Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd y Beibl yn ein hiaith; yr oedd chwech o bregethwyr teithiol wedi eu gosod gan y llywodraeth i dramwy trwy Gymru, a deuddeg-ar-hugain o weinidogion eraill i'w cynorthwyo, pob un yn amgylchoedd ei gartref; ie, yn ychwanegol at y nifer yma, galwyd nifer o aelodau eglwysig, y rhai a fernid yn gymhwysaf i gyflawni yr hyn oedd eto yn ddiffygiol. Dyma yr adeg, fel y soniasom o'r blaen, y bu gweinidogaeth Mri. Wroth, Erbury, Walter Cradoc, a Vavasor Powel, mor fendithiol; eto, er hyn oll, yr oedd y Cymry, o ran corff y genedl, yn aros yn y dywyll—nos gaddugol,—wedi ymsuddo, i raddau gresynol, i anwybodaeth, ofergoeledd, ac ynfydrwydd.

Fe allai y bydd y darllenydd yn barod i ofyn, pa le yr oedd athrawon cyflogedig y bobl?—pa le yr oedd offeiriaid y plwyf? Onid oedd llan yn mhob plwyf, a chynaliaeth darparedig o'i mewn i un a fyddai cymhwys i ddysgu y bobl? Rhaid addef fod dynion o'r fath wedi cymeryd arnynt y swydd gysegredig hon; ond yr oeddynt, oddieithr ychydig eithriadau, yn anghymhwys hollol i'r fath swydd.

Yr oedd bywydau llawer o honynt yn anfad o anfucheddol, a'u syniadau yn resynol o gyfeiliornus. "Deillion oedd y gwyliedyddion,"—"cwn mudion heb fedru cyfarth." A pha beth a allasem ddysgwyl yn amgen? Yr oedd yr athrofeydd y dygid hwy i fyny ynddynt yn siglenau o anfoes ac annghrefydd. Cawn brawf o hyn tua'r amser y torodd y diwygiad Methodistaidd allan yn Nghymru a Lloegr,—pryd y parodd y ffaith fod chwech o wŷr ieuainc yn Rhydychain yn ymneillduo gyda'u gilydd i weddio, ac i gydymddyddan am bethau ysbrydol, y fath gyffro yn yr athrofa hóno. Gwelwn mai peth hynod oedd fod yno chwech o'r fath wŷr yn mysg y cannoedd efrydwyr. Yr oedd dyeithrwch y fath amgylchiad yn profi pa fath ydoedd ́ansawdd yr athrofa o barth crefydd ysbrydol. Pan aeth Howel Harris i Rydychain, ar y bwriad o wynebu i'r offeiriadaeth, y cyfryw oedd yr olwg a gafodd ar anfoes lygredig y sefydliad, ag a barodd iddo ddychwelyd i'w wlad gyda ffieiddiad. Ni ellid dysgwyl ffrydiau iachusol o'r fath ffynnon anmhur. Pa faint bynag a gyfrenid yno o ddysgeidiaeth ddynol, nid oedd yno nemawr achles i dduwioldeb; a pha gymhwysder bynag a enillai neb yno i ymagweddu fel gŵr boneddig, trwy yr addysg a dderbyniai, yr oedd ei gymhwysder i fugeilio eglwys Dduw yn mhell allan o'r golwg. Mewn llawer o amgylchiadau, fe wnaed yr ymgeisydd am urddau eglwysig yn fab uffern ddau cymaint wrth droi allan o'r athrofa, ag oedd wrth fyned i mewn iddi. Ac heblaw hyn, gan nad oedd Cymru ond rhan anghysbell ac anghyhoedd o'r deyrnas, tybid nad oedd cymaint o ofal pwy, neu pa fath a fyddai ei bugeiliaid; a disgynai i'w rhan y gwehilion mewn dysg a dawn, a moesau a chrefydd.

Mae y chwedlau a ddisgynant i ni trwy draddodiad y tadau am hen offeiriaid y canrif diweddaf, fel y canrifoedd o'r blaen, ymron yn anghredadwy, oni bae fod amgylchiadau y blynyddoedd hyny yr hyn y gwyddom eu bod. "Swm a sylwedd yr hyn a bregethid yn y llanau," medd awdwr Drych yr Amseroedd, "oedd hyn; fod dyn yn cael ei ail-eni wrth ei fedyddio; a bod