Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn rhaid i bawb edifarhau a gwellhau ei fuchedd, a dyfod yn fynych i'r eglwys a'r cymun; bod yn rhaid i bawb wneyd ei oreu, ac y byddai i haeddiant Crist wneuthur i fyny yr hyn a fyddai yn ddiffygiol; ac mai ar law dyn ei hun yr oedd dewis neu wrthod gras a gogoniant. Cyfrifid cystudd corfforol yn foddion digonol (os nid yn deilyngdod) i addasu dynion i deyrnas nef."[1] Ymddengys oddiwrth y dyfyniad hwn, yr hyn, tebygaf, a gynwys ddarluniad byr a chryno o swm y weinidogaeth yn gyffredinol yr oesoedd hyny. Nid "yr ymadrodd am y groes" oedd y weinidogaeth. Nid oedd pynciau mawr yr efengyl yn cael prin eu crybwyll yn y bregeth. Cedwid allan o'r golwg aberth Crist yn sail cymod â Duw, a maddeuant i'r pechadur colledig, a gwaith Ysbryd Duw yn aileni ac yn santeiddio pechadur yn gymhwys i'r nef. Yr oedd trigolion y wlad, er hyn, yn foddlawn i ymadrodd yr athrawon hyn. Y dall oedd yma yn tywys y dall, a'r ddau yn syrthio i'r un ffos o anfoes a dinystr.

Nid oedd eto ond ychydig iawn o ymneillduaeth yn Nghymru. Ar ddechread 1700, dywedir nad oedd ond chwech o gapelau ganddynt yn y Gogledd, a deg-ar-hugain yn y Deheubarth. Ac er i aml seren ddysglaer ymddangos yn ffurfafen ymneillduaeth, o ddyddiau Mr. Wroth i waered; eto, llawer o'r rhai dysgleiriaf a fachludasent yn angau; a'r gweddill, gan mwyaf, a orchuddiasid gan leni duon o ddifrawder a chlaearineb. Yr oedd yr ychydig dduwiolion ymneillduol yn ychydig mewn rhif, fel lloffion grawnwin, ac yn llwfr a digalon gan y gorthrymder a'r gwarth y darostyngid hwy iddo, oddiwrth foneddig a gwreng.

Cyn dechre y fl. 1700, nid oedd, am a allaswn gael allan, ddim ysgolion yn y dywysogaeth; ac ni allai y werin yn gyffredinol ddim darllen na Saesneg na Chymraeg. Yn nyddiau Griffith Jones, Llanddowror, fel y cawn eto grybwyll, y rhoddwyd yr ysgogiad ymarferol cyntaf i addysgiad y werin. Am agwedd grefyddol y wlad, tua dechre 1700, y dywed yr hen batriarch John Evans o'r Bala: "Yr oedd tywyllwch mawr yn y wlad. Beiblau oeddynt dra anaml; ychydig iawn o'r bobl gyffredin a fedrent air ar lyfr, ac arferion y wlad oeddynt yn dra llygredig ac anfoesol. Yr oedd bonedd a gwreng, gwŷr llên a gwŷr lleŷg, yn o gyffelyb i'w gilydd; y rhan fwyaf yn byw yn anghymedrol, yn ddibarch i orchymynion Duw, ac yn dra esgeulus o'i addoliad. Glythineb, meddwdod, ac anlladrwydd, oeddynt fel ffrydiau llifeiriol wedi gorchuddio y wlad. Ac nid oedd yr athrawiaeth a'r addysgiadau yn y llanau yn gyffredin ond tywyll a dirym iawn. Yr oedd y bobl gyffredin yn fwy am fyned i'r llanau y bore dydd Sabboth nag oedd y boneddigion; ond brydnawniau Sabbothau, rhedeg y byddent hwythau at eu chwareuyddiaethau. Nid oedd odid Sul brydnawn na byddai y peth a elwid chwareufa gampau yn rhyw fan yn y wlad. Yn y rhai hyn y byddai gwŷr ieuainc yn dangos eu grymusder, a llawer iawn o bobl y cymydogaethau yn dyfod i edrych arnynt. Ar nos Sadyrnau, yn enwedig yn yr haf, y byddai ieuenctyd, meibion a

  1. "Drych yr Amseroedd," tudal. 47.