Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyn iddo "fawr ofal calon," a'i "ysbryd a gynhyrfwyd ynddo," gan awydd cael rhyw foddion i wrthweithio y drwg dirfawr hwn. Esgorodd hyn ar yr Ysgolion Rhad Cylchynol. Trwy arian y cymun y sefydlodd un ysgol, yna dwy; a thrwy y dechreuad bychan hwn, fe gafodd y fath brawf o fuddioldeb yr ysgolion, nes gosod ei fryd ar sefydlu ychwaneg. Cynyddodd eu rhif a'u llwyddiant fwy-fwy. Ymddangosodd effeithiau dymunol yr ysgolion hyn, yn fuan ar foesau y trigolion. Rhoddwyd heibio y rhodiana a'r campio ar y Sabbothau, er dirfawr ofid i'r telynwyr a'r crythwyr a gyflogid yn gyffredin gan yr ieuenctyd wrth y flwyddyn i chwareu iddynt.

Cynorthwywyd Mr. Jones i helaethu maes ei lafur, ac i luosogi yr ysgolion hyn, trwy haelioni y Gymdeithas i Daenu Gwybodaeth Gristionogol. Cafodd anrheg ganddi o lawer o Feiblau, ac o filoedd o lyfrau eraill. Ymledaenodd yr ysgolion dros yr holl dalaeth, a chafodd miloedd lawer o breswylwyr y dywysogaeth, ieuenctyd a chanol oed, les anmhrisiadwy trwyddynt. Yn y fl. 1760, yr oedd eu rhif yn 215, a'u deiliaid yn 8687. Cyfleid hwy ar led Cymru yn y wedd ganlynol :

DEHEUBARTH GWYNEDD
Ysgolion Ysgolorion Ysgolion Ysgolorion
Sir Frycheiniog 4 196 Sir Fon 25 1023
— Aberteifi 20 1153 — Gaernarfon 27 981
— Gaerfyrddin 54 2410 — Feirionydd 15 508
— Forganwg 25 872 — Ddinbych 8 307
— Fynwy 2 61 — Drefaldwyn 12 339
— Benfro 23 837
128 5529 87 3158

Cyfanswm yn y De a'r Gogledd.—Ysgolion, 215. Ysgolorion, 8687.

Pan fu farw Mr. Jones yn y fl. 1761, yr oedd rhif yr ysgolion yn 218. Cawn fod cynifer a 10,000 o ysgolorion wedi cael eu dysgu ynddynt mewn un flwyddyn; ac nid llai, meddir, na 150,212 o nifer o bob oedran, o 6 mlwydd oed hyd 70 oed, a ddysgwyd ynddynt i ddarllen y Beibl Cymraeg, mewn ysbaid 24 o flynyddoedd. Cafodd yr ysgolion hyn eu dal i fyny ar ol marwolaeth Mr. Jones, trwy haelioni a brwdfrydedd Mrs. Bevan o Lacharn, boneddiges a ddychwelasid trwy ei weinidogaeth yn Llanllwch, pan oedd hi yn Miss Bridget Vaughan. Cynaliwyd yr ysgolion gan y foneddiges hon tra y bu hi byw; a gadawodd hefyd yn ei hewyllys £10,000 tuag at sicrhau eu parhad. Ond, fel llawer o'r fath, y mae y ddarpariaeth garedig hon wedi myned yn ddifudd i'r Cymry. Yr oedd lledaenu gwybodaeth o air Duw yn mhlith ei genedl yn amcan na ollyngai Mr. Jones byth yn anghof. Yr oedd yn ysgrifenedig ar ei galon; ac i sicrhau yr amcan hwn y gogwyddai â'i holl nerth. Gosodai ei holl deulu dan arholiad yn yr un modd a'r gynulleidfa; a phan y gelwid arno, neu y caniateid iddo weinidogaethu mewn plwyfydd eraill, efe a ddefnyddiai yr un moddion. Yr oedd ei enw wedi myned ar led y wlad fel pregethwr rhagorol, yr hyn, yn nghyda newydd-deb y dull a gymerai i ddwyn sylw ei wrandawyr, a barai i dyrfaoedd lluosog ddyfod i wrando arno, fel y bu gorfod arno yn fynych bregethu yn y fynwent, gan na fyddai lle digonol i'w wrandawyr yn y llan. Yr oedd dydd Llun y Pasg,