Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

werth iawn oedd y Beibl y dyddiau tywyll hyn. Un tro, yr oedd y person a'r clochydd yn myned i roddi y cymun i ffermwr oedd yn glaf; daeth y clochydd i'r tŷ o flaen y person, a gofynodd yr hen wraig iddo, 'Pa beth sydd genych chwi, Tomos, yn y cwd gwyrdd yna?' 'Beibl a Chommon Prayer,' ebai yntau. Rhowch wel'd y Bibl, Tomos.' 'Dyma fo, modryb,' ebai Tomos. Wel, moliant i'r gŵr goreu,' ebe yr hen wraig, ni bu yma yr un o'r blaen erioed, yn ein tŷ ni, nac angen am dano erioed o'r blaen, moliant i Dduw am hyny.'"

Er fod y dyfynion uchod wedi eu hadrodd gan y gwŷr hybarch a nodwyd, gyda golwg neillduol ar ddosbarth adnabyddus iddynt o wlad Meirion a Dinbych; eto, cynwysant ddysgrifiad teg a chywir o agwedd y wlad yn gyffredinol. I osod allan ddyeithrwch y cyffredin bobl i'r Beibl, yn nghyda'u rbagfarn at grefyddwyr, pan nad oeddynt eto ond ychydig eu nifer yn y wlad, rhoddwn gerbron y darllenydd hanesyn sydd yn ddarluniad bywiog a digrif o'r hen bobl, y rhai oedd wedi eu magu yn gynar yn y canrif diweddaf. Aeth dau lanc o Landegai, yn sir Gaernarfon, i gymdeithasfa a gynelid yn Llanerchymedd, yn Mon. Trwy ryw anffawd neu gilydd, ni chawsant lety y noson hòno yn y llan. Prynasant ychydig fara, ac aethant i gerdded draw ac yma, yn hytrach na gorwedd ar y ddaear. Yn mhen enyd, canfuant oleuni mewn tŷ; aethant ato, a churasant wrth y drws. Gyda hyn, daeth yr hen ŵr atynt, a gofynasant iddo ganiatad i orwedd yn rhywle dan dô hyd y bore, rhag gorwedd allan. Yntau a ofynodd iddynt,—

"O ba le y daethoch ?"

"O Landegai."

"Ai i'r cyfarfod sydd gan y penau cryniaid yn y llan y daethoch ?"

"Ie."

"Naw wfft i chwi;—yr oeddych yn segur a ffol iawn."

A chlywodd yr hen wraig, a gwaeddodd, "Siôn, edrych ati hi, na ddelont i'r tŷ yma, er dim;—moliant i Dduw, yr ydym ni wedi cadw yn glir â nhw hyd yma."

Ebe Siôn, "Mae nhw yn edrych yn ddiniweid anmhosib', Siân. Dowch i'r tŷ, druain," ebe Siôn wrth y llanciau. Ac wrth y forwyn y dywedodd, Dyro laeth ar tân i wneyd posel i'r bechgyn sydd wedi blino, ac eisiau bwyd."

Ar y pryd, yr oedd yr hen wraig yn edrych yn hyll arnynt, gan amheu beth oedd hyn. Ni ddywedai ddim wrth neb, ond â'i dwylaw y'mhleth hi ddywedai o hyd, "Arwydd Dduw yn fy nghylch." Wedi i'r llanciau fwyta y llaeth a roddasid iddynt, dywedodd un o honynt, "Ni a gadwn ddyledswydd 'rwan, os cawn genad." Yna gwaeddodd yr hen wraig, "Yr oeddwn i yn meddwl, Siôn, eu bod nhw am danom ni."

"Arfer darllen tipyn o'r Beibl y byddwn ni, a gweddio cyn myned i'r gwely."

"'Does yma yr un Beibl," ebe yr hen wraig, "ac ni fu yma ddim achos am dano hyd yma." Ond ebe hi wrth y forwyn, "Dos i'r llofft bach; mae