Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

merched, yn cadw y peth a elwid nosweithiau canu, yn difyru eu hunain wrth ganu efo y delyn a'r dawns, hyd doriad y wawr ddydd Sabbath. Yn y dref hon (Bala) hwy fyddent, ar brydnawniau Sabbath, yn canu ac yn dawnsio yn y tafarndai, yn chwareu tenis ar yr Hall, &c. Yn mhob cwr o'r dref, byddai rhyw chwareuyddiaeth yn myned yn mlaen tra parhâai goleuni dydd Sul. Yn yr haf y byddai Interludes yn cael eu chwareu ar fwrdd yr Hall ar brydnawniau Sabbathau; a boneddigion a chyffredin yn cyd-ymddifyru yn y modd hyn i halogi dydd yr Arglwydd."

Yn absenoldeb Beiblau, gweinidogaeth yr efengyl, ysgolion Sabbothol ac wythnosol, ac addysg deuluaidd, pa beth yn amgen a allesid ei ddysgwyl? Hawdd a fuasai dychymygu, heb un dystiolaeth gadarnhaol, mai y cyfryw a fuasai ansawdd y wlad; a diamheu genym hefyd, mai cyffelyb a fyddai ansawdd y wlad eto, pe yr amddifedid hi o'r efengyl a'i breintiau. Yr ydym yn fwy dyledus i "Lyfr yr Arglwydd" nag a ddychymygasom erioed. Am yr un cyfnod y dywed John Davies, Nantglyn, yn hanes ei fywyd, a ysgrifenodd ef ei hun:—"Interludiau oedd yn fawr eu cymeradwyad y pryd hwn; byddai llawer o bobl yn myned yn mhell o ffordd i weled a chlywed y rhai hyn, a byddid yn eu cyhoeddi ar ol y gwasanaeth gan y clochydd yn y llan; a chyhoeddid y campau yr un fath! Byddai y bobl ieuainc yn cyflogi ffidler i ganu iddynt am y tymhor, ac yn rhoddi iddo lawer o arian am ei wasanaeth. Cyfarfyddent yn y nos i ddyweyd rhyw storiau a chwedlau celwyddog, yn nghyda hanes eu cymydogion yn agos ac y'mhell. Sonid llawer am ymddangosiad ysbrydion, a thylwythion teg; a chredid pob math ar goelion, swynion, a dewiniaeth. Byddai pawb yn cadarnhau pob gair a ddywedent gyda llŵ, ac ar eu henaid, a hyny yn aml yn gelwydd dybryd. Ar ol claddu y marw, byddai y peth a alwent yn siot, sef postio swllt y llaw i gael cwrw yn y tafarnau; ac yn niwedd y spree, byddai cyfnesafiaid y marw yn myned i ddiolch i'r cwmpeini, trwy roi bendith Duw ar bob un; a'r mwyaf ei siot a fyddai mwyaf ei anrhydedd yn y fro. Y Sabbath cyntaf ar ol claddu y marw, byddai yr holl berthynasau yn dyfod at y bedd i alaru, ac i weddio ei enaid o'r purdan! O Babyddiaeth ffiaidd! Ar ol myned adref, aent ati i chwareu cardiau, a gloddesta!

"Nid oedd ond ychydig mewn plwyf yn medru darllen dim, a'r rhai a fedrent oeddynt bobl go fawr, wedi cael ysgol Saesonaeg. Byddai ambell Feibl mewn tŷ mawr, yn cael ei gadw mewn cist neu goffr, a chlo arno, tuag at gadw y tŷ rhag niwaid. Yr oedd llawer o swynion yn cael eu gwneyd gyda'r Beibl. Yn brawf o hyn, yr wyf fi yn cofio am hen ŵr o gymydog i mi oedd yn cael ei flino yn dost gan yr Asthma (diffyg anadl); cafodd gynghor gan rywun i roddi Beibl tan ei ben am dair noswaith. Aeth yr hen wraig i gerdded y tai am un; ac yn y Plas Newydd, Henllan, y cafodd hi hen Feibl Saesonaeg; pan ddaeth adref, rhoddodd ef dan ben yr hen ŵr, a chysgodd yn dda, meddai hi! Yr oedd gŵr arall, ffermwr mawr, a chanddo fuwch yn sâl ar y Sabbath; ar ol rhoddi physic iddi, fe dybiodd ei bod yn marw, rhedodd yntau i'r tŷ i nol y Beibl, a darllenodd bennod iddi! Di