Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/631

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

holl garedigrwydd a ddangosasant i'r efengyl, a dadgan ei ddymuniad, ar i helaethrwydd o fendithion yr efengyl, ac o nawdd rhagluniaeth, aros arnynt. Yn mhlwyf Llangower, gerllaw y Bala, y ganwyd John Peters, yn y fl. 1779. Ond yn y Bala y magwyd ef, gan mwyaf, gydag ewythr iddo, sef tad y Parch. David Rowland, Llidiardau, yn awr. Yn y dref hon yr ymunodd â'r eglwys, ac yma yr oedd pan ddechreuodd bregethu. Cafwyd arwyddion yn lled fuan, fod ynddo raddau o ddawn; yr hwn a amaethid gan yr hen flaenoriaid, trwy ei ddwyn ef, ac eraill cyffelyb iddo, gyda hwy, ar nosweithiau yr wythnos, i wahanol ardaloedd yn y fro, i gynal cyfarfodydd gweddio. Pan oedd John Peters tua 23 ml. oed, galwodd yr hybarch John Evans ef, a'r diweddar Thomas Owen o'r Wyddgrug ato, a dywedodd wrthynt, "Y mae yn rhaid i chwi fyned yn fy lle i heddyw; o herwydd fy mod yn analluog gan afiechyd i fyned i'm cyhoeddiad; ewch chwi a darllenwch bennod, ac ewch i weddi yn fyr; ac os cewch ar eich meddwl, dywedwch ychydig oddiwrth y bennod. Yr oedd eisoes radd o awydd pregethu ar y ddau gyfaill, ond ni fynegasant hyny i'w gilydd, a dychwelasant y tro hwn heb gynyg pregethu. Eto nid hir ar ol hyn, fe gydsyniodd John Peters â dymuniad ei gyfeillion, ac anturiodd ar y gorchwyl pwysig. Buan y deallwyd fod ynddo lawer o gymhwysderau i'w gyfansoddi yn bregethwr ennillgar a buddiol iawn. Yr oedd prydferthwch ei wedd, sirioldeb ei dymher, melusder ei ddawn, a phwysigrwydd ei athrawiaeth, yn cyd-wasanaethu i ennill iddo wrandawyr a chyfeillion lawer. Gwasanaethodd yr efengyl yn llafurus am 33 ml., gan deithio llawer ar Ogledd a Dehau, ac ennill iddo ei hun gymeradwyaeth mawr oddiwrth yr eglwysi, a llawer o ddychweledigion yn seliau i'w weinidogaeth. Treuliodd un mlynedd ar hugain o'i oes weinidogaethol yn nhref y Bala; ond yn y fl. 1823, fe symudodd ei drigfan i Drawsfynydd, trwy iddo briodi gwraig weddw yno. Chwe' blynedd cyn ei farwolaeth, sef yn y fl. 1827, neillduwyd ef i holl waith y weinidogaeth. Yn y fl. 1832, 'cyfarfu â damwain, trwy i gareg syrthio ar ei droed, yr hyn a roes ysgytiad trwn i'w gyfansoddiad yn gyffredinol, ac a'i caethiwodd dros lawer o fisoedd; ac ar ol iddo gael iachâd i'w aelod, canfuwyd fod anmhariaeth trwm wedi cymeryd lle yn ei iechyd, fel na allodd bregethu ond ychydig o hyny allan. Bu farw mewn tangnefedd ar y 26ain o Ebrill, 1835, gan adael coffadwriaeth hyfryd am dano, yn mysg lluaws mawr o gyfeillion, a deimlent y golled ar ei ol.

Gŵr cyffelyb iddo oedd y Parch. Richard Jones o'r Bala. Ganesid hwn yn y f. 1784. Yr oedd yn un o 12 o blant; ac nid oedd ei dad ond crefftwr trafferthus, fel na ellid dysgwyl y rhoddid llawer o fanteision dysg i'w mab hwn. Ond fe welir yn yr amgylchiad hwn, fel llawer craill, brawf arbcnig o fuddioldeb yr ysgolion rhad a osodasai Mr. Charles i fyny yn y wlad. Pan oedd Richard Jones yn chwe' blwydd ocd, anfonwyd ysgolfeistr duwiol i gadw ysgol rad Gymreig i blwyf Maentwrog, sef y plwyf nesaf at yr un yr oedd Richard ynddo; i'r hon yr anfonwyd ef, yn nghyd ag eraill o'i frodyr. Yn yr ysgol hon, er ieuanged ydoedd, fe ddysgodd ddarllen Cymraeg yn rhwydd a chywir, mewn ychydig fisoedd. Tynodd hyn gryn sylw arno, gan mor