Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/634

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sefydlog i'w cael;—un neu ddau oedd yr holl gynghorwyr ynddi. Nid oedd oddigerth dwsin a hanner o broffeswyr trwy yr holl wlad. Nid oedd pregeth i'w chael ond yn achlysurol, weithiau yma ac weithiau acw, gan ambell ŵr dyeithr, i sypyn bychan o bobl erlidiedig ac ofnus, wrth fur y fynwent, neu ar fol clawdd, neu mewn bwthyn llwyd. Y pryd cyntaf hwnw, nid oedd y fath beth a chapel gan y penau-cryniaid yn yr holl sir. Ond pa beth a welwn ni heddyw? Yn awr y mae pedwar ugain a mwy o gynulleidfaoedd;—tua chwe' mil o broffeswyr, yn nghyda thair mil o blant ganddynt;—tros ddeuddeg mil o aelodau yn yr ysgolion Sabbothol, a thua dwy fil ar bymtheg o bobl yn arfer gwrando pregethu bob Sabboth. Y mae tros ddeugain o weinidogion a phregethwyr yn awr ar y maes; a thros bedwar ugain o gapelau wedi eu hadeiladu, y rhai ydynt bellach, ymron i gyd oll, yn ddiddyled. Yn y cyfrif hwn golygir sir Feirionydd yn ei therfynau Methodistaidd, ac nid yn ei therfynau gwladol. Nid ydym yn gosod yr ystadegau hyn ar lawr, er mwyn edrych ar ein tegwch, nac mewn gwag ymffrost, ond i ddangos pa faint yr oedd yn rhaid fod y llafür a'r ymdrech ar y naill law, a pha arwyddion nodedig o foddlonrwydd a roddes yr Arglwydd i'w bobl ar y llaw arall, fel ag i ddwyn o amgylch gyfnewidiad mor fawr ac mor ddymunol.

Tra yr ydym yn credu fod y Beibl yn cynwys egwyddorion ac addysgiadau sydd yn arwain dynion i burdeb ac i fywyd, a thra yr ydym yn hyderu fod yr addysg a gyfrenir o'r pulpudau, yn yr ysgolion Sabbothol, ac yn y cyfarfodydd eglwysig, yn unol ag athrawiaeth y Beibl, yr ydym yn rhwym o lawenhau fod y can' mlynedd diweddaf wedi esgor ar y fath ragorfreintiau i sir Feirionydd fynyddig; a pha galon, iach ei naws, na theimla yn llon, fod y fath beiriandrefn ar waith i gyfleu hyfforddiant mewn pethau bywyd tragywyddol, i'r miloedd ar filoedd trigolion bob Sabboth? Pa sawl pechadur a gipiwyd fel pentewyn o'r tân yn ystod y can' mlynedd, sydd anmhosibl ei fynegu;—pa sawl un tywyll a oleuwyd; un anystyriol a argyhoeddwyd,—un gwyllt a arafwyd,—un trallodedig a gysurwyd! Fe welir hyn yn nydd y farn—gwneir sylw yno yn anad dim o'r ymdrech a wnaed i achub dynion, pan fydd amaethu daear wedi darfod, trafnidiaeth y byd wedi diflanu, a phrysur-dwrf daearolion wedi llwyr ddystewi.


DIWEDD Y GYFROL GYNTAF.





—————————————

GWRECSAM: ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD GAN R. HUGHES A'I FAB.