Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/633

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid oedd ofnadwyaeth yn ei argyhoeddiad, na hynodrwydd arbenig ar ei weinidogaeth; eto yr oedd yn bregethwr cyflawn a defnyddiol. Nid anfynych y ceid neb llai ei frychau, ac amlach ei rinweddau. Gorchwyl diddiolch a fyddai i mi ar hyn o bryd ymhelaethu, er mai hawdd fyddai hyny, yn enwedig mewn canmoliaeth i ras Duw, yr hwn a fu gyda'r brawd tirion hwn; yr hwn ras ni fu yn ofer chwaith: ond mae doethineb yn fy rhybuddio, mai afreidiol fyddai ymhelaethu, gan fod lluaws mawr o'm darllenwyr yn ei adnabod yn dda; ac hefyd, gan fod cofiant iddo wedi ei ysgrifenu gan ŵr medrus, y Parch. Lewis Jones, gerllaw y Bala, yr hwn a dâl yn ehelaeth i bob un a'i darlleno.

Mae Methodistiaeth Cymru yn ddyledus iawn am ei gychwyniad, ei gynydd, a'i lwyddiant presenol, i ddosbarth arall o ddynion, fel offerynau yn llaw Ysbryd a rhagluniaeth Duw, sef henuriaid eglwysi. Fe gyfodwyd llawer gŵr hynod o'r dosbarth hwn, mewn llawer cwr o'r dywysogaeth, ac felly hefyd, yn sir Feirionydd. Dosbarth yw hwn y mae eu henwau yn llai adnabyddus na'r pregethwyr, a'u gwaith yn llai cyhoeddus; ond dosbarth, er hyny, hollol angenrheidiol yn eglwys Dduw; a dosbarth hefyd, ag y cododd o hono ddynion dwfn iawn eu profiad, eang iawn eu gwybodaeth, a defnyddiol iawn eu llafur, yn mugeiliaeth eglwys Dduw. Ond rhy anhawdd a fydd i mi, nac yn wir i neb arall, wneuthur cyfiawnder â choffadwriaeth bersonol neb o'r dosbarth hwn, yn gymaint a bod y cylch y gweithient ynddo yn fwy anadnabyddus a neillduedig; ac yn gymaint na ysgrifenwyd ond ychydig am danynt. Ar yr un pryd, y mae yn hysbys yn mhob gwlad mor fawr ac mor fuddiol a fu gwasanaeth y cyfryw i achos Methodistiaeth Cymru.

Brithwyd sir Feirionydd â'r cyfryw henuriaid, y rhai y mae y wlad yn galaru am eu colli hyd heddyw. Yr oedd dynion o'r fath yma yn anrhydeddu y Bala dros lawer o flynyddoedd. Sonir hyd heddyw am dduwioldeb hynod Edward Evans, ac am weddiau grymus yr hen Richard Owen. Coffeir am gallineb Cristionogol Mr. Gabriel Davies, ac am ddyfalwch cyson Mr. Robert Griffith. Mae Edeirnion yn ddyledus iawn i ffyddlondeb John Williams, Cynwyd; a sir Feirionydd oll yn ddyledus i William Jones, Rhiwaedog, a John Griffith, Capel Curig. Ond amser a ballai i ni grybwyll enwau. Ac nid rhaid i ni, oddeithr yn unig er mwyn eu gosod yn esampl, gan fod eu gwobr eisoes yn fawr yn y nefoedd.

Llawer merch hefyd a weithiodd yn dda yn ei thŷ ac yn ei hardal. Gall y Methodistiaid gyfrif yn mysg eu nifer, lawer "mam yn Israel." Darllenwn am wragedd yn gweini o'r hyn oedd ganddynt i Grist, pan yn nyddiau ei gnawd; gwragedd a fuont yn mysg y rhai parotaf i'w letya ef,—y rhai olaf wrth ei groes, a'r rhai cyntaf wrth ei fedd. Trwy wasanaeth y gwragedd y gwnaed y gronglwyd yn glyd i lawer gŵr Duw y'Nghymru, y torwyd eu newyn, ac y dadluddedwyd eu blinder. Gwnaed hyn gyda serchogrwydd a gŵylder priodol i'r rhyw, oddiar wir awyddfryd i wasanaethu achos yr efengyl. Ennillodd llawer gwraig "air da gan bawb a chan y gwirionedd ei hun."

Wrth gymeryd golwg gydmhariaethol ar Fethodisticth heddyw, yn sir Feirionydd, i'r hyn ydoedd gan' mlynedd yn ol, y mae i ni lawer o achos syndod a diolch. Y pryd hwnw, nid oedd ond un neu ddwy gynulleidfa