yno ar y ffenestr ddarn o Gommon Prayer. Mae hwnw yn ddifai iddyn' nhw."" Darllenwyd rhan o hono, ac aeth un o'r llanciau i weddio, a chafodd nerth neillduol gyda Duw. Effeithiodd gymaint ar yr hen wraig, nes y torodd allan i waeddi dros y tŷ. Aeth yr hen ŵr ati, gan ddyweyd, "Taw, taw, mi fendi eto." Pa fodd bynag, newidiwyd gwedd yr hen bobl; aeth y naill at y forwyn, a'r llall at y gwas, y noson hóno, a chafodd y llanciau y gwely goreu ag oedd yn y tŷ. Tranoeth, wedi rhoddi croesaw angenrheidiol, aeth y ddau ben-teulu gyda'r dyeithriaid i'r cyfarfod yr oeddynt o'r blaen yn arfer ymgroesi cymaint rhagddo.
Yr oedd llawer o weddillion ffol Pabyddiaeth yn aros yn y wlad. Arferid y rhai hyn gan y werinos anwybodus ar amryw achlysuron, heb un ystyriaeth na barn, ai da ai drwg oeddynt. Ymlynent wrthynt fel defodau arferedig gan eu tadau a'u teidiau, er ys amseroedd meithion, y rhai ni fynent ar un cyfrif eu gollwng i lawr. Yr oedd mwy o sylw o lawer ar y llythyr dan gareg, nag ar y Beibl. Pan fyddai gwraig mewn gwewyr, gweddiai hi a'r fyd-wraig ar Dduw, a Mair Wen, am ymwared. Wrth fyned i orphwys y nos, adroddent y pader, y credo, a'r deg gorchymyn, a breuddwyd Mair; yr olaf a dybid bwysicaf o'r cwbl, yr hwn nid oedd i'w anghofio er dim. Y nos cyn claddu, byddai bagad o bobl yn ymdyru at eu gilydd, a phawb yn arfer penlinio pan ddeuent i'r tŷ. Yna darllenai y clochydd, neu rywun arall, ran o wasanaeth y claddu. Gwneid hyn, gan amlaf, yn nghanol annhrefn ac ysgafnder arswydus; a dylynid hyn â phob math o chwareu, hyd ganol nos, neu wyll y bore.
Rhoddid coel mawr ar freuddwydion, a threulid amser maith i'w hadrodd, a hyny gyda llawer o chwanegiadau celwyddog. Lledaenid chwedlau dirif am ysbrydion a thylwythion teg; a gorchwyl hen ac ieuainc, hir-nos gauaf, a fyddai ymddifyru, pe difyrwch hefyd, yn eu hadrodd y naill wrth y llall. Trwy hyn, traddodent eu hofergoelion i'r genedlaeth ddylynol, gan chwanegu atynt o oes i oes. Golygent bob peth ymron yn arwydd; gwnaent gasgliadau ofergoelus oddiwrth bob peth a welent, neu oddiwrth bob amgylchiad a'u cyfarfyddai. Yr oedd breuddwydion y nos, gan hyny, a dygwyddiadau y dydd, yn eu dychrynu. Cyfodai daroganau lawer oddiwrth y falwoden araf, ac oddiwrth y biogen wyllt; oddiwrth y llyffant musgrell, a'r ysgyfarnog heinyf. Codai dychymygion anferth oddiwrth aderyn y corff, a nâd y ddylluan; oddiwrth ysgrech-y-coed, ac udiad y ci. Hónid yn y modd sicraf, gan ddynion a gyfrifid yn eirwir, fod drychiolaethau lawer yn ymrithio yn mhob cwr o'r wlad, ac yn aflonyddu ar luaws o dai. Ymddangosent, meddynt, mewn ffyrdd croesion ac anial, ac mewn hen balasau;—cyniweirient lawer gerllaw hen furddynod a mynachlogydd, nes y byddai arswyd cyffrous ar bawb dramwy heibio iddynt wedi nos. Yn awr, pa le y maent? Naill y maent wedi ffoi o'n broydd, neu y mae yr ofn disail o'u bodolaeth wedi diflanu ymron yn llwyr o'r wlad. Rhoddai y teimlad ofergoelus hwn swcr ac achles i ddyhiriaid godi yma ac acw, yn cymeryd arnynt ddywedyd tesni, neu ragfynegu helyntion dynion am amser i ddyfod. Honent y medrent