Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Griffith Jones, Llanddowror, yn seren fore y diwygiad.—Fe allai mai priodol fyddai cychwyn ein hanes ychydig yn ol; a rhoddi crybwylliad byr am yr hwn a alwyd, ac nid yn anmhriodol, yn "seren fore y diwygiad," sef y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, sir Gaerfyrddin. Yr oedd y gŵr duwiol hwn wedi dechreu ar ei orchwyl gweinidogaethol 30 mlynedd cyn i H. Harris a D. Rowlands ddechreu cyffroi y wlad trwy eu gweinidogaeth. Nid oes sicrwydd, er hyny, fod y Parch. G. Jones, ar ddechre ei weinidogaeth, yn meddu syniadau goleu, a phrofiad dwys o wirioneddau yr efengyl. Yr oedd ei fanteision yn brinion, o angenrheidrwydd, yn yr amser tywyll hwnw; eto, yr oedd ef yn ŵr o ddeall cryf, ac o dymher ddifrif. Ymroddai i ddarllen gwaith gwŷr da ar ddifinyddiaeth, yn Saesonaeg ac ieithoedd eraill; a bendithiwyd hyny iddo, nid yn unig er eangu ei wybodaeth yn athrawiaeth yr efengyl, ond hefyd er rhoddi iddo brofiad dwfn o'i hawdurdod a'i phwysig rwydd.

Mae enw Mr. Jones yn beraroglaidd yn mhlith ei genedl am dri pheth, sef ei lafur gweinidogaethol, llênyddol, ac addysgawl. Yr oedd y gŵr hwn yn sefyll yn uchel fel pregethwr, ac fel ysgrifenwr; ond yn benaf, fel un a osododd ei fryd ar ledaenu goleuni gwybodaeth o air Duw trwy ysgolion, a thrwy holwyddori. Mae ei enw yn gylymedig hyd heddyw wrth yr ysgolion rhad hyny, a elwid—Ysgolion Elusengar Cylchynol; am mai trwyddo ef y codwyd ac y sefydlwyd hwy. Mae yr ysgolion hyn, oherwydd eu buddioldeb annhraethol i'r genedl, wedi anfarwoli enw Mr. Jones yn mhlith y Cymry. Eu dechreuad oedd fel hyn :—Arferai Mr. Jones ddarllen y gwasanaeth ar y dydd Sadwrn o flaen Sul y cymun bob mis. Ar ol darllen yr ail lith, gofynai, a oedd neb yn y gynulleidfa wedi dal sylw ar un adnod yn y pennodau a ddarllenwyd? Gwedi i rywrai adrodd adnod neu adnodau, yntau a agorai yr adnodau hyny mewn modd hynaws, ennillgar, a deallus, cymhwys at ddeall y bobl anwybodus. Yna holai y rhai a ddeuent o newydd at fwrdd yr Arglwydd:—1. Am waith Ysbryd Duw ar eu heneidiau. 2. Am eu gwybodaeth o athrawiaeth yr efengyl. 3. Am eu bucheddau. Weithiau, byddai o 15 i 30 o'r fath ymgeiswyr yn cael eu holi ganddo yn gyhoeddus. Trwy y moddion hyn fe wnai les, nid yn unig i'r ymgeiswyr eu hunain, ond hefyd i'r gwrandawyr lluosog a ddeuent yn dyrfaoedd o bob parth i wrando arno. Er mwyn denu eraill a safent yn ol, sef y rhai mewn gwirionedd yr oedd reitiaf iddynt wrth addysg, y rhai weithiau oeddynt hen mewn anwybodaeth, gwnai yn hysbys y rhoddid bara i'r tlodion ar y Sadyrnau hyn, wedi ei brynu â'r arian a gyfrenid gan y cymunwyr. Pan ddeuai y tlodion i dderbyn y bara, gosodai hwy yn rhes, a gofynai iddynt ryw gwestiynau hawdd eu hateb. Fel hyn yn raddol fe lwyddodd i oleuo eu meddyliau, ac i ennill eu serchiadau. Er eu cynydd mewn gwybodaeth o'r ysgrythyrau, gosododd arnynt ddysgu adnod neu ddwy o'r Beibl i'w hadrodd yn gyhoeddus yn y llan cyn derbyn y dorth fara; ac fel hyn, aeth yn ddefod i bob un adrodd adnod cyn derbyn y bara. Trwy y moddion hyn, daeth Mr. Jones yn gydnabyddus â mawr anwybodaeth y tlodion na allent ddarllen. Parodd