Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dydd Llun y Sulgwyn, yn ddyddiau nodedig yn yr oes a'r wlad hóno; nid am y dull santaidd o'u cadw, ond am yr ymgynull a wnai tyrfaoedd lluosog i gynal rhyw gamp-chwareuon, mewn gwahanol fanau. Mr. Jones yntau a ddewisai y dyddiau hyn i gyfarfod â'r tyrfaoedd, ac i bregethu iddynt. Dywedir i ni y byddai yr olwg ar y cynulliadau hyn ar y cyntaf yn wyllt ac anifeilaidd; ond yn raddol, canfyddid eu gwedd yn sobri dan ei weinidogaeth, a disgynai arnynt yn fynych ofn a braw, nes y byddai eu dagrau yn lli, a'u hwylofain yn uchel. Mawr y galanas a wneid, gan y gŵr duwiol hwn, yn myddin y gŵr drwg.

Cadwai Mr. Jones fath o athrofa yn y llan, yn yr hon y dygwyd i fyny amryw ddynion defnyddiol yn eu dydd. Y mwyaf nodedig o honynt, am yr hwn y mae genym ddim hanes, oedd y Parch. Howel Davies, un o dadau enwog Methodistiaeth yn sir Benfro, ac at yr hwn y cawn eto alw sylw y darllenydd. Yr oedd yn amgylchiad nodedig yn nghychwyniad y gŵr hwn ar ei waith, ddarfod i Mr. Jones roddi hysbysrwydd i'r gynulleidfa, fod ei ddysgybl ieuanc ar gymeryd ei gyflawn urddau; a thaer erfyniodd eu gweddiau drosto, ac am fendith yr Arglwydd arno, ac ar ei weinidogaeth. Gellid dysgwyl pethau mawrion oddiwrth weinidog yn cychwyn ei yrfa gyhoeddus dan y fath amgylchiadau.

Nid ein gorchwyl ni ydyw ysgrifenu bywyd y gŵr parchedig hwn, ond i'r graddau hyny yn unig ag y dug ei lafur ef berthynas â'r diwygiad grymus a ddylynodd. Ni a welwn, yn yr amgylchiadau a ddaw eto dan sylw, y bu llafur y Parch. Griffith Jones fel athraw, fel awdwr, ac fel gweinidog, yn foddion arbenig yn llaw Duw i roddi grym cychwynol, a maeth cynyddol, i'r diwygiad Methodistaidd; fel y gellir ei alw yn briodol iawn yn seren fore y diwygiad. Gwir iddo ef barhau mewn undeb â'r eglwys sefydledig dros ei oes; a chafodd lawer mwy o ryddid, yn y berthynas hòno, nag a gafodd llawer un da ar ei ol; ac nid ydym, gan hyny, yn hóni hawl ynddo, mewn ystyr briodol, fel un o'r tadau Methodistaidd: nid ydym, chwaith, yn edrych arno un mymryn gwaeth oblegid hyn. Anrhydeddwyd ef yn fawr gan Dduw, a bendithiwyd ef yn fawr i ddynion. Rhoddes y "Santaidd hwnw " eneiniad ardderchog ar ei weinidogaeth bersonol; llanwyd ef o aidd anniffoddadwy yn ngwasanaeth ei feistr; rhoddwyd iddo fod yn offeryn cychwynol i gyfranu addysg i gant a hanner o filoedd o'i gydwladwyr tywyll a diddysg; a rhoddwyd iddo, hefyd, fod yn offeryn i ddeffroi a dychwelyd y gŵr hynod hwnw, y cawn, bellach, arwain y darllenydd at ei hanes, sef yr anfarwol DANIEL ROWLANDS O Langeitho.

Bu farw y Parch. G. Jones yn y fl. 1761, ac yn y 78 fl. o'i oedran, yn nhŷ Mrs. Bevan. Rhoddwyd ei gorff i orphwys yn eglwys Llanddowror, lle y buasai yn gweinidogaethu 45 o flynyddoedd. Ni fu yn eglwys Llanddowror y fath olygfa erioed o'r blaen, ag a welwyd y pryd hwn. Hawdd y gellid dweyd, yn yr olwg ar ruddiau gwlybion y tyrfaoedd a ddaethent yno ar yr achlysur, "Wele, fel yr oeddynt yn ei garu ef." Ychydig a fu fyw yn