydd, fel rhai a gynllwynent yn erbyn y llywodraeth. Gyda'r un dyben, holent y pregethwr yn gyfrwys a manwl iawn. Wedi i'r hedd-geidwad ddyfod i'r lle, ymholwyd am y warant i'w dal; a chan nad oedd yr un ganddynt, un o honynt a dynodd bapyryn o'i logell, gan dystio mai gwarant gyfreithiol ydoedd. Dan yr amryfusedd hwn, efe a'u cymerodd, ac a'u gyrodd oll o'i flaen i'r Wyddgrug, tua phum milldir o ffordd.
Dygwyd y trueiniaid, yn y Wyddgrug, o flaen ustus heddwch; ond ni allai wneuthur dim o'r ysgrif Lladin; am hyny, anfonwyd am offeiriad y plwyf i ddarllen yr ysgrif ddyeithr, heb amheu nad oedd ynddi ddigon i'w cyhuddo o frad, a dwyn arnynt gosb drom. Ond erbyn i'r gŵr urddasol edrych i mewn iddi, cafodd allan mai materion pregeth ydoedd ar Can. v, 16; a thrwy ymddyddan â'r pregethwr, caed allan ei fod yn ŵr ieuanc dysgedig a boneddigaidd, heb ddim achos i achwyn arno ond ei fod yn ymneillduwr; eto, am y bai anferth hwn, rhaid oedd ei anfon i garchar. Cafodd y gwrandawyr eu rhyddid; ond Mr. Owen, a gŵr y tŷ, a roddwyd mewn dalfa yn ngharchar Caerwys. Ennillodd Mr. Owen diriondeb mawr oddiwrth geidwad y carchar, a gair da oddiwrth, ie, ei elynion, fel dyn digymhar am ei ddysg a'i hynawsedd. Arferai ddefnyddio oriau lawer bob dydd i bregethu, egluro yr ysgrythyrau, a gweddio yn gyhoeddus gyda'r carcharorion, ac eraill a ddeuent i wrando arno. Parodd hyn drachefn fraw yn ei elynion, y gwnai fwy o ddrwg yn y carchar na phe buasai yn rhydd: bygythiwyd y ceidwad, a pharwyd cloi y carchar rhag ymwelwyr. Eto y bobl a ymdyrent ar yr