Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

adnabu Andreas yr Iesu, y dygodd efe ei frawd Simon ato. Yr un modd, Phylip a ddygodd Nathanael ato. Felly yma: ni allai y wraig hon ymattal, wedi profi grym y gwirionedd ei hunan, heb wneyd cais teg ar ddwyn y gwirionedd hwnw i glyw ei chymydogion.

Fe wel y darllenydd craff y moddion dystaw a ddefnyddiai'r Arglwydd i ledaenu gwybodaeth iachawdwriaeth yn y wlad. Nid y gŵr mawr, ac nid yr awdurdodau gwladol-nid cyfraith y tir, a llawer llai arfau rhyfel, a ddefnyddiai i'r dyben hwn. Moddion llai eu rhwysg a'u twrf, dystawach eu hysgogiad, ond effeithiolach eu grym, a ddewisodd yr Arglwydd i gario ei achos mawr ef yn mlaen. Mae "pob câd y rhyfelwr mewn trwst, a dillad wedi eu trybaeddu mewn gwaed, ond hwn trwy losgiad a chynnud tân," Esay ix, 5. Bychan y meddyliodd Daniel Rowlands, a bychan a feddyliodd y wraig hefyd, fod y cam yr oedd y gŵr parchedig yn awr ar ei gymeryd, yn gychwyniad Methodistiaeth yn Nghymru—pregethu teithiol Cymru yn yr eginyn. Bychan y meddyliodd yr arweinid ef, trwy fyned allan o'i blwyf i bregethu, i fyned allan o ffiniau eglwys Loegr; ac yr esgorai y tro dibwys hwn—dibwys ynddo ei hun—ar ganlyniadau a effeithiai ar yr holl dywysogaeth, a hyny hyd eithaf terfynau amser.

Ond, dychwelwn at yr hanes. Aeth y wraig grybwylledig at Rowlands un Sabboth ar ol y gwasanaeth, ac a'i cyfarchodd fel hyn:—"Os gwir, syr, ydych chwi yn ei ddweyd, y mae llawer yn fy nghymydogaeth i mewn cyflwr peryglus iawn, ac yn myned yn gyflym i'r trueni tragwyddol. Er mwyn eneidiau gwerthfawr, deuwch drosodd i bregethu iddynt." Parodd y cyfarchiad hwn iddo synu; ond efe a'i hatebodd yn y fan, yn ei ddull cyflym ei hun, "Dof, os cewch genad offeiriad y plwyf." Y caniatâd hwnw a geisiwyd, ac a gafwyd. Hithau a fynegodd hyny gyda llawenydd i Rowlands, y Sul canlynol. Felly yr aeth i Ystrad-ffin, a phregethodd mewn modd rhyfeddol, a than arddeliad hynod iawn. Dywedir i 30 gael eu hargyhoeddi dan y bregeth hono. Nid oedd hyn ond "dechreuad dyddiau" iddo ef, ac i'r bobl hefyd. Cyffrowyd llawer i fyned i Langeitho i wrando arno, o hyny allan; ac agorodd hyn y ffordd iddo yntau fyned yn awr ac eilwaith i Ystrad-ffin i bregethu iddynt hwythau.

Adroddir hanesyn arall[1] am Rowlands, na ddylid ei adael allan yn y lle hwn. Yr oedd yn Ystrad-ffin ŵr boneddig a arferai dreulio boreuau y Sabbothau yn y difyrwch o hela. Gwnai hyn ar un o'r Suliau yr oeddid yn dysgwyl Rowlands yno i bregethu. Wedi iddo ef a'i weision gychwyn at eu gorchwyl, clybu y gŵr boneddig fod rhyw offeiriad dyeithr i bregethu yn yr eglwys y diwrnod hwnw; casglai hefyd, oddiar a glywai am y pregethwr, mai dyn allan o'i bwyll ydoedd, gan mai offeiriad crac y gelwid ef. Wrth ddychwelyd o hela, aeth i'r eglwys, a'i gŵn a'i gymdeithion gydag ef; ac o ddyben i ddyrysu a chywilyddio y pregethwr, safodd i fyny ar fainc, yn union gyferbyn a'r pulpud, gan lygadrythu yn hyf a diystyrllyd yn ei wyneb.

  1. Gwel "Coffâd am y Parch. D. Rowlands," gan y Parch. J. Owen.